Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Eden

Oddi ar Wicidestun
Cyngherdd Natur Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Coll Gwynfa

EDEN

TIR anghof, ymagora unwaith mwy;
A gwawriwch eilwaith, ieuainc oriau'r byd.
Diflanna, nos ebargof, oddiar
Ddisgynnol lwybrau'r oesoedd, oni chawn
Olygfa trwoch hyd ffynhonnau amser.

Mae Eden aml ei cheinion ar fy ngwydd,
Yn gwawrio yn ei theg ieuengaf wrid.
A phwy na wylai wywo o hon
Mor fore, cyn i'r pren flodeuo bron,
A chyn i'r rhos uniawnu
Eu trws yn nrych y don?
O, nid oedd eisieu teml yn yr ardd,
Nac adail gysygredig. 'Roedd y wig
Yn gysegr iddo ef, a'r cangau balm
Yn crynnu fyth gan bresenoldeb Duw.
A phan agorai'r nef ei phabell fawr
Ar uchelfannau'r nos, a myrdd o ser
Yn tyrru tua'r ddôr
I weled y baradwys ieuanc hon,
Tra'r lleuad, newydd wawrio ar y gwyll,
Yn gwlawio ei goleuni tyner, ail
Cawodydd arian, i'r Elysfa deg:—
O! drydan yr olygfa, pan yr oedd
Y ser yn ieuainc, a'r wybrennau'n glir,
A'r holl gymylau'n wynion ac yn deg
Fel bronnau'r Wawr.

A phwy na wylai wywo o hon,
Baradwys diniweidrwydd, cyn i'r wig ymwisgo bron,
Cyn i'r blodau ddarfod chwerthin
Uwch eu delw yn y don?

Nodiadau[golygu]