Gwaith John Thomas/Yn Ysgol Marton
← Athraw Tabor | Gwaith John Thomas gan John Thomas, Lerpwl |
Teithio → |
XII. YN YSGOL MARTON.
Cyrhaeddais Marton yn nechreu yr haf. Saif y lle rhwng yr Amwythig a'r Drefnewydd, o fewn rhyw chwe milldir i'r Trallwm. Nid yw ond lle bychan gwledig, ond mewn gwlad dda odiaeth. Y gweinidog a'r athraw oedd y Parch. John Jones. Brodor ydoedd o Landdeusant, Môn, a myfyriwr o'r Drefnewydd. Sefydlodd yn Forden a Marton, ac efe a ddechreuodd yr achos ac a adeiladodd y capeli yn y ddau le. Gwr llariaidd ydoedd, ond yn wannaidd ei iechyd. Cadwai ysgol ym Marton, a daethai nifer o bregethwyr ieuainc ato am addysg. Yr oedd yn lle manteisiol i fechgyn tlodion ar gyfrif ei radlonrwydd, ac amhosibl fuasai iddynt gael gwell lle i ymarfer eu hunain i bregethu Saesneg. Yr oedd Hugh James, Llansantffraid; William Roberts, Penybont; William Thomas, Beaumaris; a Samuel Jones, Maentwrog; ac efallai rai eraill, wedi bod yno, ac wedi myned ymaith cyn fy mynediad i yno. Yr oedd Rowland Hughes, Rhoslan; Edward Roberts, Cwmafon; Evan Jones (Ieuan Gwynedd); John Morris, Ffestiniog; a Robert Thomas, Rhyl, yno pan aethum. Nid oedd yno le ond i chwech, er y byddai weithiau wyth yno; a phe gwelai unrhyw un y ty, byddai yn anhawdd iddo ddeall pa le y rhoddid wyth o ddynion, gyda gŵr a gwraig, a saith o blant, a morwyn, i fyw, heblaw rhoddi un ystafell o'r tŷ i wasanaeth yr ysgol. Yr oedd y tŷ o faintioli mwy na'r tai a geir yn gyffredin mewn gwlad. Wedi myned i mewn trwy y drws ar ganol yr adeilad, yr oedd ar y llaw dde ystafell fawr, lle y cedwid yr ysgol; ac ar yr aswy yr oedd cegin agos o'r un maintioli, a chegin allan wrth gefn honno. Uwchben yr ystafell lle y cedwid yr ysgol yr oedd dwy ystafell, y rhai a osodid i'r myfyrwyr. Yr oedd un gwely yn yr ystafell ffrynt, a dau wely yn yr ystafell gefn. Deallaf y rhoddid hefyd weithiau ddau wely yn yr ystafell ffrynt, ond ni welais i hynny. Yn yr ystafelloedd hyn yr oeddym yn myfyrio, ac yn cysgu; a difrifol o le i bedwar o fechgyn eistedd ynddo ydoedd ystafell nad oedd yn bedair troedfedd ar ddeg ysgwar, yn yr hon hefyd yr oedd dau wely lle y cysgent y noson. Perchenogid yr ystafell ffrynt gan Edward Roberts a Rowland Hughes; ac yn yr ystafell gefn yr oedd Ieuan Gwynedd a minnau yn un gwely, a Robert Thomas a John Morris yn y llall. Ond oblegid ei gyfeillgarwch ag Edward Roberts caniateid i Ieuan fyfyrio y dydd yn yr ystafell ffrynt; ac wedi i Edward Roberts fyned i Aberhonddu ganol haf, cafodd ef fyned yno yn hollol; a chyn hir ymadawodd Rowland Hughes, a chefais innau fyned yno ato. Deg swllt yn y chwarter a dalem am ein hysgol, a deunaw ceiniog yn yr wythnos am ein "gwlyb a'n gwely" fel y dywedid ; ac, yn hynny, yr oeddym yn cael digon o datws, y rhai oedd mewn helaethrwydd y pryd hwnnw, ac yn datws mawr blawdiog; ac yr oeddym yn gwneyd cyfiawnder â hwy. Yr oedd yn lle rhyfedd o rad i fyw. Prynodd Ieuan a ninnau ham yn y Trallwm, am yr hon y talsom un swllt ar ddeg Parhaodd i ni ddeufis neu ddeng wythnos, a dyna yr holl gigfwyd a gawsom am yr ysbaid hwnnw, oddigerth yr hyn a gaem ar y Sabbothau pan oddicartref. Rhoddodd hen ffarmwr, o'r enw Mr. Phillips, ryddid i ni ein dau i gasglu a fynnem o afalau oddiar ei dir, yr hyn a wneuthom heb betrusder. Yr oedd gan Ieuan fox mawr, a chennyf finnau fox bychan, a llannwyd y hynny. Yr oedd gan Mrs. Jones ddysgl bridd, felen, fawr, ac ysmotiau gwynion yn ei gwaelod. Llanwai honno ag afalau, a rhoddai dipyn go lew o does arnynt, ac i'r pobty a hi. Yr oedd honno genym bob dydd ar ol ychydig bach o ham, a llawer iawn o datws, fel y gwnaem giniaw da bob dydd; ac ni ddeallais erioed fod y cylla yn gwingo yn eu herbyn oblegid methu eu treulio. Yr oedd Mrs. Jones yn hynod o garedig, ond nid oedd yn nodedig am fedrusrwydd na glan weithdra; ond beth a allesid ddisgwyl amgen, gyda chwech o honom ni, a saith o blant mân, a gwr gwan ac afiach, a hogen o forwyn heb fawr fedr, er yn ddigon ewyllysgar?
Am y myfyrwyr oedd yno—dyn synwyrol a deallgar oedd Edward Roberts. Yr ydoedd wedi byw am ysbaid yn Manchester, ac wedi gweled tipyn o'r byd, ac yntau yn sylwedydd craff, ac yn deg a chywir ei farn. Dyn diniwed oedd Rowland Hughes, ond cyffredin ei alluoedd, eithr gwnaeth ei oreu yn ol y ddawn a rodded iddo. Dyn pur a gonest dros ben oedd Ieuan Gwynedd, cydwybodol ym mhopeth, llym a manwl hyd at fod yn greulawn. Daeth yn well yn hynny wedi gweled mwy o'r byd, a chyfarfod thymhestloedd. Dyn gwael oedd John Morris, segur a diafael. Nid oedd ymroad ynddo i ddysgu nac ychydig allu ar y goreu. Soniai rhywrai am ei dalent, ac ymffrostiai yntau yn ei wybodaeth o amryw ieithoedd, ond ymffrost gwag oedd y cwbl. Yr oedd Robert Thomas ac yntau yn gyfeillion, a'r hyn yn bennaf a barai eu cyfeillgarwch oedd fod y ddau yn smocio ac yn cnoi tybaco yn sly, ac yr oedd hynny yn erbyn deddfau y ty. Nid oedd fawr ddysgu yn Robert Thomas. Yr oedd yn fwy na deg ar hugain oed yn myned i Marton. Ond yr oedd ganddo lawer o ddawn, ac yr oedd yn ddadleuydd mawr ar y cwestiynau duwinyddol oedd yn cynhyrfu y wlad yn y dyddiau hynny. Yr oedd elw y Dysgedydd y pryd hwnnw yn myned i gynorthwyo bechgyn ieuainc i gael addysg, a'r bechgyn ym Marton oedd yn cael mwyaf, a danghosid ffafr i fechgyn sir Feirionnydd. Yr oedd Edward Roberts ac Ieuan yn cael ychydig, yr oeddynt hwy eu dau yn dyfod o'r Brithdir yn ymyl Dolgellau. Yr oedd John Morris yn cael ychydig, oblegid yr oedd yntau yn dod o Ffestiniog. Yr oedd Robert Thomas hefyd wedi cael ychydig. Ni chefais i ddim erioed, ac ni wnaethum gais am ddim. Y cwbl a dderbyniais erioed, o unrhyw eglwys neu o unrhyw drysorfa, oedd un swllt ar ddeg a saith geiniog, a gasglwyd i ni yn Bethel, Arfon, nos Sabboth, Gorffennaf 12, 1840. Yr oeddynt hwy yn eiddigeddus o'u gilydd, oblegid credai John Morris a Robert Thomas fod Edward Roberts a Ieuan yn cael mwy na hwy; a chredai Ieuan na ddylasent hwy gael dim, oblegid eu bod yn arfer tybaco. Nid oedd, am amser, brawf diamheuol o hynny ychwaith. Un diwrnod, daeth Ieuan o'r ystafell gefn, i'r ystafell ffrynt, lle yr oedd Rowland Hughes ac Edward Roberts a minnau, a dywedai fod John Morris yn cnoi tybaco, ac iddo weled joi yn ei geg y pryd hwnnw. Aeth â ni i'r ystafell gefn. Cyhuddid John Morris gan Ieuan, ond gwadai hwnnw yn bendant. Taflwyd ef ar y gwely, a phenderfyn- wyd agor ei safn. Yr oedd Rowland Hughes yn gwff o ddyn cryf, a bu raid i Robert Thomas roddi help llaw pa faint bynnag o gydymdeimlad oedd rhyngddo â John Morris. Daliwyd y cyhuddedig yn llonydd, agorwyd ei enau, a rhoddodd Ieuan ei fys i mewn, a thynnodd y joi dybaco allan, fel y cafwyd prawf diymwad. Yr oeddym oll yn mwynhau yr helynt, ond prin yr oedd yn foddlawn heb gael sychu y joi dybaco a'i hanfon i Olygydd y Dysgedydd. Yr oedd ei lymder yn eithafol.
Ni bu John Morris yno yn hir wedi hynny, ac ymadawodd Robert Thomas yn fuan; ac yr oedd Edward Roberts yn dechreu ei gwrs yn Aberhonddu ym mis Medi. Ymadawodd Rowland Hughes o gylch yr un amser, ac yr oedd iechyd Mr. Jones, yr athraw, yn gwaelu yn fawr. Gan nad oedd yno bellach ond Ieuan a minnau, yr oeddym allan bob Sabboth yn gwasanaethu yr eglwysi. Elem i Benllys un Sabboth. Pedwar
————————————————————————————————————
D. REES, LLANELLI.]
(O'r Oriel Gymreig)
"Yr enwocaf a mwyaf dylanwadol o holl weinidogion sir
Gaerfyrddin, os nad y mwyaf poblogaidd yn Neheudir
Cymru.
————————————————————————————————————
Fraich y Waun yn y prydnawn, ceid swllt arall. Yr oedd eisieu help agos bob Sabboth yn nghylch gweinidogaethol y Parch. James Davies, Llanfaircaereinion. Elem un Sabboth i Siloh y bore, Penarth y prydnawn, a Lawnt yr hwyr. Hwnnw oedd y Sabboth goreu—ceid deuswllt ymhob lle, yn gwneyd chwe swllt. Yr oedd Mrs. Davies, Lawnt, yn wraig garedig a chrefyddol iawn. Sabboth arall, elem i Brynhwdog y bore, Voedog am ddau, a Brynelen yr hwyr. Ceid pum swllt y Sabboth hwnnw. Mae Capel Canaan wedi ei godi heb fod ymhell o'r Lawnt, a Byrwydd yn ymyl Brynhwdog, a Jerusalem yn lle Brynelen. Yr oedd lle hefyd o'r enw Gallt y Ceiliog lle y pregethem. Bu Ieuan a minnau ym Marton am rai misoedd wedi i Mr. Jones fethu. Pregethai ef ym Marton a'r lleoedd Seisnig, a gwasanaethwn innau i'r eglwysi Cymreig. Treuliais lawer o amser yn amgylchoedd Llanfair a Phenarth, ac yr oedd yr hen bobl yno yn garedig iawn wrthyf. Mynnai rhai o honynt rannu y weinidogaeth a rhoddi galwad i mi, ond nid oedd Mr. Davies mewn un modd yn foddlawn rhannu yn deg. Yr oedd yn foddlawn rhoddi Penuel a Brynelen i fyny, a chadw Llanfair, Penarth, a Siloh, y tair eglwys gryfaf, ei hun. Penuel oedd y wannaf o'r cwbl, ac nid oedd capel yn Brynelen. Wedi deall fod anfoddlonrwydd enciliais, er fod gennyf serch cryf at y lle a'r bobl.