Gwaith John Hughes/Myfyrdod Ioan ap Huw

Oddi ar Wicidestun
Hymnau bore Gwaith John Hughes

gan John Hughes, Pontrobert

Seiadau

Wedi 43 cyfres o hymnau, daw Myfyrdodau Ioan ap Dewi a'r ateb syn canlyn.

MYFYRDOD IOAN AP HUW

(y gwehydd, athraw ysgol wedi hyny), wrth sylwi ar y myfyrdodau uchod.

Wrth ddarllen eich myfyrdod
Rwy'n gweld rhyfeddod fawr,
Fod Brydain wedi harbed
Gan Iesu hyd yn awr;
Ei eiriolaeth ef sy'n llwyddo,—
"Gad etto'r flwyddyn hon,"
Gan ddangos tyllau'r hoelion
Ac ol y waew ffon.

Y pedwar march a ddaethant
I Ewrop y dyddiau hyn.
A Brydain, era bechodd.
A gafodd y march gwyn:
Ryfeloedd, heintiau, newyn,
A daiar gryn sydd draw,
Ond swn'r efengyl sy yma,
Er baeddu eitha baw.

O Frydain gwel dy freintiau,
Fe'th dderchafwyd hyd y nef,
Os tyner di hyd yn uffern
Anhoffus fydd dy lef,—

"Yr haf sydd wedi pasio,
A'r cynhauaf heibio aeth,
Ac ni nid ym gadwedig,
Ond wedi'n bwrw'n gaeth."

Mae'n chwith fod rhai'n diystyru
Pregethu Iesu Grist;
Beth yw ond gwrthod nefoedd,
A dewis uffern drist?
Bydd gwyr Ninife'r un bregeth,
A brenhines Seba draw,
Yn ei condemnio'n hynod
Ryw ddiwrnod nawr a ddaw.

Er cimaint sydd o bregethu,
Mae amal bechu'n bod,—
Balchder, lladd, a lladrad,
A ledrith dan y rhod;
A gwyro barn am arian,
Gorthrymu'r egwan rai,
Godineb, maswedd, meddwdod,
A chybydd-dod, a phob bai.

Daeth dialedd Duw gan drymed
Ar y paganiaid draw
Sy heb glywed am ddrwg pechod,
Och, och, pa beth a ddaw?
O drigolion gwlad yr efengyl
Sy'n troi gwegil at y gwir,
Rhyfedd fod Duw'n dyoddef
Y cyfryw ar ei dir.

Mae Duw'n ddig, diamal,
Am eu pechodau hwy
Ond y mae i bechodau Seion
'N anfoddlawn lawer mwy;

Am hyny mae'n bryd deffro,
A phawb droi atto ei hun,
Gan waeddi am gael nabod
Y pechod sy ynddo ynglyn.

A'i ddala megys llofrydd,
A gwneuthur ag ere
Fel gwnaeth Samuel ag Agag
O flaen yr Arglwydd ne;
Fel y byddo edifairwch,
A galar trist, a braw,
Yn haeddiant Crist fu'n dyoddef
Yn dal y barnau draw.

Yngwyneb swn rhyfeloedd,
Terfysgoedd y pryd hyn,
Cawn loches, awn i lechu,
I gôl yr Iesu gwyn;
A deued fel y delo
Does yno gyffro i ddod,
Ei ddwediad ini ydoedd,—
"Rhaid i ryfeloedd fod."

Pwy wyr nad ydyw'r amser,
Yrwan yn neshan,
I farnu'r butain ynfyd,
Y bwystfil a'r prophwyd gau?
A Babilon i syrthio
Yngrym y lladdfa iawr,
A Sattan gael ei rwymo,
Ac angrist fynd i lawr.

Er cimmaint yw'r elyniaeth
Yn nghalonau miloedd sydd,
Ceir gweled aunuwioldeb
Yn gorfod ildio'r dydd;

Eiff Seion yn ben moliant,
Ac angrist oll tan draed,
Nid oes neb a all wrthwynebu,
Myn Iesu werth ei waed.

Fe ddeuir trwy holl Ewrop,
Yn llariaidd o'r un sain,
Calonau pawb yn dryllio
Wrth gofio'r bicell fain;
Daw Affric fawr, daw Asia,
America 'r un pryd,
Derchefir Iesu'n llafar
Drwy bedwar cwr y byd.

Ioan ap Huw, Pont Robert ap Oliver,

plwy Myfod.

Nodiadau[golygu]