Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Coll Gwynfa
← Eden | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Ystorm ar y Bryniau gan William Thomas (Islwyn) Ystorm ar y Bryniau |
Hiraeth Efa |
COLL GWYNFA
GWELAF hi,
Arglwyddes Eden gynt, o dan y gawod,
A'i hwyneb tua'r anial. Araf ddringa
I ael y mynydd stormus draw, a thry
Ei golwg tuag Eden unwaith mwy,
Un-unwaith eto. Ah! Ysgydwa 'i phen;
Ac yma a thraw edrychant, ar bob llaw,-
Ond nid oes cartref, Eden nid oes mwy,
Oer yw y nos lle'r ant; mae'u gwisg yn wleb;
A'r storm yn chwythu 'n aruthr.
A gauodd hi, yr Eden falmaidd hon?
A raid i'w blodau wywo ar ei bron,
Gwywo yn eu cyntaf wychaf wawr,
A'r banciau rhos a lili oll edwi ar y llawr?
Ar ol ymaros hyd yn hir brydnawn,
Gwel, wyla'r gwinwydd ar y werdd-don lawn,
Am nad oes adsain edn i'w glywed mwy,
Na thyner law i gyffwrdd â'u nefol rawnwin hwy.
Uwchlaw yr ardd gauedig
Dadblyga'r storom hy
Rôl enfawr o gymylau,
Mae'r nefoedd yn ei du;
A chedyrn byrth y daran
Hwnt glywaf yn dadgloi,
A'r gwyntoedd mân eu hedyn
O'u hamgylch yn crynhoi.
A chwydd afonydd Eden
Yn wynion dros y glannau,
A myrdd a myrdd o'i milod dront
Yn wylltion ar ei bannau;
A siglir hi am ennyd
Dan fyrdd o eirwon garnau,
A rhuthra'r eirth o'r goedwig, gan
Longyfarch y taranau.
Clyw aruthr ru y llewod
Wrth lamu mur y Wynfa;
A thrwy y nos ymlaen, ymlaen,
Ar faith wastadedd Asia.
Beiddgarwch, gorwylltineb,
Barddua'u hagwedd ffyrnig;
Myrdd ymddanghosant gyda'r wawr
Ar ruddgoch fronnau Affrig.
Ac yno ffroch orweddant,
Haul, dan dy wridfawr rudd;
A thrwy'r cysgodion yfant
Goch raiadr canol dydd.
Clyw! O fforestydd dyfnion
Ofnadwy uda'r blaidd,
Tra'r prennau yn ei ymyl
Yn dirisglo hyd y gwraidd.