Neidio i'r cynnwys

Gwaith Joshua Thomas/CYFNOD GODDEFIAD

Oddi ar Wicidestun
CYFNOD Y DIWYGIAD PURITANAIDD Gwaith Joshua Thomas

gan Joshua Thomas


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
CYFNOD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD

VIII. CYFNOD GODDEFIAD.
1688-1730.

David Jones, Llandysilio.

P. Beth a ddaeth o'r Beibl wedi marw Mr. Hughes?

T. Dywedir i Mr. David Jones, yr hwn a fwriasid allan o eglwys Llandyssilio yn nechreu'r erledigaeth, gymeryd gofal mawr a llafur i argraffu'r Beibl, ac iddo danu deng mil o honynt ar hyd y wlad. Argraffodd ef amryw ereill o lyfrau Cymraeg, a gwnaeth lawer o ddaioni, a chafodd gynorthwy i ddwyn y draul gan lawer o weinidogion ac ereill o Loegr, gan mwyaf o Lundain."[1]

Argraffiadau'r Beibl.

P. Pa flwyddyn y daeth yr argraffiad hwn allan?

T. Yn 1690.[2] Cyn hyn, ddwy neu dair blynedd, yr oedd rhydd-did wedi dyfod oddiwrth. yr erledigaeth, trwy ddyfodiad y brenin William fel y nodwyd. Felly mewn 60 mlynedd bu pedwar argraffiad o'r Beibl Cymraeg cyffredin i'r bobl, heblaw Beiblau mawrion yr eglwysi. Y cyntaf yn 1630; yr ail yn 1654; y trydydd yn 1678; a'r olaf yn 1690; heblaw'r Testament Newydd, yr hwn a argraffwyd amryw weithiau. Yn awr, hawdd yw gweled fod gweinidogion ac eraill o Eglwys Loegr wedi bod yn egniol iawn i ddwyn Gair Duw i'r Cymry, yn eu hiaith eu hunain; a rhoddi o honynt i'w cydwladwyr gyf ieithiad da a ffyddlon, a'i argraffu hefyd. Wedi hynny, i'r Independiaid a'r Bedyddwyr fod yn ddefnyddiol iawn i bregethu'r efengyl yn Gymraeg, ac i Dduw eu harddel yn neillduol er troedigaeth eneidiau; a hwy, mewn ystyriaeth, a ddechreuodd agoryd llygaid y Cymry i ystyried eu cyflwr ysbrydol; ond wedi hyn bu'r Presbyteriaid yn dra defnyddiol i ddwyn ein cydwladwyr i ddarllen Gair Duw. Independiaid a Bedyddwyr oedd yr Ymneillduwyr cyntaf o Gymru, ond yr wyf yn cyfri mai Presbyteriaid y gelwid Mr. Stephen Hughes, Mr. Thomas Gouge a Mr. David Jones.

Yr Ailfedyddwyr.

P. Mae llawer yn tybied mai dynion diweddar iawn yw y rhai a elwir Ailfedyddwyr.

T. Nid yw hynny ddim ond eisieu gwybod gwell.

P. Paham y mae un farn yn erlid y llall gymaint?

T. Eisiau mwy o wybodaeth o Iesu Grist, bywyd crefydd, a'u calonau eu hunain. Hwy a ddylent barchu eu gilydd, gweddio dros eu gilydd; ac ymdrechu bod yn ddefnyddiol yn eu dydd, fel y bu eu tadau gynt, dyna'r ffordd iddynt gytuno a harddu'r efengyl.

Yr Eglwys wedi Goddefiad.

P. Pa fodd y bu yn yr Eglwys wedi dyfod rhydd-did cydwybod?

T. Yr oedd proffeswyr crefydd yng Nghymru yn gyffredin yn ddwy ran, sef Eglwys Lloegr a'r Ymneillduwyr; a'r olaf yn ddwy drachefn, sef un o honynt dros fedydd plant, y rhai a elwir yn gyffredin, Presbyteriaid; a'r llall dros fedydd y crediniol; byddai Bedyddwyr plant yn galw y rhai'n Ailfedyddwyr, ond yr oeddent yn galw eu hunain Bedyddwyr.

Tafodau Dadleugar.

P. Pa fodd yr oedd y tair plaid hyn yn ymddwyn tuag at eu gilydd wedi cael rhydd-did cydwybod, i addoli Duw yn ol eu goleuni?

T. Nid gwych iawn, o ran tymherau eu ysbrydoedd, yn enwedig rhai o honynt; ond yr oedd rhai o bob barn yn well nag ereill. Ni bu dim erledigaethau mawr, ond byddai gormod o erledigaeth tafod, a dadlu.

Hereticiaid colledig.

P. Beth oedd y dadlau mwyaf rhyngddynt?

T. Ni byddai rhai o Eglwys Loegr yn cyfrif y sawl ni ddeuent i'r llan ond ychydig, neu ddim, well na. hereticiaid colledig; a rhai o'r Ymneillduwyr, o'r tu arall edrych yn ddigon cul arnynt hwythau. Ond goreu yw claddu'r pethau hyn mewn distawrwydd. Anwybodaeth a llygredigaeth oedd llawer o hono, o'r ddeutu. Bu dadlu hefyd am fedydd, a bu dadlu hefyd am athrawiaethau. Ymhlith yr Ymneillduwyr yr oedd y ddau ddadl diweddaf, gan mwyaf. Yr oedd Eglwys Loegr yn gadael y pethau hyn yn llonydd yn y cyffredin.

Dwy Ganrif.

P. Yr oedd y Cymry erbyn diwedd yr oes ddiweddaf wedi diwygio llawer, a rhan fawr o honynt yn gallu darllen, a chanddynt lawer o Feiblau a llyfrau da ereill.[3] A oedd tai cyrddau eto gan yr Ymneillduwyr?

T. Nid oes ond ychydig iawn yng Nghymru yn deall nac yn gwybod y gwahaniaeth mawr yn achos crefydd ymhlith ein tadau rhwng y flwyddyn 1600, a'r flwyddyn 1700; er fod blinder mawr ac erledigaeth yn y wlad yn y can mlynedd hynny, eto, yr oes oreu ydoedd ag a welasai y Cymry ys mwy na mil o flynyddau o'r blaen.

Codi capelydd.

P. Tybiais fod llawer yn cyfrif yr oes ddiweddaf yn ofidus iawn.

P. Felly yr oedd, a'i chymharu a'r amser wedi 1700, ond nid a'i chymharu a'r oesoedd o'r blaen. Am dai cyrddau, nid oedd ond ychydig, os oedd un, yng Nghymru cyn dyfod y rhydd-did yn 1688. Byddent o'r blaen yn cyfarfod mewn tai annedd, a lle gallent; ond wedi hynny dechreuwyd adeiladu tai addoliad, eithr wedi 1700 yr adeiladwyd y rhan fwyaf o'r tai cyrddau trwy Gymru.

Sior y Cyntaf.

P. A fu dim son am gyfyngu y rhydd-did wedi 1688.

T. Byddai son a bygwth gan ddrwg ewyllyswyr ar brydiau, ond yr argoel mwyaf cymylog a fu yn 1714. Yr oeddid yn bygwth yr Ymneillduwyr yn chwerw yr amser hynny. Ond rhagflaenodd Duw hynny, yn ei fawr drugaredd, trwy farwolaeth y frenhines Ann, a dyfodiad George y cyntaf i'r deyrn-gadair. Cafwyd llonydd rhagorol o'r pryd hwnnw hyd heddyw.

Moses Williams.

P. Pa bryd yr argraffwyd y Beibl nesaf yn yr oes hon, sef wedi 1700?

T. Ar fyrr wedi dyfodiad y brenin George, aeth gwr cymwynasgar o Eglwys Loegr ynghyd a'r Beibl i'w barotoi tuag at ei argraffu drachefn, sef Mr. Moses Williams, Ficar y Ddyfynnog, yn sir Frecheiniog, gwr dysgedig ydoedd, ac yn deall Cymraeg yn dda.

P. Beth a wnaeth ef o barotoad ar y Beibl i'w argraffu?

Beibl Moses Williams.

T. Yr oedd y Beibl o'r blaen wedi ei argraffu gan mwyaf trwy ofal yr Ynineillduwyr, oddieithr y rhai oedd i'r llannoedd; gan hynny nid oedd ynddynt ond Gair Duw, ystyr y bennod, ysgrythyrau ac agoriad ambell air ar ymyl y ddalen, a'r Psalmau cân. Ond darfu i'r gwr hwn o Eglwys Loegr roi oes y byd ar ben y ddalen, dosbarthu y Psalmau yn foreuol a phrydnhawnol weddi, a'r amser priodol i ddarllen amryw rannau, yn ol trefn gwasanaeth Eglwys Loegr, yr oedd y Llyfr Gweddi Gyffredin yno a Chanonau Eglwys Loegr. Yr oedd yr Apocrypha yn yr argraffiad hwn hefyd; a mynegai'r Beibl, amryw dablau, hymnau a gweddiau yn y diwedd: a diwygiad ysbeliad yr iaith hefyd.

Mynegai'r Beibl.

P. Pa le y cafwyd mynegai'r Beibl?

T. Dywedir mai Archesgob Usher a'i casglodd ynghyd o hanesion eraill, ac i'r Esgob Lloyd, yr hwn a enwyd o'r blaen, dalfyrru hwnnw a'i drefnu er mwyn ei roi yn y Beibl Saesneg, ac iddo gael ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Mr. S. Williams.[4] Mae hefyd yn y Beibl hwn ychwaneg o ysgrythyrau ar ymyl y ddalen. O herwydd y pethau hyn gelwid ef yn gyffredin "Beibl Moses Williams."

S. P. C. K.

P. Pa bryd, a pha fodd y dygwyd hwn trwy'r argraffwasg?

T. Mae cymdeithas o wyr cyfoethogion a haelionus yn Llundain dan yr enw isod.[5] Mae'n debyg mai ar eu traul hwy yn bennaf y bu'r argraffiad hwn, a ddaeth allan yn 1718,[6] a Mr. Morris Williams yn gofalu am yr argraffwasg.

Cofrestr Moses Williams.

P A fu Mr. Morris Williams yn ddefnyddiol i Gymru heb law hyn?

T. Nodwyd yn barod y gwaith mawr a gymerodd ef i gasglu ac argraffu y "Gofrestr," am yr hon y soniwyd mor fynych o'r blaen. Wrth ddarllen y Gofrestr honno yr wyf yn rhyfeddu gynnifer o lyfrau Cymraeg a argraffwyd o ddechreu 1700 hyd ddiwedd 1716. Mae hanes yno am ynghylch 60 o lyfrau, yn hynny o amser, a llawer o honynt wedi eu cyfieithu o'r Saesneg. Cyfieithodd Mr. Moses Williams 4 neu 5 llyfr.

Y Cyfieithwyr, Iago ab Dewi.

Cyfieithodd Mr. Sam. Williams, person Llangynllo, yn sir Aberteifi, rai llyfrau; Mr. Thomas Williams, eglwyswr, Dinbych, oedd gyfieithwr arall. Heb law y gwyr hyn ac amryw eraill, yr oedd cyfieithwr hynod yr amser hynny, yr hwn a elwid Iago ab Dewi. Clywais air da iddo yn y gwaith hynny; ond ni wn i pwy ydoedd, na pha le yr oedd yn byw; nid yw'r Gofrestr yn rhoi dim. o'i hanes, ond cyfieithodd ef amryw lyfrau da. Nodir yno i dri ar ddeg o wahanol lyfrau gael eu hargraffu yn y flwyddyn 1716. Odid nad rhai bychain oeddent gan mwyaf.

P. Pa flwyddyn yr argraffwyd y Beibl nesaf?

T. Yn 1727. Ond yr oedd hwn heb nag ystyr y bennod, na'r ysgrythyrau ar ymyl y ddalen: am hynny nid oedd ein cydwladwyr foddlon iddo, gan eu bod wedi ymarferyd a'r pethau hyn o'r dechreuad.

Nodiadau

[golygu]
  1. Dr. Calamy on " Ejected Ministers," P. 720.
  2. "Historical Account, P. 47."
  3. Mae Cofrestr Mr. Moses Williams yn nodi fod yn agos i 60 o lyfrau Cymraeg wedi eu hargraffu yn yr hanner olaf i'r oes ddiweddaf heblaw amryw o'r rhai o'r blaen yn cael eu hargraffu o'r newydd. Yr oedd y llyfrau hyn gan mwyaf ynghylch crefydd a phethau buddiol. Yn y flwyddyn 1500 yr oedd Cymru yn dywyll iawn mewn pethau ysbrydol. Yn 1600 yr oedd Iesu Grist, y meddyg mawr, wedi edrych arnynt yn ei drugaredd a'i gariad, eithr nid oedd y dydd eto ond gwawrio arnynt hwy. Yn 1700, yr oedd gwerthfawr oleun wedi ymdaenu, eto llawer o dywyllwch yn parhau.
  4. Historical Account," P. 35. 52.
  5. The Society for promoting Christian Knowledge."
  6. Mi a debygwn i'r Beibl hwn ddyfod allan ar ddwy waith. Mae gennyf fi un o honynt, heb y Llyfr Gweddi Gyffredin, na'r Canonau, na'r Apocrypha, a dywedir i hwn ddyfod allan yn 1717. Ac y mae'r geiriau canlynol ar ei glawr, tu fewn,
    The gift of Caleb Avenant, Gent., late of Shelsley, in the County of Worcester, deceased." Mae Dr. Llewelyn yn nodi ("Historical Account," P. 54) i'r Gymdeithas ganiataui eraill roi arian tuag at y Beiblau, gan addo cynifer o lyfrau ag atebai i'w harian, ar bris penodol. Mae'n debyg i Ymneillduwyr haelionus roi arian i'r diben da hwn, ac iddynt ddewis cael eu Beiblau heb y Llyfr Gweddi Gyffredin a'i berthynasau, ac heb yr Apocrypha; o herwydd hyn mae'n debyg iddynt hwy gael eu Beiblau o flaen y lleill, ac mai hynny oedd yr achos i'r Beibl a sydd gennyf fi, ac eraill, ddyfod allan yn 1717. Edrych, hefyd, "Historical Account," pp. 52, 54