Gwaith John Thomas/Fy Hynafiaid

Oddi ar Wicidestun
Edrych yn ol Gwaith John Thomas

gan John Thomas, Lerpwl

Mebyd

II. FY HYNAFIAID.

Nid oes dim yn fwy gweddus nag i mi ddechreu gyda fy hynafiaid.

Yr oedd fy hynafiaid o ochr fy nhad o blwyf Llanddeiniolen, yn sir Gaernarfon, ac yr wyf yn gallu eu dilyn yn ol ddeg o genedlaethau ; ond y mae y cyfenw yn newid, ac yn myned yn ol yr enw, yn ol arfer gyffredin yr hen Gymry. Yn 1406 ganwyd un Owen Thomas. Yn 1446 ganwyd i'r Owen Thomas hwnnw fab, yr hwn a alwyd yn William Thomas. Yn 1472 ganwyd iddo yntau fab; yr hwn a alwyd yn Thomas Williams, yn ol enw cyntaf ei dad. Yn 1526 ganwyd iddo yntau fab, yr hwn a alwyd yn William Thomas, yn ol enw ei dad yntau. Yn 1552 ganwyd iddo yntau fab, a galwyd ef yn Thomas Williams. Yo 1583 ganwyd mab iddo yntau, yr hwn a alwyd yn Owen Thomas. Yn 1617 ganwyd i Owen Thomas fab, yr hwn a alwyd yn Ellis Owen. Yn 1672 ganwyd iddo yntau fab, a galwyd ef yn Thomas Ellis. Yn 1711 ganwyd iddo yntau fab, a alwyd yn Owen Thomas. Yn 1751 ganwyd iddo yntau fab, a galwyd ef yn ol enw ei dad yn Owen Thomas. Hwnnw oedd fy nhaid. Priododd et a Grace, merch y Rhydau, Llanddeiniolen, a ganwyd iddo o honi saith o feibion, y rhai oll a dyfasant i oedran gwyr. Eu henwau oeddynt John, Thomas, William, Robert, Owen, Rowland, a Harry. Y pumed oedd fy nhad, Owen Thomas, yr hwn a anwyd yn 1785. Mae gennyf gof plentyn am fy nhaid yn ein tŷ ni yn Nghaergybi, ac y mae yr argraff ar fy meddwl mai hen wr mawr esgyrniog ydoedd. Gwelais fy ewyrthod oll ond yr hynaf, fy ewyrth John, yr hwn oedd yn byw yn Llangoed, Môn, ac a fu farw yn gydmarol ieuanc. Pobl gyffredin eu hamgylchiadau, fel y deallaf, oedd fy hynafiaid oll o du fy nhad. Ni ddeallais fod nag etifeddiaeth na threfdadaeth yn perthyn i neb o honynt. Ond yr oeddynt yn ddynion cryfion, gweithgar, a diddiogi, yn nodedig am eu gonestrwydd, ac yn nodedig fel parablwyr rhwydd a diatal, er na chefais, er holi, eu bod yn nodedig am eu galluoedd meddyliol, na bod neb o nod fel bardd, na llenor, na hynafiaethydd, na phregethwr wedi codi o honynt. Yr oedd plwyf Llanddeiniolen gynt bron i gyd yn perthyn i'r un teulu, ac yr oedd y trigolion agos oll, pan adnabyddais y lle gyntaf ryw hanner cant neu bymtheg mlynedd a deugain yn ol, yn berthynasau o bell i mi.

Lliniwr oedd fy nhaid wrth ei gelfyddyd—"Owen Thomas y Lliniwr" y gelwid ef, ac yn yr alwedigaeth honno y dygodd ei holl feibion i fyny. Nis gwn a oedd rhai o'i hynafiaid o'i flaen yn yr un alwedigaeth, tra thebygol eu bod, oblegid yn y dyddiau hynny gweithient eu llin a'u gwlan eu hunain. Gwelais y tŷ bychan yn agos i Benisa'r Waen lle yr oedd fy nhaid yn byw, a lle y ganwyd iddo ei holl blant. Pan yr oedd y teulu wedi tyfu i fyny, symudodd fy nhaid o Landdeiniolen i Langoed, Môn, i le o'r enw Hen Odyn. Nis gwn am ba reswm, ond ymddengys mai i ddilyn ei alwedigaeth fel lliniwr y bu hynny. Ond o gylch yr adeg hon trodd rhai o'r meibion eu sylw at fod yn naddwyr cerrig (stone-cutters). Fy ewythr William, fel y deallaf, oedd y cyntaf i droi at yr alwedigaeth honno, eithr nis gwn dan ba amgylchiadau, os nad am fod rhyw adeiladau yn cael eu codi ar ororau Môn ar y pryd. Gan fod y bechgyn yn fedrus mewn llaw-weithyddiaeth cyflwynasant eu sylw yn llwyr i hynny, fel y daethant yn gelfydd yn y gorchwyl, ac fel stone - cutters yr adnabyddid hwy oll. Yr wyf yn meddwl i fy nhaid hefyd cyn diwedd ei oes arfer ychydig â naddu cerrig, a rhoddi heibio ei orchwyl fel lliniwr agos yn hollol; ond yr wyf yn cofio yn dda gweled rhai o'r cribau a'r rhai y byddent yn nyddu gynt yn ein tŷ ni. Cedwid hwy yn y teulu fel hen relics.

Nid oes gennyf fanylion am fy hynafiaid o du fy mam. Ei henw morwynol oedd Mary Roberts, ac yr oedd iddi ddwy chwaer ac un brawd o'r un dad a'r un fam. Yr oedd ei chwaer hynaf, Elizabeth, neu Betty Roberts, fel ei gelwid, yn byw yn y Gaerwen, a bu fyw trwy ei hoes yn ddibriod. Ei brawd, William, a ddilynodd alwedigaeth ei dad fel cylchwr (cooper). Bu mewn masnach eang yn y Drefnewydd, Maldwyn, ond trodd yn afradlon, ac aeth i grwydro y byd. Y mae wedi marw er's llawer o fynyddoedd. Unwaith erioed y gwelais ef, ac y mae gennyf adgof byw o'r amgylchiad. Yr oedd mab iddo yn byw yn Manchester hyd yn ddiweddar, ac ni chlywais ei farw. Daeth chwaer ieuangaf fy mam, Ellen, i Liverpool pan yn ieuanc i wasanaethu, lle hefyd y priododd, ac y ganwyd iddi dair o ferched, a thyfodd dwy i'w llawn oedran; ond gwelodd y fam eu claddu oll, ac y mae hithau yn y bedd ers ugain mlynedd bellach, fel nad oes neb o'r teulu o ochr fy mam yn fyw, oddieithr fod y cefnder hwnnw yn Manchester. Enw fy nhaid, tad fy mam, oedd Robert Roberts, o Bentre Berw, Sir Fôn. Cylchwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a gwasanaethai hefyd fel clochydd ym mhlwyf Llanfihangel Ysceifiog. Yr oedd yn ddyn o gryn lawer o allu, ond yn ofera ei amser. Medrai ganu yn dda, a chyda'r interliwdiau, y rhai y pryd hynny oeddynt yn dra phoblogaidd, nid oedd neb yn fwy blaenllaw. Dilynai y cyfryw gan esgeuluso ei waith ac esgeuluso ei deulu. Enw ei wraig, fy nain, oedd Grace; gwraig dra chrefyddol, yn aelod gyda'r Methodistiaid. Yr oedd yn un o wragedd yr hwyliau, a thorrai allan i orfoleddu. Ond bu farw yn bymtheg ar hugain oed, pan nad oedd y plant oll ond ieuainc, er colled ddirfawr iddynt hwy; ond profodd hynny o fendith i fy nhaid, oblegid ymddengys iddo fod yn ddyn gwahanol byth wedyn. Ysgotiaid ocdd hynafiaid fy nain, a ddaethant drosodd i'r wlad yma. Jacobs oedd yr enw, ac yr oedd traddodiad yn y teulu eu bod yn disgyn o rai o hen frenhinoedd Ysgotland. Nid yw hynny yn fawr o glod iddynt, ond dichon fod rhyw gymaint o'r elfen Ysgotaidd yn aros yn y teulu. Ellen Jacobs oedd enw nain fy nain, ac ni fedrai siarad Cymraeg ond yn amherffaith. Nis gwn pa un ai yn Ysgotland ai yn sir Fôn y ganwyd hi. Yr oedd y teulu yn byw y pryd hwnnw ym Mhlas Cadnant, gerllaw Porth Aethwy, ac yn perchenogi yr etifeddiaeth honno; ond drwy afradlonedd, a pheth anghyfiawnder, fel y tybir, aeth yr etifeddiaeth o feddiant y teulu. William Jones oedd enw tad fy nain, ac yr oedd yn rhyw fath o swyddog yn Beaumaris, a'i dad ef, gŵr Ellen Jacobs, a afradlonodd etifeddiaeth Cadnant. Bernir mai yn adeg y gwrthryfel tua'r flwyddyn 1745 y daeth y tylwyth drosodd i Gymru, yr un pryd ag y daeth y Frazers, a'r Chambers, a'r Ysgotiaid eraill y ceir eu hiliogaeth yn awr yn Môn. Mae gennyi gof da y byddai son mawr yn ein teulu mai'n heiddo ni oedd Cadnant, ond gwaredwyd ni rhag y ffolineb o obeithio cael dim byth oddiwrthi. Yr oedd fy mam yn grefyddol er yn ieuanc, a chlywais hen ŵr, Richard Edwards, Llanfair y Borth, yn adrodd iddo ei chlywed yn y Dwyran neu Bryn Siencyn, pan oedd yn ieuanc, yn gorfoleddu yn hwyliog. Symudodd i Beaumaris i wasanaeth y Parch. Richard Lloyd, a bu yno am rai blynyddau, a thra yno y daeth i gydnabyddiaeth a fy nhad.