Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Mynwent ystormus
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Lluoedd y Storm | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) |
Y Blaned goll |
MYNWENT YSTORMUS
NI welwyd maen ar fynwent fawr y don
Er amled yw y beddau yn ei bron;
Mynwent ystormus, tebyg i fywyd, ydyw hon.