Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Ar gefnfor amser
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← A greulawn fedd | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) |
Lluoedd y Storm |
AR GEFNFOR AMSER
AR gefnfor amser; o mor fin,
Y'n dryllir fyth gan nerth y don,
Dan bruddaidd nos a thywell hin,
Fel môr, aflonydd yw y fron;
Ond mae golygfa well gerllaw,
O mae yr hin yn dawel draw.