Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Wyt yn dawel

Oddi ar Wicidestun
Ceisio Gloewach Nen Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Dyffryn Galar
gan William Thomas (Islwyn)

Dyffryn Galar
Ei weled fel y mae

WYT YN DAWEL

HENO mynnwn am ennyd
Ymryddhau o boenau'r byd;
A neshau, yng nghwmni'r ser,
O dan ffurfafen dyner,
Tua'i hunig unig annedd,
A gorffwys ar bwys ei bedd.

Anwyled, mwyned i mi,
Yr annedd lle yr huni!
Fy morau olau helynt,
Felusion adgofion gynt!

Wyt yn dawel tan dywod,
Gwiwfan i flinedig fod;
Minnau yno, 'mhen ennyd,
Fêl hun gaf, wyf flin i gyd.

Nodiadau[golygu]