Gwaith John Hughes/Sylwadau ar bethau ysbrydol

Oddi ar Wicidestun
Llyfrau John Hughes Gwaith John Hughes

gan John Hughes, Pontrobert

Llythyrau at Ruth Evans?

Dyma wynebddalen yr ail ysgriflyfr—

CRYNODEB NEU GASGLIAD O AMRYW

SYLWIADAU AR BETHAU YSPRYDOL.

Ioan ap Huw, athraw ysgol Gymraeg yw ysgrifenydd a meddianydd y llyfr hwn, yn y flwyddyn o oed ein Harglwydd 1804. Llanidloes. Hydref 20.

"Y mae diwedd ar bob perffeithrwydd, ond dy orchymynion di syda dra ehang."

——————————

COFNODAU Cymdeithasfa Dolgelle, am swydd frenhinol Crist 1803. Sylwiwyd mai rhyw gyfnewidiad rhyfedd yw hwn, sef newid y llywodraeth. Rhyw waith rhyfedd o'r nerthol raid fod hyn, tynu'r hen lywodraeth i lawr a gosod y newydd i fyny. "Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i lawr." Er bod mewn carcharau yngwlad ei gelynion, bod ei hanadl o dy eu Brenhin a'i deyrnas; gall fod yn bresenol rai o ffyddlon ddeiliaid Lloegr mewn carcharau yn Ffraingc, etto ai lystiant dan faner y penaeth, ac ni wisgant ei lufrau na'i arfau, am fod eu calon o blaid eu gwlad.

Cofnod asotiat brivat yn Mwlch Aeddem.

Dwyfol osodiad Crist ir swydd gyfryngol.

Yn ddyn bach yn rhy anabl i ymgynal ac i gerdded, er ei fod o ran ei dduwdod yn dal y bydoedd..... Yr oedd Crist, pan oedd tan y gwarth mwyiaf yn y byd, yn llenwi'r nefoedd a'i ogoniant. Un person dwy natur. ...

Cofnodau Cymdeithasfa Llanidloes, ar swydd offeiriadol Crist. 1803. . . . Cofnodau Cymdeithasfa Dolgelle, 1802. . . . Cofnodau Cymdeithasfa Dimbych, 1802. . . . Gofynwyd cwestiwn,—pa un fwyiaf o wasgfa oedd arnom am gael Duw, ai with fyned i weddio neu i bregethu ai wrth fyned i'r ffair neu ddelio a'r byd. Sylwiwyd mai byw gyda Duw a'n haddasa a'n haddasa yn ei waith, a'r perygl ini ddymuno ei gymdeithas a'i dangnefedd a'i gynorthwyon a'n cefn arno yn cofleidio eulunod.. Ei gael yw cael bywyd, ac yn y rhodiad gydag ef y mae adnewyddiad a chynydd mewn sancteiddrwydd.

Cofnodau Cymdeithasfa[1] Machynlleth, 1804, am waith yr Yspryd Glan..... Cofnodau Cymdeithasfa'r Bala, 1804, am waith yr Yspryd Glân.

Sylwiad ar gwestiwn,—Pa sail sydd genym fod Duw heb ein gadael? ... John Hughes, Mehefin 14, 1804.

Sylwiadau ar weddi Crist yng nghardd Gethsemane.. ... Sylw ar lefain Crist ar y groes.

John Hughes, Athraw ysgol,

Yma daw Hymnau o waith A.G. Yna

Cofnodau Asostion Caernarfon ar ddwyfol osodiad Crist i'r swydd gyfryngol.[2] Cofnodau Cymdeithasfa Llanidloes ar ddelw Duw.

Nodiadau[golygu]

  1. Dechreua ysgrifenu Asosat . . . . ond croesa'r hen enw.
  2. Tybed mai yr adeg hon yr oedd Mr. Charles yn methu cofio'r gair Groeg am "lwyr brynnu." ac i John Hughes waeddi'n groch o ganol y dorf, έξγοράζω.