Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Fflachiadau eu dychymyg
← Nefol wlad | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Nefol Wlad gan William Thomas (Islwyn) Nefol Wlad |
Clywaf lais breninfardd Israel → |
- FFLACHIADAU EU DYCHYMYG
Eu rholfawr iaith
Fflachiadau dieithr eu dychymyg, pell
Fawrhydi eu meddyliau ar hyd nef
Oruchaf Ior yn treiglo, a'r is rol
O ddwyfol fawredd, oesoedd cyn ei dod
Wnaent yn bresenol y rhagluniaeth fawr
Ddymchwelodd seiliau Babilon, a holl
Ogoniant bro Caldea, fel na roed
Lle iddi yn y meddwl mwy.
A chaed
Adgofion teithiau Israel, golygfeydd
Pell feusydd Soan a ysgydwyd gan
Y storm o ddwyfol farnau. Dyfnaf ing
Y torfoedd sanctaidd pan wersyllent hwy
Ger Piahiroth gynt; a mawrwych rwysg
Deheulaw lor yn parthu'r môr fel rhyd,
Yn archu i'r storom sefyll ar ei thaith
A dal y tonnau yn ei breichiau pell,
Nes mynd o'r bobl enillasai Ef
Oll drwodd.
A chân milfiloedd Jacob wedi cael
Glan rhyddid unwaith mwy, a môr tu ol
A thywyll for o farnau, môr
O ddifrifolach twrf oedd rhyngddynt hwy
A thy eu hir gaethiwed ; uchel gân
Y genedl fawr unedig, oddiar
Bob cywair yn ehedeg, tra y dwfn
Yn murmur mewn mawreddog ymfoddhad
Uwchben gelynion lor, prif gedyrn Ham;
Ac adfail ar ol adfail ar ryw don
Lonruawl yn dyferu ar y traeth,—
Cerbydau di-olwynion, erfawr daen
O laddedigion barn. Golygfa fawr
Y Duw-ddisgyniad ar y mynydd gynt,
Pan ruai'r daran yn ei phriod rwysg
O enau lor ei hun, a Sinai oll
Yn mygu fel pe caid ei greigiau i gyd
Ar dân tragwyddol dan gyffyrddiad Duw.
Caed yr adgofion cysegredig hyn
A'r mawrwych olygfeydd, am oesoedd fil,
Yn ail ymddangos a newyddaf wawr
Ar alwad y broffwydol awen, pan
Y mynnai hi egluro gallu Duw.
Duw Israel a'i Hachubydd. Fel y gwnaeth
I Pharaoh a'i gerbydau wrth y môr,
Pan syrthiai'r gorddyfnderau arnynt hwy;
Ac i frenhinoedd yr Amoriaid gynt,
Y gwna efe i Babilonia mwy,
Philistia hefyd.
Syllent hwy yn ol,
Beirdd Israel, trwy lawer oes o waed,
Hyd fore 'u gwyrthiol hanesyddiaeth, hyd
Bell fuddugoliaeth Rephidim, lle caent
Eu cynllun cyntaf o ryfelawg lwydd,
Tyrfaoedd Amalec yn syrthio o flaen
Oshea ieuanc a'i ddewisol wyr.
Fe gerddodd yr olygfa hon i fyny
O fae- y gwaed, a'i mawreddogrwydd oll
Am dani; Moses fawr ar ben y bryn
Ali law ar bethau uwch na'r haul, hi gerddodd
I mewn i bellaf dragwyddoldeb cof,
Gan ado 'i gwawr ar bob cyfryngol oes,
Pob awenyddol ddarlun.