Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Y Blaned goll

Oddi ar Wicidestun
Mynwent ystormus Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Lloffion o Dywysennau
gan William Thomas (Islwyn)

Lloffion o Dywysennau
Machlud haul

Y BLANED GOLL

AH! Dylai'r Nefoedd grynnu pan fo'r haul
Yn machlud i ddiddymdra, a gorseddfainc
Ymhlith y ser yn wag; a phan fo planed
Yn taflu ymaith ei modrwyon gwawl
Gan gydio yn un o welwon lampau angau,
Hwnt oddiar oriel bellaf olaf amser,
I chwilio mewn distawrwydd am ei bedd;
Heb adael onid gwagle erchyll tlawd
Diffeithwch mawr awyrol yn y nef
I gadw ei choffadwriaeth, ac anadlu
Ei henw mewn tymhestloedd geirwon mwy.

Nodiadau[golygu]