Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Morgan Howel

Oddi ar Wicidestun
Mae gan y nos ei gwersi ter Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Lloffion o Dywysennau
gan William Thomas (Islwyn)

Lloffion o Dywysennau
Tlws ond tlysach

MORGAN HOWEL

WRTH araf ddisgyn tua'r bedd ororau,
A chwmwl angau yn pruddhau ei wedd
Ymlonni wnai yng ngwên y seren fora,
Ac yn ei golau fythol ddydd a hedd;
A gobaith adgyfodiad, i chwalu niwl y bedd.

Y gobaith teg, fel paladr byw
O'r gloewaf haul yn nennau Duw,
Siriolai olaf awr ei yrfa brudd,
Gan euro hwyr ei oes, nawn ei fachludol ddydd.

Na choller deigryn ar ei fedd,
Ei ddôr i ddydd, ei borth i hedd ;
Boed llygad yma'n sych, a'r dôn yn effro,
Byth na neshawn at feddrod sant i wylo.

Nodiadau[golygu]