Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Nefol leisiau Eden
Gwedd
← Hiraeth Efa | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Ystorm ar y Bryniau gan William Thomas (Islwyn) Ystorm ar y Bryniau |
Uffern → |
NEFOL LEISIAU EDEN
AH! Nefol leisiau Eden,
A'i heur-bêr gorau hi,
Adawsant fro yr wybren
A llonydd lannau'r lli;
Yr edn falmaidd odlau
Ni phlyg y golfen dawel,
Ac nid oes swn angylaidd dôn
Yn nefoleiddio'r awel.
Awelon llon y wawrddydd,
Yn ofer gwyliwch chwi
Am fore gyngherdd Eden,
A'i myrddiwn donau hi.
A Ion ei hunan dawodd
A'r mwynion eiriau mad,
Yr uchel bêr leferydd,
Melusiaith dwyfol Dad;
Gynt y mynwesai'r awel
Eu holl adseiniau per,
Hyd ganol nos, i'w tyner
Anadlu tua'r ser.
Ah! Mae'n llefaru eto
Yng nghlyw holl ddaear faith,
Ar orsedd yr elfennau,
A nerthol yw ei iaith;
A'i safle ar y cwmwl,
Cyfarcha'r byd o draw,
A holl elfennau natur
Yn hyblyg yn ei law.