Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Rwyf ar ddihun
← Cynhwysiad | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Dyffryn Galar gan William Thomas (Islwyn) Dyffryn Galar |
Mae deigryn ar y rhosyn hardd → |
ISLWYN
—————————————
I. DYFFRYN GALAR
—————————————
'RWYF AR DDIHUN
(Gofynnodd ei gyfaill Llawdden i Islwyn, yn union wedi
marw Ann Bowen, -"Ai breuddwyd yw bodolaeth ?" Ceir
ateb Islwyn yn y GWAITH, tud. 827-828. Dyma ddau bennill
ychwanegol o lawysgrif arall])
RWYF ar ddihun, yng nghanol gwirioneddau,
Fy hunan yn wirionedd ac yn ffaith;
'Rwyf ar ddihun, yn symud rhwng sylweddau,
Fy hun yn sylwedd o gywreiniaf waith ;
Aruthrol waith! O gyfaill, mor ryfeddol
Y'm gwnaed i fod, i fyw, trwy oesoedd anifeiriol.
'Rwyf ar ddihun, yn teimlo ynnof ysbryd
Yn llawn o anfarwoldeb, dwyfol rym;
Galluog i fwynhau di-drai ddedwyddyd,
Ac O! i ddioddef gwae anfeidrol lym;
Ah, ryfedd fod! Anfeidrol yw ei allu,
Mae'n edrych ar y bythol fyd dan wenu,
'Y Bythol Fyd, lle'r a ar fyrr i'w dragwyddoli.