Gwaith John Davies/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Gwaith John Davies Gwaith John Davies
Rhagymadrodd
gan John Davies, Tahiti

Rhagymadrodd
Myfyrdodau Ioan ap Dewi

Rhagymadrodd.

WEDI bywyd byrr Ann Griffiths a Thomas Griffiths, dyma ni'n dod at ddau o'u cymdeithion gafodd oes hirfaith i weithio dros yr Iesu fuont yn gyd-ganmol yn seiadau Pont Robert,—John Davies a John Hughes.

Ganwyd John Davies, Gor. 11, 1772, mewn ty ar fferm Pendugwm, Llanfihangel yng Ngwynfa. Gwehydd oedd ei dad. Cafodd dri mis o ysgol, a daeth yn un o ysgolfeistri Charles o'r Bala. Bu yn athraw yn Llanrhaiadr, ym Machynlleth, ac yn Llanwyddelan. Dechreuodd yr yspryd cenhadol gymeryd meddiant ohono wrth ddarllen hanes y Morafiaid yn Greenland a Thomas a Carey yn yr India. Ysgrifennodd o Fachynlleth at Mr. Charles i gynnyg ei hun yn genhadwr. Wedi hir a hwyr cafodd wahoddiad gan Gymdeithas Genhadol Llundain i fynd i ynysoedd Mor y De; hwyliodd Mai 6, 1800; cyrhaeddodd Tahiti Gor. 10, 1801.

Daliodd i ohebu â theulu Dolwar am ychydig, ac â John Hughes drwy ystod eu hoes hir. Gweithiodd yn galed am flynyddoedd, yn wyneb anhawsterau mawrion a phrofedigaethau dwys. Ond torrodd y wawr o'r diwedd. Ym Mai 1821 ysgrifenna at John Hughes am drefn ei eglwysi blodeuog, a dywed fod ganddo ormod o waith i feddwl am ddod adre. Tra'r oedd John Hughes yn helpu i ffurfio Cyffes Ffydd y Methodistiaid, yr oedd John Davies yn cyfieithu Efengyl Ioan ac Epistolau Paul a Salmau Dafydd i dafod-ieithoedd Môr y De; a thra'r oedd y Cymry yn dechreu canu emynnau Ann Griffiths yr oedd yntau'n dysgu anwariaid Tahiti i ganu'r un syniadau yn eu hiaith hwy.

Ym Mawrth 1826, anfonodd hanes ei fordaith i ynysoedd Rapa a Raivavae a Tupuai yn Gymraeg at John Hughes. Gwnaeth waith anhygoel bron,—pregethu'r efengyl a dirwest, gwareiddio brenin a gwerin, cyfieithu'r Beibl, gwneyd gramadeg a geiriadur, ysgrifennu llyfrau ysgol ac emynnau, golygu cylchgrawn, cyfieithu "Taith y Pererin" a llyfrau eraill,—rhoddodd lenyddiaeth yn gystal ag efengyl i Tahiti.

Erbyn Rhagfyr 31, 1844, yr oedd dallineb wedi dod arno. Nis gall ysgrifennu rhagor a'i law ei hun; ac ni wiw i neb ysgrifennu ychwaneg ato yn Gymraeg, nid oedd neb yn Tahiti fedrai ddarllen Cymraeg iddo. Bu farw Awst 11, 1855; flwyddyn i'r mis wedi marw John Hughes, a haner canrif i'r diwrnod bron wedi marw Ann Griffiths.

Cyhoeddodd John Hughes ei lythyr ar "Drefn Eglwysig Ynysoedd Mor y Dehau" yn 1821, a hanes ei fordaith i Rapa yn Eur-wasg Llanfair-caereinion yn 1827. Ceir llawer o'i hanes mewn erthygl gan y Parch. Edward Griffiths, Meifod, yn "Newyddion Da" 1892, yn "Ysgolfeistriaid Mr. Charles o'r Bala" gan y diweddar Barch. Robert Owen, Pennal; ac yng nghyfrol werthfawr Penar,—"Cenhadon Cymreig."

O. M. EDWARDS.

YR OLWG GYNTAF AR TAHITI.