Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Ei weled fel y mae

Oddi ar Wicidestun
Wyt yn dawel Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Dyffryn Galar
gan William Thomas (Islwyn)

Dyffryn Galar
Simon o Cyrene

EI WELED FEL Y MAE

ANGYLION uwch y ser,
Beth yw eich nefoedd chwi?
Pa beth yw swyn eich anthem bêr,
Beth eich ardderchog fri?
Golygfa dawel ar ei wedd,
Ah! Dyna 'u nefoedd, dyna'u hedd.

Ei weled fel y mae,
Gweld sylwedd nefoedd yw;
Pa beth yw siomiant, beth yw gwae,
Ond absenoldeb Duw?
Cawn nofio ar fôr o hedd di-drai,
Fyth wrth ei weled fel y mae.

Gorffennaf, 1854.

Nodiadau[golygu]