Gwaith John Hughes/Hymnau bore

Oddi ar Wicidestun
Cywydd ar Waith y Prynedigaeth Gwaith John Hughes

gan John Hughes, Pontrobert

Myfyrdod Ioan ap Huw

Codir yn awr bigion o hymnau bore John Hughes.

ER gofid byd a thrallod

HYMN

1 ER gofid byd a thrallod,
Ac amryw gawod gas,
Mae etto wir gysuron
I etifeddion gras;
I'r anial y nef a wlawia
Wir fara i Israel Duw,
Daw gloyw win puredig
I'r etholedig ryw.

2. Ni waeth beth fo'r byd a'u bierlau,
A'u holl deganau mân,
Hwy fyddant oll yn ulw,
Maent wedi ei cadw i dân;
Na fydded imi chwenych
Un gwrthddrych ond fy Nuw,
Mae ef yn gyflawn ddigon
O foddion imi fyw.

3. A gwnaed y byd ei waetha,
Ag eitha uffern gas,
Mae cadwedigaeth wrol
O rad ryfeddol ras;
Ni cheiff cnawd a llygredigaeth
Mo'r oruchafiaeth chwaith,
Ceir gweled y pererinion
Ar dirion ben y daith.


5. Pan fyddo'r byd yn llosgi,
A'r byd yn berwi'n bair,
Bydd canu a melys byngcio,
Gan gofio am y gair
Lefarwyd ar Galfaria
Gan Iesu, brenhin nef,
Tragwyddol swn y dyrfa
Fydd bloeddio "Iddo Ef."

Er herian fy nghelynion

HYMN 12.

Er herian fy nghelynion
Ar uchel fanau'r maes,
A phledio yngwyneb pechod
Na syfl cyfamod gras;
Rwy'n cael fy erchyll faeddu,
Ond eto er hyny 'n fyw,
A hyn o rad drugaredd,
Un rhyfedd iawn yw Duw.

Ces fyned i ben Pisca,
Ces weled tir fy ngwlad,
Bum wedi mewn amheuaeth
O'r etifeddiaeth rad;
O maddau, Arglwydd, madda,
A dyro imi ffydd,
I gredu pan fo'n dywyll
Fel yngoleuni'r dydd.

Y fi sydd yn cyfnewid,
Ond Duw sydd 'r un o hyd,
Eu addewidion a gyflawna
Er gwaetha meiau i gyd:
Fe gadd ei lwyr foddloni
Ar ben Calfaria fryn,
Ac yn yr aberth yma
Yr a'r Ethiop dua'n wyn.

Ni chafodd Duw mo'u dwyllo
Yn un o'u blant erio'd,
Fe wyddai am eu beiau
Er oesoedd cyn ei bod;
Mae'n dyled wedi ei dalu
Cyn ini bechu bai,
Ni all e ado 'n hollawl
Yr etholedig rai.

Ond cael Iesu yn y fyddin

HYMN 26.

Ond cael Iesu yn y fyddin,
Fe wyneba Seion wan
Ac gadernyd yr Edomiaid
A'r Moabiaid yn 'run man;
Daeth o Bozra,
Ni saif gelyn byth o'i flaen.

Ond cael, Iesu, dy gymdeithas,
I fynd trwy'r anial cas yn mlaen,
Ni bydd fy amal demtasiwnau,
Ond nifer o destynau can;
Buddugoliaeth
Gaf ar bob gelyn cyn bo hir.

Satan ddewr a'u demtasiwnau
Orchfygodd Iesu ar y llawr,
Parod yw i gydymdeimlo
A'n cynorthwyo ninau'n awr;
Mae fe'n ddigon
Mewn ystormydd o bob rhyw.

Paham y carai ddim o'r byd

HYMN 33

1. Paham y carai ddim o'r byd?
Rhaid imi gado oll i gyd;
Nid wy yma ond ar fy nhaith
Y mynd i dragwyddoldeb maith

Wel dyma newydd da i'r clwyfus enaid claf

HYMN 42.

1. Wel dyma newydd da i'r clwyfus enaid claf,
Fod meddyg rhad, a Cheid wad, a'm hiacha ;
Mae'n derbyn pawb yw anwyl gôl
Heb fwrw neb yn farw'n ol
Mae'n dal i alw Deuwch, a pheidiwch a'ch gwaith ffol."

Nodiadau[golygu]