Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Efryda wedd natur

Oddi ar Wicidestun
Pwy all edrych, Gymru Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Mae llwybr y storm

EFRYDA WEDD NATUR

EFRYDA wedd natur,
Mawr yw yr elw ;
Mawr yw yr elw;
Mae natur yn troi

Ei hefrydwyr i'w delw.
Nid ofer myfyrio
Ar ymyl yr aig ;
O, dedwydd yr annedd
Dan gysgod y graig.

Trom, trom yw y galon
All wrando yr awel,
A bod mewn cadwyni
Ei hunan yn dawel.

Y nefoedd ni ledwyd
Tros ormes yn do,
A'r bryn ni orseddwyd
Ar adfail y fro.

Pwy gyfyd ei law
Yn erbyn y daran?
Pwy fatha ei enw
Ar gerbyd yr huan?

A phwy amgylch yna
Bell ddinas y ser,
A chwifia ei faner
O'u tyrau ter?

Nodiadau[golygu]