Gwaith John Thomas/Mebyd

Oddi ar Wicidestun
Fy Hynafiaid Gwaith John Thomas

gan John Thomas, Lerpwl

Siop Dafydd Llwyd

III. MEBYD.

Nis gwn ddyddiad priodas fy rhieni, ond yr oedd yn agos i ddiwedd 1811 neu ddechreu 1812. Sefydlasant yng Nghaergybi, ac yno y ganwyd y plant oll oddieithr Josiah, fy mrawd ieuangaf. Myfi oedd y pumed a anwyd iddynt. Yr oedd tri brawd, Owen, William, a Robert, ac un chwaer, Mary, yn hynach na mi, a dwy chwaer, Ellen, a Sarah, ac un brawd, Josiah, yn ieuangach na mi, fel yr oeddym oll yn wyth o blant. Nis gallasai ein bywoliaeth fod yn rhyw hynod o helaethlawn pan nad oedd ond llafur dwylaw fy nhad ar ein cyfer oll, ac ni bu ei gyflog yr adeg oreu arno yn fwy na phedwar swllt ar hugain yr wythnos; fel y rhaid fod gofal, a chynildeb, a darbodaeth fy mam yn fawr iawn cyn y gallasai ddwyn dau ben y llinyn ynghyd. Ond ni bu arnom eisieu dim. Cawsom ymborth a dillad ac yr oeddym yn foddlawn ar hynny, a chawsom hefyd ychydig addysg, a chystal addysg ag a roddid i blant cyffredin yn y dyddiau hynny. Nid yw fy adgofion am Gaergybi ond amherffaith iawn. Ond yno y ganwyd fi, Chwefror y trydydd, 1821, a bedyddiwyd fi gan y Parchedig John Elias, y pregethwr mwyaf hyawdl a phoblogaidd yn ddiau a welodd Cymru erioed; ac y mae yn dda gennyf heddyw, ymhen triugain a phump o flynyddau, fy mod wedi bod ym mreichiau y dyn sanctaidd hwnnw; ac nis gwn pa ddylanwad a adawodd ei weddi drosof pan yn faban ar ddyfodol fy mywyd.

Pan y darfu y gwaith yng Nghaergybi bu raid i fy nhad fyned oddicartref i weithio, yr hyn a ychwanegai at ei draul. Bu yn gweithio yn Glynllifon, palas Arglwydd Newborough, ac yng Nghastell y Penrhyn, palas Arglwydd Penrhyn, a adeiledid ar y pryd gan y perchennog, George Hey Dawkins Pennant, Ysw. Gan i fy nhad gael gwaith parhaol yno, a bod tebygolrwydd i Owen fy mrawd hynaf gael gwaith yno hefyd, penderfynodd fy rhieni symud i Fangor, yr hyn a wnaethant yn 1827, pan nad oeddwn ond chwe mlwydd oed.

Mae fy holl adgofion boreuol ynglyn â Bangor. Yno y cefais fy hun yn yr ysgol gyntaf. Dichon i mi fod yn yr ysgol yng Nghaergybi—nid wyf yn meddwl chwaith—ond os bum, nid oes gennyf unrhyw gof am hynny, nac am y capel na'r Ysgol Sul, er fod gennyf gof am rai personau a rhyw ddigwyddiadau yno. Yr wyf yn cofio yn dda, wedi ein symudiad i Fangor, fod fy mrawd hynaf yn fy nghymeryd i a'm chwaer oedd hyn na mi i'r ysgol at ryw wraig yn Hirael, ond nid oes gennyf fawr o gof pellach am fyned yno. Bum ar ol hynny yn yr ysgol gyd âg Ellen Jones, hen ferch a gadwai ysgol, a'r hon wedi hynny a briododd â John Williams, Coetmor, y hwn oedd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid, ac a dreuliodd ei oes ar ol priodi ym Mangor. Bum drachefn yn yr ysgol dros ychydig gyd âg Owen Jones, Llanuwchllyn wedi hynny. Un genedigol o ardal Colwyn ydoedd. Urddasid ef yn weinidog gyda'r Anibynwyr yn Llanaelhaiarn; ond un anwastad yn ei holl ffyrdd ydoedd. Aeth i Lanerchynedd, ond oblegid ei ddrwg fuchedd bwriwyd ef oddiyno, a daeth i Fangor o dan aden y Parch. Arthur Jones, D.D., yr hwn, er ei fod ei hun yn ddyn pur a sanctaidd, oedd yn hynod o dyner a pharod i roddi cynnyg drachefn i rai wedi syrthio. Cymerodd Owen Jones dy yn Hirael, a chadwai dipyn o ysgol mewn un ystafell ynddo. Nid oes gennyf fawr gof am dano. Ni bum yn hir gyd ag ef, ac ychydig a ddysgais yn yr yspaid y bum, ac nid wyf yn meddwl fod ynddo yntau lawer o allu i gyfrannu addysg. Ar ol ei ail godi i bregethu ymadawodd yn fuan i Bwllheli, ac wedi hynny i Lanuwchllyn, lle y bu am flynyddoedd yn pregethu i'r rhai a elwid yr Hen Bobl,' wedi y rhwyg mawr yno. Aeth ei fuchedd yn rhy ddrwg i'w oddef, ac enciliodd at y Bedyddwyr, a chyd â hwy y bu am weddill ei oes, weithiau i lawr ac weithiau i fyny. Yr oedd yn nodedig o ddoniol, ac yn ddyn digon diniwed, ond fod ei flysiau at ddiodydd meddwol yn aflywodraethus.

Gan fod mwy o arian yn dyfod i'r teulu drwy fod fy nhad a'm brawd hynaf yn ennill, cefais fyned i ysgol Hugh Williams, yr hon a gyfrifid yn un o'r ysgolion goreu; ac yno y dysgais agos y cwbl a ddysgais yn y cyfnod hwnnw. Yr oeddwn yn fachgen bywiog a direidus, ac yn bencampwr ar bob chwareu megis rhedeg a neidio. Yr orchest fwyaf oedd medru neidio oddiar y gris uchaf-grisiau cerrig oddiallan—oedd yn myned i'r ystafell lle y cynhelid yr ysgol. Oddiar yr uchaf ond un y gallai y neidwyr goreu neidio, ond yr oeddwn i yn medru neidio oddiar y gris uchaf, yr hyn a roddai i mi y llawryf. Rhyfyg ydoedd y fath beth, oblegid byddem yn disgyn ar garreg fawr, ac yr oedd disgyn felly yn ddigon i ysigo fy holl natur oni bae fy mod mor ysgafndroed. Ar y tymor ymdrochi byddwn yn y dwfr hanner fy amser, ac ychydig oedd yn rhagori arnaf fel nofiedydd. Nofiais yn groes i'r Fenai lawer gwaith cyn fy mod yn ddeuddeg oed. Cadwyd fi rbag pob anfoesoldeb, rhag arfer iaith anweddus, na thorri y Sabboth; ac o ganol y chwareuon, yn aml yn chwys diferol, rhedwn i'r capel ar noson Seiat i fod ar ben y fainc i ddweyd fy adnod; ac ni chadwodd chwareu erioed mo honof o'r capel os byddai rhyw foddion yno, yr hyn a ddigwyddai agos bob nos yn y dyddiau hynny. Fy nghyfoedion oedd Samuel Roberts, yr hwn oedd yn frawd i'r Parchedig David Roberts, D.D., Wrecsam, ac a ddaeth wedi hynny yn weinidog parchus gyda'r Methodistiaid ym Mangor; a John Owen, yr hwn ar ol hynny a wyrodd oddiar yr hen ffordd uniawn, ac a ddaeth i Liverpool i siop, ac wedi hynny i Fanchester, lle y collwyd ef ac ni wybu neb pa beth fu ei ddiwedd. Yr oeddym ein tri yn gyfeillion mawr, a lle y byddai y naill y ceid y lleill. Treuly iasom gannoedd o oriau yn nghyd, a dringem i ryw gilfach yn y mynydd lle y byddem yn cynnal cyfarfodydd gweddio a phregethu, nid yn gymaint oblegid ein crefyddolder, ond oblegid fod ein bryd ar fod yn bregethwyr. Yr oedd eraill a ddeuai yn achlysurol i'r cynhulliadau hynny, ond nyni ein tri fyddai yno yn wastad.

Yn haf 1831 cymerwyd fy nhad yn glaf o glefyd trwm, ac yr oeddwn innau yn glaf yr un pryd o'r un afiechyd, ac wedi naw niwrnod o gystudd chwerw bu farw fy nhad yr wythfed o Orffennaf, 1831. Dyma gwmwl du wedi ein gorchuddio fel teulu, dymuniad llygaid fy mam wedi ei gymeryd ymaith â dyrnod; ffon cynhaliaeth y teulu yn disgyn i'w fedd yn chwech a deugain oed; wyth o blant wedi eu gadael heb dad, a'r ieuangaf o honynt heb fod ond un mis ar ddeg oed, a fy mam wedi ei gadael yn weddw heb unrhyw ddarpariaeth ar ei chyfer ond a oedd yn yr addewid, "Tad yr amddifaid a barnwr y gweddwon yw Duw yn ei breswylfa sanctaidd." Diwrnod cymylog i ni oedd y diwrnod hwnnw. Cafodd fy mrawd hynaf le a chyflog fy nhad yn y gwaith, a dygai ef yn ffyddlon i'm mam oddigerth yr hyn a wariai ar lyfrau. Bu ef i ni fel tad, ac erioed ni bu mab ffyddlonach i'w fam. Yr oedd y brawd nesaf ato yn dechreu dod i ennill, ond nid i allu estyn fawr o help.