Gwaith John Hughes/Llythyrau at Ruth Evans?

Oddi ar Wicidestun
Sylwadau ar bethau ysbrydol Gwaith John Hughes

gan John Hughes, Pontrobert

Cofnodion Sasiynau

Yma daw Hymnu.

Ar ol yr emyn "Pan gymerodd pechod aflan" a dechreu'r bregeth ar Hab. I., 13, y mae daleneu wedi eu rhwygo ymaith. Dechreuer ddalen newydd ar ganol adysgrifiad o hen lythyrau.

Llythyrau at Ruth Evans?

Wyf finnau'n bresenol yn hollawl amddifad o honynt. Y mae'r gair hwnw sydd yn cael ei ddywedyd am Ephraim wedi dal er ys rai dyddiau ar fy meddwl." Ymdanodd penwyni ar hyd—ddo, ac nis gwybu efe. Y mae'r gair ymdaenu yn golygu adfeiliad graddol araf. Ped faem yn golygu perwyni naturiol yn ymdaenu, y mae'n dra graddol ac araf, etto yn myned yn y blaen. Wedi gweled ychydig flew gwynion mewn pen, ped faed yn ei edrych yn mhen y mis, ni ellid gwybod ei fod nemawr gwynach. Ond edrychwch e ben blwyddyn, dwy, tair, ceir gweled mai cynyddu y mae'r blew gwynion. Ac o ychydig i ychydig, aiff y pen yn wyn i gyd cyn pen hir.

Yn debyg i hyn y mae adfaeliad ysprydol. Nid myned yn ddidriniaeth hollawl ar unwaith, ond y wasgfa yn myned beth ysgafnach o bryd i bryd, a'r cysuron yn myned beth anamlach a gwanach, yn debyg i ddull Shecina yn ymadael or deml, nes mor dlawd a cholli'r teimlad o'r tlodi, "nis gwybu efe." Fel y mae dyn yn nesu ychydig at ei eulundod, y mae Duw yn nesu ychydig draw. O am iddi fyned yn waedd onest effro, —"Beth sydd i mi a wnelwyf ag eulunod mwyach?" ac hefyd " O Arglwydd, na ad ni."

Penwyni yn gyffredin sy'n arwydd o henaint. Dan y gwallt gwyn mae clywed yn drwm, gweled yn bwl, llefaru yn anghroew, yr archwaeth yn methu iawn flasu pethau, megis y dywedodd yr hen Barzilai wrth Dafydd.

Y mae'r pethau hyn yn dilyn heneiddio neu adfeilio mewn crefydd. Yn 1. Hwyrdrwm i glywed llais yr Arglwydd yn y gair a'r weinidoaeth ac yn ei ragluniaeth.' Yn 2. Pwl a thywyll i weled drych y cyflwr a gogoniant trefn yr iechydwriaeth. Yn 3. Annghroew o ddywedyd am ddaioni Duw. Yn 4. Yr archwaeth neu'r stumog ysbrydol yn frethu iawn flasu gwleddoedd yr efengyl.

Gall dadl godi yn y meddwl mewn ryw amgylchiadau. "Yr wyf yn awr mewn amgylchiad profedigaethus; mae'n anawdd i fy meddwl beidio mynd grin lawer ar ol yr hyn sy'r awr yn perthyn imi; ond ped fae hyn wedi mynd heibio gallwn ddisgwyl gwell byd etto." Rheswm gwan. Ceisio cuddio yspryd gwrthgiliad a hugan o wag esgus. Nid oes dim angenrheidrwydd aros i amgylchiadau proffedigaethus fyned heibio cyn disgwyl gwell byd. Pe felly, byddai raid aros hyd angau, canys rhyw brofedigaethau neu gilydd sy'n debyg o'n dilyn hyd ein hoes. Ond y mae'n yn yr efengyl fodd i orfoleddu mewn gorthrymderau. "Haiarn a phres a fydd dan dy esgid, a megis dy ddyddiau y bydd dy nerth." Digon gwir rhaid cerdded ffyrdd geirwon, ond paham rhaid digaloni, gan fod esgidiau addas i'r ffordd? Digon gwir rhaid i weiniaid wynebu gelynion cryfion, dichellgar, a dengar; ond nid rhaid digaloni er hyny gan fod nerth cyfattebol i'w gael.

Gair arall, "Nac ofna, ond cred yn unig." Peth tra phechadurus yw ofni ac amau addewidion Duw a'i barodrwydd i'w cyflawni. "Wel," meddi, "ofni yr wyf nad ydynt yn perthyn imi." Ateb,—y maent yn perthyn i bawb ai credo. Wrth edrych ar y agwedd wael a gwrthgiliedig, peth rhyfedd genyf feddwl fod digon yn yr addewidion i'm bath i; digon i faddau'r holl ac i iachau'r holl lesgedd. Y mae'r yr efengyl ymgeledd yngwyneb yr afluneidddra mwyaf. O am ffydd, O am nerth i dori ymhlaen i ymaflyd yn barchus yn addewidion rad yr efengyl. Y mae yno borfeydd breision. O am gael ein harwain iddynt, a gorwedd yn dawel ynddynt. Y dianrhydedd mwyiaf ar Dduw a'i drefn yw bod yr nychu mewn yspryd deddfol ac anghrediniol. Duw trugarog yw ein Duw ni; nid dyn neu angel trugarog, ond Duw TRUGAROG. Y mae ei drugaredd, fel efe ei hunan, yn anfeidrol. Y modd i roddi'r anrhydedd mwyiaf i Dduw yw mentro ei drugaredd yn ol ei drefn yngwyneb yr olwg fwyiaf echrydus arnom ein hunain. Canys y mae ei gyfiawnder a'r holl briodolaethau yn ymddisgleirio yn y modd mwyiaf gogoneddus yn ei drefn yn trugarhau wrth bechaduriaid trwy Iesu Grist. Diolch am ddigon, yng wyneb pob gwael i bechadur heb ddim ; a deddf a chyfiawnder yn cael digon hefyd. Rhyfedd byth, ni raid i bechadur ddim byw yn mhell oddiwrth Dduw. "Wele fan yn fy ymyl lle cai sefyll ar y graig." Lle yn ymyl Duw i bechadur edrych ar ei ogoniant heb ei ladd ; ac nid hyny yn unig, ond Duw pur yn siriol wenu arno hefyd. Ie, a'r ddeddf a droseddodd yn gwenu arno, a'r pechadur yn gwenu arni hithau. Rhyfedd fyth, y ddeddf a'r troseddwr megis yn ysgwyd llaw, ac yn cusanu ei gilydd. Pa fodd y daeth hyn i ben ? Nid heb ollwng gwaed, ac nid gwaed teirw a geifr a lloi, ond Iesu Grist, ei fab Ef. Y mae i'r ddeddfa'r euog ddigon yn y person rhyfedd hwn—Golwg arno a wna i mi ganu, pan y byddo tryma 'mhwn. Neb ond Iesu, mae fe'n ddigon byth i mi.

Hyn oddiwrth dy gyd-bererin trwy anialwch ofidiau tua Jerusalem, y breswylfa lonydd.

Copi o lythyr a anfonwyd gan—at—

Mai 27, 1803

ANWYLAF CHWAER,

Yr wyr yn anfon hyn o leiniau atat gan obeithio y byddi yn ei derbyn mewn iechyd a thangnefedd. Am helynt bresenol fy ysbryd, myfi a feddyliwn nad wyf heb i ryw raddai'n feunyddiol., am adnabyddiaeth o'm gwaeledd a'm pechadurusrwydd ac o ddigonolrwydd yr iechydwriaeth fawr yNghrist i'm bath. Dymunwn gael treilio gweddill fy nyddiau tan y gorchwyliaethau o ladd a bywhau. Ond caei bod dan y driniaeth hon, ni bydd parch ac anmharch, clod ac anghlod, adfyd a hawddfyd, ond pethau o ychydig bwys yn fy ngolwg. Pa bo pethau tragwyddol gyda phwys yn y golwg. y maent yn llyngcu pethau presenol i'r dim mewn cydmariaeth â hwynt.

Mae'r gair sydd yn y Dat. 2. 4 ar fy meddwl i sylwi ychydig arno,—Edrych o ba le y syrthiaist ac edifarha. Cyn y byddo'n besibl i ddyn syrthio o unlle, mae'n rhaid ei fod unwaith yn sefyll yn y lle hwnw o ba un y mae'n awr wedi syrthio. Er nad oes fodd i neb a wir unwyd unwaith a Christ syrthio i gyflwr colledig, etto hwy a allant syrthio'n mhell o'r peth y buont unwaith o ran agwedd, bywogrwydd eu hyspryd, grym a gwresogrwydd eu cariad. A syrthio yn yr ystyr hon, mae'n ddiameu, a feddylir yma. Y mae'r gair ymadael a'r cariad cyntaf yn dangos hyny yn eglur. A phan y mae'r Arglwydd yr galw arnom i edrych o ba le y syrthiasom, y mae'n rhaid i ni ddeall fel hyn,—"Cofia, edrych, ystyria'r peth a fuost a chydmara hyny a'r peth ydwyt yn awr. Yna y gweli nad ydwyt yn cynyddu, eithr yn adfeilio'n fawr. Nid edrych pa beth a ddylasit neu a ddylit fod, ond y peth a fuost. Digon gwir na buost erioed yn agos at berffeithrwydd, etto ti a fuost y peth nad ydwyt yn bresenol."Wrth hyn gellir casglu'n amlwg nad yw dyn, pan y mae'n oeri ac yn adfeilio, ddim yn gwybod ei fod yn ac wedi colli cymaint ac y mae. Y mae'n ymgysuro ac yn ymdawelu am nad ydyw 'r Arglwydd wedi ei lwyr adael. Ond etto y mae'r Arglwydd ac yntau yn mhellach oddiwrth ei gilydd o ran cymundeb nag y mae efe'n meddwl o lawer Ymdaenodd penwyni ar Ephraim, ac nis gwybu efe. "Estroniaid a fwytasant ei gryfdwr, ac nis gwybu efe. A phan y mae'r Arglwydd yn wynebu ar yr adfaeledig i'w adfera, y mae'n galw arno ac yn ei ddwyn ystyried ac i adnabod mai felly y mae. Ac am hyny y cam cyntaf o adferiad yr adfaeledig ydyw ei ddwyn i adnab ei fod wedi colli mwy o dir nag oedd ef o'r blaen yn ei feddwl. "Wedi imi ddychwelyd mi edifarheais; wedi imi wybod mi a drewais fy morddwyd." A hyn y gelwir arno wneuthur yn yr olwg hono arno ei hun yw hyn,— Edifarha." Hyny yw,—"Cyfnewid dy feddwl a'th agwedd. Yn dy wrthgiliad yr oedd dy feddwl yn myned oddiwrthyf at eulunod. Ond bydded itti droi dy feddwl oddiwrthynt, a dychwelyd attaf fi, gyda gofid a galar am dy wrthgiliad a'th buteindra ar ol eulunod a'th oerfelgarwch tuag attaf fi. Er iti buteinio gyda chyfeillion lawer, etto dychwel attaf fi."

Gair arall sydd ar fy meddwi, Ezec. 37. 12,— "Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl." Y mae'r geiriau hyn yn addewid am ddychweliad Israel o Babilon. Yr oedd Israel yn Babilon, yn eu golwg a'u barn eu hunain ac ereill, ac yn ol golygiad pob rheswm dynol, mor anobeithiol o ddyfod oddiyno i Jerusalem ac fel pe biasid yn dywedyd y byddiau meirw o'r beddau ddyfod i adeiladu a phreswylio Jerusalem, ac fel pe buasai'r Arglwydd yn dywedyd,—"Gadewch fod yn gymaint gorchwyl cael Israel o Babilon a chael y meirw o'u beddau, etto nid yw hyny yn orchwyl gormod i mi. Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl." Pa fyddo dyn a fo wedi adfaelio yn ei enaid yn cael ei oleu i weled ei afluneidddra, y mae'n neillduol dueddol i ddigaloni ac i farnu mai gormod peth iddo ef ddyfod byth fel y bu. Ond gwybydded y cyfryw, er mai gormod iddo ef o'i ran ei hun, etto nid gormod i Dduw. "Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl. Y mae hyn yn ddigon yngwyneb pob rhesymau pawb am eu digalondid. Agorwr y beddau sydd wedi addo, ac Efe a'i gwn. Barned ei adferiad yn gymaint peth ac a fyno, ond peidied neb, gocheled pawb ei farnu'n ormod i Dduw. Paham? Am mai Duw ydyw. Jehovah yw efe, tawed pob cnawd. Diolch am ei fod yr hyn yw.

Y mae anghredu galla ac ewyllys Duw yn bechod anfesurol ac anrhaethol. Y mae yn y 78 Salm gofrestr helaeth o bechodau meibion Israel, ond yn ben ar y cwbl, yn 41 ad,—"A gosodasant derfyn i Sanct yr Israel." Mae'r geiriau'n cyfeirio i'r 13 a'r 14 6 Numeri, lle mae hanes am 10 o'r deuddeg yspiwyr yn dwyn cam dystiolaeth ac y wlad, a'r bobl yn digaloni yngwyneb eu tystiolaeth. Ac wrth sylwi ar y geiriau yma y mae'r Salmydd yn adrodd am danynt. Gallwn farnu iddynt farnu yn ormod gorchwyl i Dduw ei dwyn i'r wlad a addawsai iddynt. Am hyny, medd Paul, Heb. 3. syrthiodd eu cyrph yn y diffaethwch ac ni allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth. Sylwa a myfyria ar y pethau hyn, a gwel fawr ddrwg yspryd deddfol ac angrhediniol.

DIWEDD

Nodiadau[golygu]