Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Cyngherdd Natur
Gwedd
← Mor y Nos | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Ystorm ar y Bryniau gan William Thomas (Islwyn) Ystorm ar y Bryniau |
Eden → |
CYNGHERDD NATUR
MAE'R storm yn llawn o Dduw.
Draw, clyw molianna ef
A lleisiau uchaf natur,
Ag uchel leisiau'r nef;
A'r daran sydd yn arwain
Ei hanthem enfawr draw,
A'r tonnau a'r afonydd
Yn treiglo'r gerdd islaw.
A lleinw'r adsain gyntaf
Holl gonglau natur fawr,
A'r bryn ogofog etyb
Trwy fil o enau'n awr;
Mewn cylch o gôr awelon
Addola'r goedwig werdd,
Mae natur fawr yn arllwys
Ei henaid oll i'r gerdd,
A'i hemrynt o gymylau
Yn agor led yr wybren,
A'i holl daranllyd gorau
Yn croesi y ffurfafen.
Môr, gwyntoedd, a tharanau
Anadlant gylch y byd
Ryfeddol iaith dy allu, Ior,
A gwrendy'r ser i gyd
Tu cefn i'r cymylau
Yn wylaidd ac yn fud.