Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Mae gan y nos ei gwersi ter
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Ar lanw o adgofion | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) |
Morgan Howel |
MAE GAN Y NOS EI GWERSI TER
MAE gan y nos ei gwersi ter,
Aml fel y ser,
Ei chronfa o heuliau.
Y ser, beth ydynt? Bydoedd fry.
Ie, bydoedd i'r angylion. Ond i ni,
Gweinion lusernau.
A ydwyt fawr? Mae truan wrth dy ddôr,
Ymostwng, dyro iddo ran o'th stôr ;
Na fydd rhy fawr. Mae'r bydoedd mwyaf fry
Trwy'r oesau'n cael eu galw yn lampau gennym ni,
A boddlawn ydynt, a thrwy ffenestri 'r nen,
Ar syml wiriondeb dyn gwenant uwchben.