Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Hiraeth Efa

Oddi ar Wicidestun
Coll Gwynfa Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Nefol leisiau Eden

HIRAETH EFA

AR fore oer a gwlawog crwydrai hi,
Efa, yn athrist tua'r fangre gu;
Ac araf ddringai ael y mynydd draw,
I syllu rhwng y broydd teg islaw.
Taer syllu am y fan, a'r dorau hwy,—
Yr oedd y storom rhyngddi a'r fangre mwy;
A synfawr drwst o'r wybrol ystafellau,
Wrth gau uwchben eu gwlybion awyr-ddorau;
A rhuai'r Dymhestl fel clwyfedig ddraig,
Gan rwygo'r nefoedd fry, a dryllio'r graig.
Estynnai'r wig ei breichiau noethion try,
Gan ymbil, hyd ei chanol yn y lli.
A'r gwynt ymdorchai am y dderwen fawr,
A'i gwreiddyn dyfnaf grynnai yn y llawr;
Clyw! Syrth ag erfawr drwst o graig i graig,
Nes gorffwys byth yn nyfnaf fedd yr aig.
Ymlithra'r dydd yn ofnus trwy y nen,
A thafl gylch ei gerbyd aml len,
Rhag i'w ogoniant yn ei wawl-rod draw
Gynhyrfu llid y nerthoedd ffroch islaw.
A'r bore wyla, wyla am yr hwyr,
A dringa 'n ddistaw awyr lethrau'r dwyr,
Heb dôn wahoddol oddiar y brig,
Y lawen dôn arferol gan fore gôr y wig.

Ond clywa hi leferydd hoff ei Hior
Ar enau'r gwynt, a mawrwych donnau'r môr,
Ac o'i orffwysfa yn yr anial pell
Dan gysgod uchel graig, ei ddidrain gell,
Hi alwa ar ei Hadda ganol nos,
Tra yn breuddwydio am ei Eden dlos;
A safant ar y graig i gyd-addoli,
Tra'r nef a'r anial yn eu hiaith yn moli.

Nodiadau[golygu]