Gwaith John Hughes/Seiadau

Oddi ar Wicidestun
Myfyrdod Ioan ap Huw Gwaith John Hughes

gan John Hughes, Pontrobert

cyfres arall o Emynau

Y mae cyngrair rhwng fy llygredd

HYMN 44

Y mae cyngrair rhwng fy llygredd
A thrigolion uffern fawr ;
Ei holl amcan, ci holl ddiben,
Ydyw cael fy mhen i lawr;
Dal fi i fyny,
A chadw f'enaid gwan yn fyw.

Er cimmaint ydyw twyll fy nghalon,
A dichellion yr hen ddraig,
Pwy wyr na welir fi'n goncwerwr,
Trwy fy nghryfdwr, Had y Wraig ?
Mae fe'n ddigon,
Yngwyneb grym y mŵg a'r tân.


Yn awr daw cofnodion asosiat Brifat" ym Mathafarn o Medi 8 hyd Rhag 22, 1800. Dyma rai o'r pynciau.

I. Fod achos Duw'n cael y lle blaenaf. Sylwyd ar y gostwng penau a fydd yn y farn gan y duwiolion; sef goruwchwyledd duwiol, nid ofn na dychryn. Ni bydd Duw rhannog a neb; fe fydd

damnedigaeth yr annuwiolion yn hollawl arnynt eu hunain, heb fod gan Dduw un llaw ynddo, oblegid fod y rhwystr o'u hachubiaeth, sef gwrthodiad eu hiachawdwriaeth, i gyd ynddynt eu hunain ; ac fe fydd y clod am achub yr etholedigion i gyd i Dduw, oblegid iddo faeddu eu cyndynrwydd a'i ras a'i gariad.

II. Dyoddef Crist. Nid yngwaith Crist yn dyoddef yr oedd y Tad yn cael ei foddloni fwyaf, ond yn ei foddlonrwydd i ddyoddef.

III. Y ddisgyblaeth, mater Sasiwn Caernarfon. Eisiau ysbryd efengylaidd i geryddu. Dywedodd un hen frawd,—"Pan welid proffeswr y dyddiau aeth heibio dywedid yn union 'O wyneb y gwr drwg,'—delw Duw yn ymddangos yngwyneb y proffeswr yn cynhyrfu'r elyniaeth oedd yn y llall i'w gablu." Dau balas cyfagos, ty gwr bonheddig a thafarndy; dyn budr aflan yn myned i mewn i un. Pam? Y sein wrth ben y drws. Geneth dduwiol yn gwrando ar fachgen annuwiol.

IV. Edifeirwch; y ffugiol a'r gwir.

V. Pechod dirgel. Aros yn y tân sy'n llosgi.

VI. Gwaith yr Yspryd Glan. Goleuo'r enaid. Ail enedigaeth.

ARGLWYDD dyro dy Yspryd

HYMN AR DDYDD NADOLIG.

ARGLWYDD dyro dy Yspryd
I hyfryd gadw gwyl,
I ganu mawl in Ceidwad
Gwna ein henaid oll mewn hwyl;
Duw y sy'n uwch na'r nefoedd,
Y baban gwael tlawd,
Fu'n gorwedd yn y preseb,
Ein brenhin mawr a'n brawd.


Yma daw llythyr John Davies, yna hymnau

Fy ngwendid sydd yn fawr

Fy ngwendid sydd yn fawr,
Rwy'n syrthio yma a thraw;
Ni safai funud awr
Oni byddai yn dy law;
Dal fi, fy Nuw, dal fi o hyd,
Tra byddwy'n teithio'r anial fyd.

'Rwy'n teimlo hiraeth weithiau
Am weld y borau wawr,
Y llen wir fi á sancteiddrwydd
Ar ddelw fy Arglwydd mawr ;
Caf ymado byth a'm pechod,
A bod yn gwbl lån,
Caiff fy enaid sy yma'n oeri
Ei llenwi â'r nefol dân.


ENGLYN.

Ffynnon a gawson o gysur—'n y brawd
A briododd ein natur;
Mae fe'n briod parod pur,
A Cheidwad i bechadur.

Wedyn ceir cofnodion seiat ym Mathafarn, am brofiadau.

Sylwyd fod angen neillduol ini sylwi ar ddull ein hymddiried yng Nghrist, ai dan ei adnabod yr ydym yn ymddiried ynddo. Os felly yr ydym yn ddiogel. Dywedwyd cyffelybiaeth. Ped fae daw wr yn cydymdaith a'i gilydd, ac yn taro i ymddiddan yn gymdeithgar ar hyd y ffordd, ac i rywun arall ofyn i un ohonynt, "A adwaenoch chwi'r gwr oedd yn ymddiddan a chwi?" "Na adwaen i, ond gŵr ffeind neillduol yw." "Wel, a adwaenoch chwi ef?" "Yr wyf fi yn ei garu yn hynod." "Nid hyny mo'r pwynt, ond a wyddoch chwi pwy ydyw ef?" "Na wni yn y byd." "Wel, mae fe'n Fethodist anghyffredin." O ai e? Os felly, nid oes dim a wnelwyf fi ag ef."

Gellir edrych ar yr Arglwydd yn ei ras a'i drugaredd, ac oddiar y golwg hwnw meddwl ein bod yn ei garu; ond erbyn edrych arno yn ofnadwy mewn sancteiddrwydd, a bod ei gyfraith yn hollawl groes i'n natur ac yn ein condemio ni i dragywyddol gospedigaeth oni chawn ein dwyn i mewn i delerau'r cyfamiod gras, dyna iaith calon pawb wrth natur,—"Gwr tost yw." Os meddyliwn ein bod yn caru'r Arglwydd yr yr olwg ar ei drugaredd yn unig, heb allu ei garu yn yr olwg ar ei gyfiawnder a'i sancteiddrwydd, caru ein hunain yr ydym felly, nid caru Duw.

Yma daw cofnodau yr" Awstiat Fisol" gynhalwyd yn y Llechwedd, plwyf Trefeglwys, Ion. 19 a 20, 1801. Am berson Cristy siaredid

Sylwyd hefyd na ddeil gwybodaeth hannesol neb yn wyneb treial, mwy nag saif llong heb falastr neu bwysau ar y môr yn wyneb y gwyntoedd a'r tamhestloedd.

Nodiadau[golygu]