Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Lluoedd y Storm
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Ar gefnfor amser | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) |
Mynwent ystormus |
LLUOEDD Y STORM
YMLAEN cyflyma, a'i llengoedd ar ei hol,
Yn dryllio 'r bryniau oedrannus tlawd, y gwyntoedd ffol!
Cedyrn yr wybren, engyrth arfog lu,—
Ni welodd dyn erioed eu gwersyll cadarn fry,
Nac ar y cwmwl draw eu cysgod hy.
Eto ofnadwy ydynt, a nerthol yw eu llef,
Fel adlais mil o reieidr yn y nef;
A phan y bloeddiant o'r cymylau draw,
Ymgrynna'r bryniau beilch yn ufudd ar bob llaw.