Gwaith John Davies/Myfyrdodau Ioan ap Dewi

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Gwaith John Davies

gan John Davies, Tahiti

Ffarwel y Cenhadwr

JOHN DAVIES.

MYFYRDODAU IOAN AP DEWI,

Athraw Ysgol Gymraeg yn Llanrhaiadr ym Mochnant, wedi iddo glywed y newydd am y ddaeargryn yn Peru, y pryd y llyngcwyd dwy dref enwog, sef Cusco a Curto, y gyntaf yn cynnwys o gylch 58,000 o drigolion, a'r olaf oddeutu 35,000.

PA beth yw'r swn terfysglyd
Sy'n dod o ddydd i ddydd?
Rhyw fawrion newydd bethau
Yn amryw fannau sydd;
Terfysgoedd tân a dyfroedd,
Elfennau croes eu rhyw,
O fewn i Natur eang:
Sy'n dangos gallu Duw.

Yn nhiroedd y gorllewin
Fe grynnodd daear fawr,
Dwy ddinas fawr ac enwog
I'r dyfnder aeth i lawr,
Er distryw dinas Lisbon
Ni chlywsom beth o'r fath,
Rhyw filoedd aeth o ddynion
I'r gwaelod erchyll caeth.

Nid hir sydd er pan glywsom
Am hen Vesuvius syn,
Ei derfysg fawr arswydus,
A swn ei ddaear gryn;

O fewn ei fynwes danllyd,
Rhyw fawr dymhestloedd oedd,
Fel swn rhyw ganons aethlyd
Yn tanu mas ar goedd.

Ni glywsom am ryfeloedd,
A gwaith y cleddyf glas,
Bod miloedd maith yn syrthio
Ar hyd y gwaedlyd faes;
Ni glywsom fod y canons,
A'r lleill o'r arfau tân
Yn distrywio'n cyd-greaduriaid,
A'u gwneyd yn chwilfriw mân.

Mi glywsom bod iseldir Awstria,
A'i holl ardaloedd gwych,
Ei threfi, a'i dinasoedd,
A'i chaerau, 'n erchyll ddrych;
Bod meusydd wedi eu lliwio
Yn gochion gan y gwaed,
A meirch yn sathru dynion,
Ryw filoedd, dan eu traed.

Mi glywsom am afonydd
Dderbyniodd ffrydiau gwaed,
Hen Meuse, a Scheldt, a Rhein,
Wrth gyrrau German wlad;
Moselle, a Loire, a Lahn,
A'r afon Danube fawr,
Sy'n dystion i fyrddiynau
I syrthio yno i lawr.

Mi glywsom am ardaloedd Galia,
A'i therfysg erchyll iawn,
A'r tywallt gwaed oedd ynddi
Foreuddydd a phrydnawn;

Yn Paris, ddinas enwog,
Alsace, Toulon, La Vendee,
Ac amryw leoedd ereill,
Tywalltwyd gwaed yn lli.

Maesydd dyfrllyd Holland,
A German eang faith,
Rhyw ran o diroedd Prwsia,
A brofodd erchyll waith;
Rhiandiroedd Poland, hefyd,
A wnaed yn faes o waed,
Y Rwsiaid a ddistrywiodd
Ryw filoedd tan eu traed.

Hen Spaen a gafodd brofi
O rym y fflangell gref,
Ymdanu'r oedd y distryw
Wrth archiad brenin nef;
Nes cafodd tiroedd Ital
Eu rhan o'r distryw chwith,
A miloedd gael eu hanfon
I'r byd a bery byth.

Ni glywsom am y plâu
Yng Nghaer Cystenyn fawr,
Yn difa y trigolion,
Ryw nifer bob yr awr;
A thrwy orllewin India
Roedd clefyd ***** iawn
Yn difa milwyr Prydain
Foreuddydd a phrydnawn.

Tra'r oedd y barnau'n hedeg
O gwrr i gwrr y byd,
Hen Brydain a arbedwyd
Oddiwrth effeithiau'r llid;

Er bygwth arni farnau,
Amrywiol fath a rhyw,
Hyd yma mae tragaredd,
Amynedd rhyfedd Duw.

Y march fu bron a chyrraedd
O fewn terfynau'n tir,
Amrywiol chwith derfysgoedd
O'i mewn a fu, mae'n wir;
O fewn ychydig gwelsom
Ol carnau'r march arswydus du,
Ond er maint ein beiau hynod
Hyd hyn arbedwyd ni.

O fewn yr haf presenol
Tymhestloedd rhyfedd fu,
Gan d'ranau mawr, a chesair,
A mellt, a gwyntoedd cry;
Rhyw sulphur poeth oedd hynod,
Y wybren oedd ar dân,
Bygythiodd ddistryw erchyll
Yn amryw fannau o'i flaen.

Fy meddwl sydd mewn torfysg,
Rhyw ddychryn, ofn, a braw,
Wrth gofio am y basiodd,
Wrth feddwl am a ddaw;
Wrth feddwl fod pechodau
Trigolion nef a gwlad,
Yn gwaeddi i'r nef am ddial,
A rhyw arswydus nad.

Yn enwedig cyflwr Seion gysglyd
O fewn y dyddiau hyn,
Fel Ephraim mae penwynni
Yn taenu o'i mewn yn syn;

Rhyw falchder a chynfigen,
A chnawd, a hunan cas,
Sy'n awr yn ceisio lletty
O fewn i deml gras.

Rhyw weinidogaeth effro,
A rhyw ddisgyblaeth glos,
Rhyw wylio yn erbyn pechod,
A chodi i fyny'r groes;
Rhyw lefain taer am olew,
Rhag bod fel morwyn ffol,
Oedd yn eglwysi Prydain
Flynyddoedd rai yn ol.

Mae'n bryd in chwilio'n hunain,
Pa beth sydd gennym ni,
Rhag ofn mai sail o dywod,
A ymaith gyda'r lli;
Os amser chwynnu a nithio
Sy'n dod ar eglwys Duw,
A ŷm ni wenith puraidd,
O'r iawn rywogaidd ryw?

A ydyw calon ddrylliog,
A ydyw ysbryd briw,
A ydyw cas at bechod.
A sel tros achos Duw.
Yn cael lle o fewn ein mynwes?
Neu ynte pa fodd man bod?
A ŷm ni'n caru'r Iesu,
A byw i danu ei glod?

Mae'n bryd deffroi o gysgu,
A byw fel plant y dydd,
A thaflu oddiwrthym bwysau
A phob cadwynau sydd

Yn rhwystro ini a rhedeg
Yr yrfa sydd o'n blaen,
A ffoi fel Lot o Sodom
Cyn yr elo i gyd ar dân.

Ond doed hi fel y delo,
Daw arfaeth Duw i ben,
Fe gesglir oll a brynwyd
Gan Iesu ar y pren;
Efengyl Iesu a lwydda
Dros wyneb ehang fyd,
A'r son am dano a leinw
Y ddaear fawr i gyd.

Llanrhaiadr, Medi 30, 1797.