Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Machlud haul
Gwedd
← Y Blaned goll | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) Lloffion o Dywysennau |
Archangylion → |
MACHLUD HAUL
AGORA y Gorllewin deg ei breichiau
Draw i gofleidio'r Huan ruddwawr aeliau;
A dyd y cawr, -y cawr sy'n tramwy'r nefoedd,
A thân ei lygad yn goleuo'r bydoedd,—
I ddiddig orffwys ar ei phorffor fronnau,
Y teyrn sy'n dringo bythol uchelderau
Mynyddoedd beilch y dwyr a thyle'rnef bob borau,
Nes cyrraedd entrych canol dydd, brig y nwyfreol Alpau,—
Y Llewin deg dry oll yn wrid i'w ddenu
I'w thawel gysgodfeydd, a themtia'r nef i garu;
A swynion trymder cloa 'i aeliau obry,
Tra bydoedd dorf o'i amgylch yn tywyllu.