Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Anghofied araul for

Oddi ar Wicidestun
Clywaf lais breninfardd Israel Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Nefol Wlad
gan William Thomas (Islwyn)

Nefol Wlad

ANGHOFIED ARAUL FOR

ANGHOFIED araul for barddoniaeth mwy
Aberu f'enaid, a'i thragwyddol donn
Arwynnu oerion greigiau siomiant sydd
Yn anialeiddio traeth bodolaeth byth ;
Anghofied olwyn ganol bywyd droi
Pan ddelo'r nefol lif i lawr, o rhwng
Breuddwydwawr fanciau adgof, fyth y sydd
Yn barod i ddiflannu pan y gwna
Yr enaid mawr ond edrych tuag yno;
Ymlaesed dyfnaf linyn teimlad, fel
Rhyw gangen oer gwynfannus oddiar
Fedd newydd, newydd adfail o ddynoliaeth
Rhyw galon wedi pallu gwaedu mwy
A lledu clwyf bodolaeth; boed yr oll
O fywyd sydd yn werth ei godi uwchlaw
Y bedd, a'i blannu ar uchelion col,
Dan nos dragwyddol,—Os ANGHOFIAF DI,
FY NGWLAD, FY NGHYMRU.

Nodiadau[golygu]