Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Pwy all edrych, Gymru

Oddi ar Wicidestun
Ar ben y mynyddoedd Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Efryda wedd natur

PWY ALL EDRYCH, GYMRU

PWY all edrych, Gymru, ar dy fryniau
Yn sefyll byth heb droi nac ymwahanu
Tra oesoedd ar ol oesoedd yn diflannu,
A'r nef yn gorffwys ar eu beilch ysgwyddau,
A choron o ystormydd ar eu pennau,
Yr awel a'r aderyn per ei garol
Yn plethu eu plygeiniol gerdd
Mewn rhyddid anherfynol,—

O pwy all wrando trwst dy feilch afonydd
Wrth lifo mor fawreddig trwy dy froydd
I'r gwigoedd draw, fel gwyrddion demlau
Rhyddid
Yn agor eu canghenog ddôr i gorau yr awyr-fyd,—
Pwy, Gymru fad, heb deimlo ei hun, ynghanol
Y mawrwych olygfaoedd hyn
Yn rhydd ac anibynnol.

Nodiadau[golygu]