Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Myddfai

Oddi ar Wicidestun
Ail godir muriau Salem befr Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Lloffion o Dywysennau
gan William Thomas (Islwyn)

Lloffion o Dywysennau
A greulawn fedd

MYDDFAI

GORFFWYSA di, fy nghyfaill. Y mae bedd
Yn well na bywyd, nad yw drwyddo oll
Ond delw o angau ar symudol ffurf.
Yr wyf yn aml, wrth edrych ar y fynwent,
Yn eiddigeddu fod fy ngheraint hoff,
Hunasant yn yr Iesu o fy mlaen,
Mor dawel a digyffro ym mreichiau hedd,
A minnau fyth yn crynnu ar y donn,
Tonn amser, gedwir mewn cyffroad llawn
Hyd fore'r Farn, pan sudda'n ol i'r dwfn,
Môr tragwyddoldeb, a'i holl gynnwrf drosodd.

Mai 16, 1854.

Nodiadau[golygu]