Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Tyrd, egwyl

Oddi ar Wicidestun
Y Diluw Tân Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Lloffion o Dywysennau
gan William Thomas (Islwyn)

Lloffion o Dywysennau
Ar lanw o adgofion

—————————————

III. LLOFFION O DYWYSENNAU

—————————————

TYRD, EGWYL


TYRD, egwyl, pan dderbynnir dyn
Fel meddwl noeth i mewn i Dduw ei hun.
Anwylion bywyd mwy, i mi
Meddyliau noethion ydych chwi
Yn ol yn Nuw a thragwyddoldeb fry.
Y pell adgofion ! Ymgrynhoant hwy
O fewn fy enaid fel un meddwl mwy.

Nodiadau[golygu]