Gwaith John Thomas/Teithio

Oddi ar Wicidestun
Yn Ysgol Marton Gwaith John Thomas

gan John Thomas, Lerpwl

Ysgol Ffrwd y Fal

XIII. TEITHIO.

Yr oeddwn yn Llanbrynmair ryw noson, ac yn ymddiddan â Mr. Samuel Roberts, ac yn ei holi am rywle i fyned i'r ysgol. Crybwyllodd wrthyf am athrofa Ffrwd y Fal, a dywedai fod yno amryw o bregethwyr ieuainc, a'i fod wedi cael gair da i Mr. Davies fel athraw. Anogodd fi i fyned ar daith hyd yno i weled y lle, a phenderfynais wneyd hynny. Yr oedd hyn yn gynnar yn 1841. Anfonais gyhoeddiad i fod yn Nhalybont nos Sadwrn a'r Sabboth. Yr oedd Ieuan Gwynedd wedi bod yn gwasanaethu yn Maesnewydd yn adeg yr ymraniad, ac yno hefyd pan wnaed y rhwyg i fyny; a thrwy fy nghysylltiad ag ef, pe na buasai am eu croesaw arferol, cefais garedigrwydd mawr gan deulu Maesnewydd. Digwyddodd fod cyhoeddiad Mr. David Roberts, Siloh,—Wrexham yn awr,—a Mr. David James, Rhos y Meirch, y rhai oeddynt yn myned ar daith drwy ran o'r Dê, yn Nhalybont y nos Sadwrn a'r bore Sabboth hwnnw; ac yr oeddym ein tri yn lletya ym Maesnewydd.

Pregethodd Mr. Roberts a minnau nos Sadwrn a bore Sul pregethodd Mr. Roberts a Mr. James. Yr oeddynt hwy yn myned ymlaen i Lanbadarn ac Aberystwyth y prydnawn a'r hwyr; ac yr oeddwn innau yn Ceulan y prydnawn, ac yn dyfod yn ol i Dalybont yr hwyr. Nid wyf yn cofio manylion y daith ar ol hynny, ond bum yn Dyffryn Parth, a Nebo, a Neuaddlwyd, a Penrhiwgaled, ac ymlaen i'r Drewen at Robert Jones, yr hwn oedd newydd ei urddo yno, ac yr oedd yn fawreddog a chwyddedig iawn. Pregethais yn Bethesda, ac aethum drwy Gastellnewydd ond ni phregethais yno, ac nid wyf yn cofio pa leoedd y pregethais ynddynt, ond yr wyf yn cofio i mi bregethu yn Capel Noni. Yr oedd y capel ar ei hanner, ac yr oedd un Cook oedd yn weinidog yn Lacharn yno; a chanol dydd drannoeth yr oedd Thomas Jones, Ty'n y Gwndwn, yno yn pregethu. Pregethais hefyd yn Brynteg. Yr oedd Evan Williams,—Pencae ar ol hynny,—yno yn cadw ysgol, wedi ymadael a Chefn Coed Cymer, oblegid nad oedd yn cydolygu a'r eglwys am helynt y Siartiaid. Buasai ef yn weinidog ym Moelfra, Môn, ac yr oedd yn hynod o garedig i mi. Nid oedd yno gyhoeddiad i mi, ond gwnaeth i'r plant hysbysu y buaswn yo pregethu, ac yr wyf yn meddwl fod cyfeillach i fod yno y noson honno. Aethum y Sabboth at Richard Owen oedd yn weinidog yn Llanfair ac Ebenezer, a bum yn cydbregethu yno a'r hen John Thomas, Glynarthen. Yr oedd Richard Owen yn Ogleddwr, ac oblegid hynny cefais ef yn garedig iawn. Yr oedd rhyw hen chwaer Galfinaidd wedi ei alw i gyfrif am rywbeth a ddywedasai yn ei bregeth y Sabboth blaenorol, ac yr oedd wedi cythruddo yn fawr o'r herwydd, a dywedai na oddefai y fath beth. Ni bu yn gysurus ar ol hynny, a chyn hir enciliodd i'r Eglwys Sefydledig.

Nid aethum hyd Ffrwd y Fal, oblegid fod croesaw i'r ysgol yno heb unrhyw ymgynghoriad, ac felly dychwelais. Pregethais yn Aberystwyth y Sabboth; ac yr oedd yr hen Azariah Shadrach yn fy ngwrando y bore, a boddheais ef yn fawr oblegid fod fy mhregeth mor Ysgrythyrol. Gelwais yn ei dŷ y Llun, ac adroddodd i mi gryn lawer o hanes ei deithiau gynt yn y Gogledd.

Rywfodd yr oedd rhagfarn yn fy meddwl yn erbyn Azariah Shadrach, er nas gwn ychwaith paham. Rhaid fod rhywrai wedi siarad yn fychanus wrthyf am dano. Yr oedd wedi glynu wrth yr hen athrawiaeth pan yr oedd y rhan fwyaf wedi eu cymeryd i fyny gan y "system newydd"; ac yr oedd son fod llawer o bregethwyr ieuainc yn marchnata yn ei bregethau wedi peri i mi gadw rhag eu darllen. Ond wedi treulio y diwrnod hwnnw gydag ef, newidiodd fy marn yn hollol am dano. Cefais ef yn hen ŵr gwybodus, nodedig o garedig, hynod o anymhongar, a llawn o deimlad crefyddol; ac y mae darllen ei weithiau, a gwybod mwy o'i hanes, wedi dyfnhau yr argraff a wnaed arnaf y pryd hwnnw. Tynnodd gynllun taith i ini hyd Ffrwd y Fal, trwy Lanidloes a'r Rhaiadr. Cyrhaeddais Marton er cael y box, a'r ychydig ddillad a llyfrau oedd gennyf yno; ac anfonais ef gyda'r carrier o'r Trallwm i Lanymddyfri, ond bu fwy na phythefnos yn myned. Yr oeddwn yn Ffrwd y Fal o'i flaen. Aethum y Sabboth cyntaf, drwy Lanidloes a St. Arnon, i Rhaiadr. Y Parch. Robert Thomas, Hanover, oedd y gweinidog y pryd hwnnw, ac yr oeddynt wedi cael yno ddiwygiad grymus. Yr oedd yno gynulleidfa lawn, a Chymraeg oedd yr holl wasanaeth, oddieithr ychydig Saesneg a roddid ar nos Sabboth; ac yr oedd anfoddlonrwydd mawr gan lawer o'r hen bobol i hynny. Yr oedd Rhaiadr y pryd hwnnw yn un o'r hen eglwysi cryfaf. Dydd Llun aethum i Lanfair. Yno cyfarfyddais â Thomas Jones, Merthyr Cynog; ac yr oeddym ein dau wedi ein cyhoeddi i fod nos Lun yn Cefn y Bedd, ac nid yn Llanfair. A chan fod capel bach Cefn y Bedd yn myned o dan ryw adgyweiriad, yn nhŷ Mr. Jones, Cefn y Bedd, y pregethasom. Dydd Mawrth aethum i Droed Rhiwdalar, i Dan yr Allt, tŷ Mr. Williams, Llanwrtyd. Yr oedd y cyhoeddiad wedi drysu, ond pregethais y noson honno yn Nhan yr Allt. Dyma y tro cyntaf i mi weled Mr, Williams, a bu i mi yn garedig iawn. Yr oedd yn ddirwestwr selog, yn hen gyfaill i Dr. Arthur Jones, ac wedi gweled fy mrawd Owen pan y buasai heibio ar ei daith ddirwestol. Aeth a mi gydag ef i ryw angladd oedd ganddo y prydnawn hwnnw, a gwnaeth i mi bregethu yn ei le. Yn fuan wedi i mi ddychwelyd o'r angladd i Dan yr Allt, daeth Rhys Dafis,—Rhys glun bren, fel yr adweinid ef oreu,—at y tŷ yn ddrwg-dymherog iawn. Yr oedd wedi bod wrth y capel, ac wedi clywed nad oedd yno gyhoeddiad. Aeth y ddau hen frawd i dymer wyllt, ond daethant i'w lle yn fuan, a threuliwyd y noson i ymgomio yn ddifyr gan fyned dros helyntion y dyddiau gynt. Dyma y tro cyntaf i mi weled Rhys Dafis. Pregethodd ar fy ol y noson honno. Y dyddiau dilynol aethum i Beulah, a Llanwrtyd a Bethel; ac o Bethel croesais y mynydd i Cefnarthen, i dŷ Edward Jones, Pentre Tygwyni. Yr wyf yn meddwl fy mod yno nos Iau, oblegid fod y cyhoeddiad yn Bethel wedi dyrysu. Treuliais y noson gydag ef. Yr oedd ei iechyd wedi ei amharu, a phoenid ef gan beswch; dyn caredig iawn, gwylaidd ac anymhongar, ac yn llawn o yspryd ei waith. Yr oedd ganddo ddawn pregethu, ac yr oedd wedi darllen gweithiau Dr. Dick, y rhai oeddynt hollol ddieithr i'r rhan fwyaf o'r pregethwyr oedd o'i gylch. Dyn o wybodaeth gyfyng ydoedd, a'i farnu wrth safon gwybodaeth y dyddiau hyn; ond yn ol safon y dyddiau hynny yr oedd yn ddyn gwybodus, ac yn sychedu am fwy o wybodaeth. Yr oedd yn ddyn cymwys i ddiwylliant, a phe cawsai fyw buasai yn myned ymlaen gyda chynnydd yr oes. Pregethais yn Pentre Tygwyn nos Wener; a nos Sadwrn yr oedd John Davies, Mynydd Bach, yno yn pregethu, ac arosais i'w wrando, ac yr oedd amryw o Lanymddyfri wedi dyfod yno ar ei ol. Yr oeddwn wedi anfon cyhoeddiad i fod yn Llanymddyfri nos Sadwrn a bore Sabboth, ac i Myddfai a Sardis at ddau a'r hwyr; ond cadwodd Mr. Davies fi yn Llanymddyfri drwy y dydd i bregethu dair gwaith. Ni ddywedodd wrthyf nos Sadwrn amgen nad oeddwn i fyned i Myddfai a Sardis; ond nos Sabboth cydnabyddodd yn onest ei fod am glywed y bore pa fath bregethwr oeddwn cyn penderfynu a yrrai fi ymlaen ai peidio; a phe buaswn yn salach yn ei olwg mae yn debyg y cawswn fyned ymaith a chroesaw. Er ei fod yn ddyn diniwed iawn, eto yr oedd ynddo lawer o gyfrwysder i ofalu am dano ei hun. Un o'r dynion caredicaf ydoedd.