Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Mae llwybr y storm

Oddi ar Wicidestun
Efryda wedd natur Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Nid yw hwnnw mwy

MAE LLWYBRAU Y STOROM

MAE llwybrau y storom
Mor llydain a'r nennau,
A'r broydd oll iddi
Yn agor eu dorau.

Pan goda y mynydd
Ei gaerau i'w herbyn,
Y nef a'i gwahodda
I'w mynwes ddiderfyn.

Pan ddringa i gerbyd
Y beiddgar elfennau,
Palmentir ei llwybyr
Hyd fil o wybrennau.

A'r dyfnder agora
Ei ddorau ystormus,
A'r moroedd tramwya
Mewn rhyddid mawreddus.


A phwy all ei gweled yn tramwy y nefoedd,
Yn croesi y môr ar aden y gwyntoedd,
Heb yfed ei hanian, a'i gwyllt ysbrydoliaeth,
A theimlo y myn, y myn fuddugoliaeth?
Mae geirwon lythrennau beiddgarwch a gallu
Ar fil o fynyddoedd draw wedi'u hargraffu ;
Ah! 'r beiddiant tragwyddol a hyrddiant i
wyneb
Yr arfog elfennau o thronau 'u gwylltineb.


A'r Nefoedd arfoga
Ei thymhestl fawr,

Gan gyffwrdd a'i tharan-ryfelgloch,
Gan hyfed a gwyllted eu gwawr.

Nodiadau[golygu]