Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Ar lanw o adgofion

Oddi ar Wicidestun
Tyrd, egwyl Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Lloffion o Dywysennau
gan William Thomas (Islwyn)

Lloffion o Dywysennau
Mae gan y nos ei gwersi ter

AR LANW O ADGOFION

AR lanw o adgofion
Fe lifa teg ddrylliau
Y llynges odidog
O fore bleserau ;
Gyda'r hon y cychwynnem
O borthladd ieuenctyd,
Mewn hafaidd awelon,
Rhy hafaidd, rhy hyfryd ;
A phan lifont i mewn gyda storm o adgofion,
Pa ddewrder all forio o amgylch y galon?

Nodiadau[golygu]