Gwaith Joshua Thomas/CYFNOD Y DIWYGIAD PURITANAIDD
← CYFNOD Y DIWYGIAD PROTESTANAIDD | Gwaith Joshua Thomas gan Joshua Thomas golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
CYFNOD YR ERLEDIGAETH → |
V. CYFNOD Y DIWYGIAD PURITANAIDD.
1620-1660.
P A oedd derbyniad awyddus i Air Duw y pryd hyn gan y Cymry?
T. Yr oedd llawer iawn o honynt eto heb fedru darllen.
Yr Hen Ficer.
P. A oedd gweinidogion duwiol yn eu plith i bregethu iddynt?
T. Nid oedd ond ychydig iawn, eto yr oedd rhai. Yr amser hyn yr oedd y gwr enwog hwnnw, Mr. Rees Prichard, yn Ficar Llanddyfri, yr hwn a 'sgrifennodd y llyfr a elwir "Llyfr y Ficar." Y gân gyntaf yn hwnnw yw," Cyngor i wrando pregethiad yr efengyl, ac i chwilio'r Ysgrythyrau." Yno cawn y geiriau hyn:—
"Mae'r Beibl bach yn nawr yn gysson,
Yn iaith dy fam i'w gael er corn:
Gwerth dy grys cyn bod heb hwnnw,
Mae'n well na thref dy dad i'th gadw.
"Gwell nag aur, a gwell nag arian,
Gwell na'r badell fawr na'r crochan;
Gwell dodrefnyn yn dy lety,
Yw'r Beibl bach na dim a feddi.
"Gan i Dduw roi inni'r Cymru,
Ei Air sanctaidd i'n gwir ddysgu;
Moeswch inni fawr a bychain,
Gwympo i ddysgu hwn a'i ddarllain.
"Na adwn fynd y gwaith yn ofer,
A fu'n gostfawr i wyr Lloeger,
Rhag na fedrom wneuthur cyfri
Ddydd y farn am gyfryw wrthni,
Pob merch tincer gyd â'r Saeson
Fedr ddarllain llyfrau mawrion,
Ni wyr merched llawer Scwier
Gyd â ninnau ddarllain Pader."
"Gwr'adwydd tost fydd i'r Brutaniaid,
Eu bod mewn crefydd mor ddieithriad,
Ac na wyr y ganfed ddarllain,
Llyfr Duw'n eu hiaith eu hunain."
Mae'r gwr duwiol trwy'r holl gân hon, yn dangos mor werthfawr yw Gair Duw, ac yn taer ddymuno ar y bobl i ddysgu ei ddarllen. Ond y mae'r gân nesaf yn dangos mor dra anfoesol yr oedd y Cymry, yr offeiriaid ac eraill, yr amser hynny. Mae'n y llyfr hwnnw ddwy gân arall, sef "Mene tecel tref Llanddyfri," ac "Achwyn Eglwyswr," yn dangos mor annuwiol oedd y bobl trwy'r wlad, er maint ymdrech y gwr da dros eu heneidiau. Mae fe'n dywedyd yno fel hyn:—
Gwae fy nghalon drom gan hynny, Na buasai Duw'n gwyllysu, Fy rhoi'n fugail ar dda gwylltion, Cyn rhoi'm siars y cyfryw ddynion."
"Diboeth." Sieffre o Fynwy.
P. Rhyfedd fel y bu ar y Cymry! A oes dim llyfrau yn rhoi hanesion o hen bethau ymhlith ein cydwladwyr gynt, heblaw y rhai a enwasoch?
T. Mae'r llyfr a elwir Drych y Prif Oesoedd " yn dywedyd fod dynion dysgedig ymhlith y Cymry cyn erioed iddynt glywed yr efengyl, ac wedi ei derbyn i'w plith; ond difrodwyd eu llyfrau yn ofnadwy yn amser yr erledigaeth echryslon dan Dioclesian, fel y nodwyd. Mae gwaith Gildas, fel y crybwyllwyd, yn dangos fel yr oeddent wedi mawr lygru o gylch y flwyddyn 500, &c. Mae Drych y Prif Oesoedd" yn dywedyd i wr a elwid Twrog ysgrifennu Hanes Eglwysig" o gylch y flwyddyn 600, a'i fod yng nghadw yn Eglwys Gelynnog, yn Arfon, a maen du arno yn lle cloriau, a bod y llyfr yn cael ei alw "Diboeth," gan iddo ddianc y tân pan losgodd yr eglwys, ac yn nodi i Dr. Thomas Williams ddywedyd iddo ef weled y llyfr yn 1594. Ond mae yn debyg ei fod wedi ei golli. Nodir yn yr un lle fod Tyssilio wedi ysgrifennu hanes yr Eglwys o gylch yr un amser a Thwrog, mae rhyw bethau yn myned ar ei enw ef eto, ond y mae'n debyg nad oes dim sicrwydd mai ei waith ef ydyw.[1] Am hanes gwledig Cymru, tybygol mai'r goreu yw gwaith Jeffrey ab Arthur, a gwaith Caradog o Lancarfan; dywedir i'r ddau gael eu 'sgrifennu yn gyntaf yn Gymraeg, ond cyfieithwyd y cyntaf i'r Lladin gan Jeffrey, a'r llall i'r Saesneg gan Mr. Humphrey Lloyd, yr hwn a fu farw cyn ei argraffu; ond cymerodd Dr. David Powel, am yr hwn y soniwyd o'r blaen, y gwaith yn llaw ac argraffodd ef. Gelwir hwn yn gyffredin "Powel's Chronicle," argraffwyd ef o newydd gan W. Wynne, A. M. yn 1702. Mae yno ragymadrodd helaeth yn dywedyd mwy am y pethau hyn. Hefyd mae Edward Lloyd, A. M., wedi rhoi enwau rhai cannoedd o lyfrau Cymraeg a welsai ef yn 'sgrifennedig; mae'n dywedyd lle'r oedd y rhan fwyaf o honynt, ac yn nodi eu bod gan fwyaf wedi eu 'sgrifennu ar ol y flwyddyn 1000. Prydyddiaeth yw llawer o honynt, a rhai am grefydd. Enw ei lyfr sydd isod,[2] argraffwyd ef yn 1707. Bu ef lafurus iawn. Bu farw yn 1709.<ref>Gwr bonheddig o dref Dinbych oedd Mr. Humphrey Lloyd. Bu farw yn 1570. Sir Henry Sidney a annogodd Dr. D. Powel i gymeryd gwaith Mr. Humphrey Lloyd yn llaw, er mwyn ei wneyd yn gyhoeddus. Felly argraffwyd ef yn 1584. Diwygiwyd y gwaith ar ol yr hyn a wnaeth Mr. Wynne yn 1702; ac argraffwyd ef mor ddiweddar a 1774.(Noortbouck's "Historical and Classical Dict. on the letter L.") Gwr o sir y Awythig, gerllaw Croesoswallt, oedd Mr. Edward Lloyd. Er fod rhai trwy gamsynnied, yn dywedyd mai gwr o sir Gaerfyrddin ydoedd. Mae hanes neillduol am dano wedi ei argraffu y flwyddyn hon, 1777. Yno danghosir mor llafurus y bu. Darfu ei einioes cyn argraffu yr hyn oedd wedi ei gasglu oll. Bu farw yn 49 oed!(Mr. N. Owen's "British Remains," p. 131, &c)<ref>
Elisabeth a'r Ymneillduwyr.
P. A oedd dim Bedyddwyr nag Ymneillduwyr. eraill ymhlith y Cymry yr holl amser hyn?
T. Yr oedd y brenin Harri'r Seithfed o waedoliaeth y Cymry, ac felly yn ganlynol ei fab, Harri'r Wythfed, a'i ferch yntef, y frenhines Elizabeth. Trwy y rhai hyn y daeth y Cymry i gael heddwch, ac i fod dan yr un breintiau a chyfreithiau â'r Saeson. Yr oedd Elizabeth yn groes iawn i neb ymneilltuo oddiwrth Eglwys Loegr. Ni fynnai'r Cymry anfoddloni eu cares goronog, yr hon oedd wedi caniatau iddynt amryw freintiau, ond nid oedd corff y wlad yn ymorol fawr ynghylch crefydd eto, fel y nodwyd.
Achos ymneillduo.
P. Beth oedd yr achos ymneillduo oddi wrth Eglwys Loegr ar y cyntaf?
T. O achos cyfeiliornadau a drygioni Eglwys Rufain y darfu i'r Diwygwyr ymneilltuo oddi wrthi hi, felly Eglwys Loegr ymhlith ereill. amser y brenin Edward y Chweched yr oedd y diwygiad yn myned yn y blaen, ond bu ef farw yn 1553, yna darfu'r Diwygiad, canys yr oedd ei chwaer Mary yn Bapistes greulon, fel y nodwyd. Pan ddaeth ei chwaer arall Elizabeth i'r goron, nid oedd hi ddim yn foddlon, rhwng unpeth a'r llall, i fyned â'r Diwygiad ond ychydig neu ddim ymhellach nag y gadawyd ef ar farwolaeth Edward. Eithr yr oedd llawer o wyr duwiol a dysgedig yn barnu y dylid diwygio addoliad Duw yn ôl yr Ysgrythyr; eithr wrth weled nad oedd gobaith am y fath ddiwygiad, dechreuasant neillduo, mewn lleoedd dirgel, ar eu pennau eu hunain, i addoli Duw yn ol ei Air, hyd y gallent ei ddeall. Yr oedd rhai o honynt am ddiwygio mewn Bedydd fel pethau eraill; ond eu herlid a gafodd pawb o'r sawl na chytunent âg Eglwys Loegr. Ac o blegid eu bod am burach Diwygiad, galwyd hwy "Puritaniaid." Bu llawer o erlid ar y Puritaniaid yn Lloegr yr amseroedd hyn, ond yr oedd y Cymry heb Air Duw yn eu plith oddi— eithr y Beiblau yn yr eglwysi.
John Penry.
O amgylch y flwyddyn 1586, yr oedd gwr enwog o Gymru yn weinidog, yr hwn a elwid John ab Henry, neu yn ol arfer y Saeson, John Penry, M.A. Dywedir mai gwr o sir Frycheiniog oedd ef. Mae Mr Neale, yn "Hanes y Puritaniaid," yn rhoi gair da iawn iddo, am ei dduwioldeb a'i ddawn yn y weinidogaeth; ac yn nodi ei fod yn bregethwr canmoladwy yn y ddwy brif-ysgol, sef Rhydychen a Chaergrawnt. Dywed ei fod yn fawr ei sel dros ei gyd-wladwyr y Cymry, ac mai efe (yn ol ei dystiolaeth ei hun) oedd y cyntaf a bregethodd yr Efengyl yn gyhoeddus i'r hen Frutaniaid. Argraffodd ddau lyfr o'u plaid, y rhai a enwir isod[3] yn 1588, yn dangos truenus gyflwr y Cymry o eisiau moddion grâs. Y flwyddyn honno yr argraffwyd y Beibl yn Gymraeg gyntaf i'r llannoedd. Yr oedd yn y deyrnas elyniaeth mawr i wr oedd mor gyhoeddus ei sel dros grefydd, yn enwedig gan nad oedd ymhob peth yn cytuno â defodau Eglwys Loegr. O'r diwedd rhoddwyd ef i farwolaeth yn 1593, yn wr ieuanc 34 oed. Bu farw yn gysurus. Nid yw hyn ond rhan o'r ganmoliaeth a rydd Mr. Neale i'r gwr da hwn. Nid yw ef yn son gair mai un o'r Bedyddwyr oedd Mr. Penry, ond yn unig ei gyfrif yn wr rhagorol o'r Puritaniaid. Buasai'n ffyddlondeb, pe dywedasai wrth ei ddarllennydd, fod y Cymro llafurus hwn yn cael ei gyfrif yn un o'r Ailfedyddwyr; yn enwedig gan fod gwr o Eglwys Loegr,[4] 20 mlynedd o'r blaen, wedi cyhoeddi trwy'r wlad mai blaenor yr Ailfedyddwyr oedd Mr. Penry yn ei amser.[5] Tybygid i Mr. Neale gymeryd ei hanes am y gwr hwn o waith Mr. Wood hefyd, canys y mae sylwedd yr hyn a nodir uchod yng ngwaith yr olaf. Dywed ef fod Mr. Penry yn fwy ei ddysg na chyffredin, yn cael ei gyfrif yn bregethwr adeiladol, ac yn wr da; wedi cael ei ddygiad i fyny yn y ddwy brif ysgol, ac yn pregethu yn y ddau le gyda derbyniad. Ond dywed ei fod yn groes i Eglwys Loegr tu hwnt i bawb a fu trwy holl deyrnasiad hir y frenhines Elizabeth. Efe a ysgrifennodd lawer o lyfrau yn erbyn ysbryd erledigaethus yr oes honno; a chafodd lawer ateb gwradwyddus gan ddysgedig ac annysgedig. Am greulondeb y gyfraith yr amser hyn yn erbyn y Puritaniaid, gweler y lleoedd isod,[6] a haneswyr ereill. Mae Bennet a Rapin yno yn enwi Mr. Penry ac eraill. Yn y llyfr cyntaf o'r ddau a enwyd mae'n dangos mor dra angenrheidiol yr oedd diwygiad mewn crefydd ymhlith y Cymry; ac yn yr ail y mae'n annog ei gydwladwyr, uchel ac isel, i ymdrechu cael pregethiad yr Efengyl yn eu plith. Tebygol mai trwy'r gwr hwn y daeth y Cymry i ddeall gyntaf am fedydd y crediniol, wedi'r diwygiad o Babyddiaeth. Nid oedd eto ond ychydig ddiwygiad yn ein gwlad ni. Er ei fod yn bosibl i Mr. Penry fedyddio rhai o'r Cymry, eto yr wyf fi yn meddwl nad ymgorffolodd un eglwys reolaidd yn eu plith dros o gylch 40 mlynedd wedi ei farw ef. Mae'r haneswyr sydd yn erlid y Puritaniaid yn mawr amharchu Mr. Penry, er eu bod yn cydnabod ei fawr ddysg a'i ddawn. Mae'r haneswyr sydd dros y Puritaniaid yn rhoi clod mawr iddo, ond amryw yn celu ei fod dros fedydd y crediniol. Dywedir ei fod yn mawr dosturio wrth wlad ei enedigaeth, gan ofidio eu bod yn y fath dywyllwch ac anwybodaeth, of eisiau rhai i bregethu'r efengyl iddynt.
Wroth a Llanfaches.
P. Pwy a neillduodd gyntaf o'r Cymry oddi wrth Eglwys Loegr?
T. Yr hanes a gefais mai Mr. Wroth, gweinidog Llanfaches, yn sir Fynwy, ydoedd y cyntaf.
Dawns a galar.
P. A oedd ganddo ef ryw achos penodol i neillduo?
T. Yr hanes sydd fel y canlyn am dano. oedd Mr. Wroth, fel llawer ereill o'r Cymry, yn mawr hoffi cerddoriaeth. Yr oedd gwr bonheddig gerllaw a chanddo ryw achos mewn cyfraith i'w drin yn Llundain. Yr oedd Mr. Wroth ac yntef yn gyfeillgar iawn. Aeth y gwr mawr i Lundain ynghylch y gyfraith, a daeth hanes i Lanfaches ei fod wedi ennill y dydd, yr hyn a barodd orfoledd nid bychan gartref. Prynnodd y gweinidog offeryn cerdd[7] newydd i gael llawn orfoledd a gwledda, pan ddelai'r cymydog adref. Yr oedd yr amser wedi ei bennu, a pharatoad mawr yn y teulu, a'r ficar yn trefnu ei offer er mwyn iddo fod yn ben-cerddor y nos honno. Ond tra'r oeddynt yn disgwyl y gwr bonheddig adref, daeth yr hanes ei fod wedi marw. Felly trodd y gorfoledd mawr yn alarnad chwerw-dost. Wrth weled y llefain, yr wylo, a'r galar, dywedir i'r ficar syrthio ar ei liniau, a thaer weddio ar Dduw fendithio y tro rhyfedd hwnnw iddynt oll, a chysuro'r weddw drist a'r amddifaid galarus. Yr ydys yn meddwl, mai hwn oedd y tro cyntaf y gweddiasai ef erioed o'i galon, gan mai gwr ysgafn yn ei fywyd ydoedd o'r blaen. Ond dy- wedir ei fod yn daer iawn y pryd hynny am fendith ar y rhagluniaeth, er eu dwyn i ystyried gwagedd y byd hwn, pwys tragwyddoldeb, breuolder bywyd, &c.
Y dwys fyfyriwr.
P. Beth a ddaeth or ficar wedyn?
T. Roedd o hyn allan yn wr sylweddol ; dwys-fyfyriodd ar Air Duw, pregethodd fel un ag awdurdod ganddo; yr oedd am egoneddu Duw, dyrchafu Crist, ac achub eneidiau gwerthfawr. Gwnaeth swn mawr ar hyd y wlad, a chafodd llawer eu hargyhoeddi.
P. A oedd neb yn y wlad ond Mr. Wroth yn pregethu fel hyn?
William Erbury.
T. Oedd, Mr. William Erbury, ond ni allais ddeall pa le 'roedd ef yn weinidog.
P. Pa amser oedd hyn?
T. Cefais yr hanes ynghylch Mr. Wroth mewn ysgrifen yn sir Fynwy. Ond nid oedd yno ddim o hanes y flwyddyn; eithr yr wyf fi'n barnu ei fod ef wedi dechreu pregethu yn y modd yma ar fyrr wedi 1620, neu o hynny i 1630.
Laud a'r erlid.
P. Pa fodd yr oedd y bobl yn eu dioddef yn gyffredin?
T. Yr oeddynt hwy yn argyhoeddi mor llym, ac yn dangos natur gwir grefydd, fel yr oedd ficeriaid, y gwyr mawr, a llawer ereill, yn anfoddlon iawn iddynt. Yr oedd Laud, archesgob Caergaint, yn erlidiwr creulon yn Lloegr yr amser hyn. Gan fod cymaint llid i'r ddau dyst yma, gwysiwyd hwy i Lundain, i ateb o flaen y frawdle, yno rhoed barn arnynt fel Penrhwygwyr yr Eglwys yng Nghymru. Bu hyn yn 1633, a thrachefn yn 1635.[8] Mae'n debyg troi Mr. Wroth a Mr Erbury allan o'u heglwysi yr amser hyn. Ond pregethu yr oeddent hwy lle gallent. Erbyn hyn yr oedd y Beibl gan y bobl i'w ddarllen, ac yr oedd rhai o honynt yn gallu chwilio yr Ysgrythyrau.
Erbury'n Fedyddiwr.
P. A oedd y gwyr hyn dros fedydd y crediniol neu fedydd plant?
T. Ni chlywais i ddim Ilai nad oedd Mr. Wroth dros fedydd plant, mae Mr. Baxter yn cyfrif Mr. Erbury ymhlith y Bedyddwyr,[9] nid oes achos i amheu na wyddai ef. Mae rhai o lythyrau Mr. Erbury at Mr. Morgan Lloyd, ac un o honynt at Eglwysi y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru, i'w gweled yn llyfr Mr. Thomas Meredydd, a argraffwyd yn 1770. Mae Dr. Walker (o waith Wood's Ath. vol. ii. P. 103.) yn cyfrif Mr. Erbury yn un o'r pennaf o bregethwyr teithiol Cymru.[10]
Olchon y gynulleidfa gyntaf.
P. Pa bryd y corffolwyd y gynulleidfa gyntaf o Ymneillduwyr yng Nghymru?
T. Hyd y gellais i gasglu, ar fanol chwilio, y gyntaf oedd yn, neu gerllaw Olchon, ar gyrrau sir Henffordd, sir Fonwy, a sir Frecheiniog. A Bedyddwyr digymysg oedd y rhai'n, ac y mae yn bosibl iawn iddynt gael eu casglu a'u trefnu yn Eglwys gan Mr. Erbury, er na sefydlodd ef ddim gyd â hwy, ond pregethu ar hyd y wlad lle cai alwad ac odfa.
Y profion.
P. A oes dim lle i brofi pa amser y bu hyn?
T. Mae Mr. David Rees, yr hwn oedd o Gymru, yn dywedyd y gallai ef brofi yn eglur yn 1734 i'r Bedyddwyr gyfodi yn Lloegr a Chymru o gylch yr un amser. Yr oedd ef wedi cymeryd ei hanes o lyfr Mr. Neal, yr hwn oedd wedi dywedyd mai yn 1640 yr ymgorffolodd yr Eglwys gyntaf o Fedyddwyr yn Lloegr, ac mai Mr. Henry Jessey oedd ei gweinidog.[11] Er fod Mr. Rees wedi ysgrifennu o gylch 20 mlynedd ar ol Mr. Neal, eto yr oedd ef heb gael y pethau hyn i'r gwraidd; canys y mae'n dywedyd yno, "Od oedd un camsynnied yng nghyfrif Mr Neal, y byddai da ganddo ei wybod, ac y byddai diolchgar am hynny." Eglur yw, na wyddai Mr. Neal, na Mr. Rees, yn hollol, pa bryd y corffolwyd. yr Eglwys gyntaf o'r Bedyddwyr yn Lloegr wedi'r diwygiad. Ond o gylch pedair blynedd wedyn, cafwyd gwell gwybodaeth o hyn gan Mr. Crosby; [12] sef i'r eglwys gyntaf o'r Bedyddwyr yn Lloegr gael ei chorffoli yn Llundain, y 12fed o Fedi, 1633, ac mai Mr. Spilsbury oedd ei gweinidog. Ac i'r eglwys nesaf ymgorffoli yn 1639. Yr oedd ef wedi cael yr hanes hyn o ysgrifeniadau yr eglwys, o waith law Mr. William Kiffin, yr hwn oedd weinidog y Bedyddwyr. O'r blaen, yr oedd y Puritaniaid, y Bedyddwyr, ac eraill, yn yr un cymundeb. Yr oedd yr Independiaid a'r Bedyddwyr wedi ymgorffoli yn Eglwys yn 1616. Hon oedd yr eglwys drefnus cyntaf o honynt. Mae hanes dechreuad Eglwys Olchon wedi myned ar goll.
Ond yr wyf fi'n barnu oddi wrth amryw amgylchiadau, i Olchon ymgorffoli o amgylch 1633. Yn hynny mi a dybygwn fod Mr. Rees yn barnu yn gymwys i'r Bedyddwyr ymgorffoli o gylch yr un amser yng Nghymru a Lloegr, er nad oedd ef yn gwybod yr amser yn gywir.
P. A oedd Eglwys Loegr ddim yn bedyddio plant trwy drochiad y pryd hynny?
T. Tybygid eu bod, wrth hyn; mae trefn bedydd yn gorchymyn trochi y plentyn yn ddiesgeulus ac yn ddarbodus, os hysbysid i'r gweinidog y gallai y plentyn ddioddef hynny yn dda. Mae Ficar Llanddyfri yn ei agoriad ar gatecism Eglwys Loegr, yn dywedyd fel hyn :
Holiad-Beth ydyw nod gweledig
A'r arwydd digon tebyg.
Yn y Bedydd o'r tu faes.
Yn selu'r gras arbennig.
Ateb-Y dwr yn y Bedyddfan,
Lle trochir y dyn bychan
Yn enw'r Tad a'r Mab dri phryd,
A'r sanctaidd Ysbryd purlan.
Gwr o Eglwys Loegr oedd Syr John Floyer, yr hwn a 'sgrifennodd o gylch 1700. Mae fe yn nodi i'r Cymry adael trochiad yn y Bedydd yn ddiweddar, ac i rai canol oedran ddywedyd wrtho ef, eu bod yn cofio yr arfer o drochiad. Ebe fe ymhellach—
"Rhoddais yn awr y dystiolaeth a ellais gael mewn llyfrau Saesneg, i brofi yr arfer wastadol o drochiad, o'r amser y dechreuwyd bedyddio y Brutaniaid a'r Saeson hyd ddyddiau'r Brenin James (yr hwn a ddechreuodd deyrnasu yn 1603. ac a ddiweddodd yn 1625) pan ddechreuodd pobl rwgnach yn erbyn pob hen ddefod; a thrwy hoffi rhywbeth newydd, tynerwch rhieni, a chymeryd arnynt fod yn fwy gweddaidd, rhoddasant heibio drochiad, yr hyn ni wnaed erioed trwy un weithred yn Eglwys Loegr, eithr y mae trefn ein heglwys ni, mewn bedydd yn gorchymyn byth i drochi yn ddiesgeulus a darbodus."
Dywed hefyd,
"Yr wyf yn clywed fod rhai o'r Cymry'n trochi hyd yn hyn.[13]
Llanfaches.
P. Pa bryd y corffolwyd yr eglwys nesaf o Ymneilltuwyr yng Nghymru?
T. Mae hanes eglur o hyn wedi ei hachub yn Hanes Bywyd Mr. Henry Jessey.[14] Yno dywedir i Mr. Jessey gael ei anfon gan y gynulleidfa ym mis Tachwedd 1639, i gynnorthwyo hên Mr. Wroth, Mr. Cradock, ac eraill, i gasglu a threfnu Eglwys yn Llanfaches yn sir Fynwy, yn Neheubarth Cymru, yr hon wedi hynny ydoedd, fel Antiochia, yn Fam-eglwys, yn y wlad genhedlig honno, yr hon a fu hynod iawn o ran ei swyddogion, ei haelodau, ei threfn a'i doniau. Gan fod Mr. Wroth yn cael ei alw yn hen wr, yr wyf yn meddwl y gallai fod o gylch, neu yn agos 20 mlynedd yn pregethu wedi gadael ffordd Eglwys Loegr, cyn corffoli yr eglwys hon.
Henry Jessey.
P. Gan mai Mr. Henry Jessey oedd yma yn blaenori, byddai dda gennyf wybod ychydig o hanes y gwr hwnnw.
T. Gwr enwog iawn ydoedd ef o ran dysg, dawn, a gras. Yn 1637 dewiswyd ef yn fugail ar eglwys yr Independiaid yn Llundain, oddiwrth yr ymneillduasai y Bedyddwyr bedair blynedd o'r blaen, mewn cariad a thrwy gydsyniad o'r ddau tu. A'r gynulleidfa honno ai danfonodd i gynorthwyo yn Llanfaches, fel y nodwyd. Yr oedd amryw o'i eglwys ei hun yn cael eu hargyhoeddi o fedydd y crediniol, ac yn myned ymaith o bryd i'r llall. Eto caredig iawn oedd ef tuag atynt, a than argyhoeddiadau ei hun yn lled fynych. O'r diwedd gorfu arno, mewn cydwybod, drochi'r plant yn lle eu taenellu wrth eu bedyddio. Wedi llawer o fyfyrio, gweddio, ac ymddiddan â'r duwiolion dysgedig, bedyddiwyd ef gan Mr. Hanserd Knollys, yn 1645. Ond efe arhosodd yn ei le yn weinidog fel o'r blaen, a'r gynulleidfa wedy'n yn gymysg, rhai yn Independiaid a rhai yn Fedyddwyr. Mae Dr. Calamy yn rhoi gair rhagorol i Mr. Jessey; ond nid yw efe ddim yn dywedyd mai un o'r Bedyddwyr oedd efe. Eithr y mae Mr. Palmer yn ddiweddar wedi dywedyd yn ffyddlon beth oedd Mr. Jessey. Am ryfedd glod y gwr hwn, gweler y llyfrau isod.[15] Yma gwelwn mai Bedyddwyr ac Independiaid oedd dechreu yr Ymneillduwyr yng Nghymru.
Llanfaches ac Olchon.
P. Od oedd Llanfaches yn fam-eglwys, fel y soniwyd, pa fodd yr ydych chwi yn barnu mai Olchon oedd yr hynaf?
T. Nid wyf fi ddim sicr o hynny, ond oddiar amryw amgylchiadau yr wyf yn meddwl hynny. Eithr yr oedd eglwys Olchon mor fechan nad oeddid yn dal fawr sylw arni ymhell, ac y mae Olchon yn Lloegr hefyd, gan ei bod mewn cwr o sir Henfordd, er mai Cymry oedd ac yw'r bobl. Mae gennyf fi yr hanes hyn o waith Mr. Vavasour Powel, yr hwn a wyddai am yr amser hynny, "Fod proffeswyr crefydd yn anaml iawn yng Nghymru, oddi eithr mewn rhai conglau o ddwy neu dair sir, o gylch 1641. Ac ynghylch yr amser hynny y casglwyd yr eglwys gyntaf, os nid yr unig un, trwy holl Gymru." Yn y blaen dywed ymhellach, Yn nechreu y rhyfel, (1641) nid oedd ond un neu ddwy gynulleidfa wedi eu casglu trwy holl Gymru."[16] Yma nodir fod Olchon ar gonglau neu gyrrau tair sir, y rhai a enwyd yn barod; hynny yw, yr oedd y bobl yn byw, rai yn yr un sir, a rhai yn y llall. Ond y mae Llanfaches tua chanol sir Fonwy, onid wyf fi'n camsyniad. Eto yr oedd Olchon mor fach eu nifer, ac heb un gweinidog o Rydychen ond un o'u plith eu hunain, fel na wyddai Mr. Powel yn iawn pa un oedd oreu eu galw'n eglwys neu beidio. Ni wnai ef yn y ddau le a grybwyllwyd na'i gosod yn y rhif yn hollol, na'i gadael yn ol. Er fod hyn yn dangos i ni o leiaf, fod Olchon y pryd hynny yn eglwys, eto nid yw yn brawf eglur ei bod neu nad oedd wedi ymgorffoli yn 1633. Barned y darllennydd am hyn, fel y gwelo yn dda. Sicr yw fod mwy o son am Lanfaches, gan fod yn perthyn iddi gynifer o wyr a gafodd eu dysg yn Rhydychen, a'r fath wr o Lundain yn eu cynorthwyo i ymgorffoli, yn ol trefn yr efengyl.
P. Darfu i chwi enwi Mr. Walter Cradock a Mr. Vavasour Powel; byddai da gennyf wybod beth oeddent hwy.
Walter Cradock a Vavasour Powell.
T. Dywedir eni Mr. Walter Cradock mewn lle a elwir Trefela, ym mhlwyf Llangwm, yn agos i Lanfaches: ei fod yn etifedd cyfrifol yn y wlad, ond iddo gael ei ddwyn i fyny yn Rhydychen, mae'n debyg, mewn bwriad i fod yn weinidog yn Eglwys Loegr. Pan oedd cymaint o son am Mr. Wroth trwy'r gymydogaeth aeth yntef i'w wrando, a chafodd ei ddwysbigo, a throdd allan yn weinidog enwog iawn, ac a ymdrechodd lawer i danu gwybodaeth ymhlith y Cymry. Gwr o sir Faesyfed o enedigaeth oedd Mr. Vavasour Powel, yr hwn hefyd a gafodd ei ddysg yn Rhydychen; ac oedd wedi dechreu darllen gwasanaeth yn y llan cyn iddo weled ei drueni trwy bechod, ac adnabod gras Duw mewn gwirionedd. Bu gweinidogaeth Mr. Cradock yn fuddiol iawn iddo ef.[17] Mae bywyd Mr. Powel wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg yn ddiweddar; gan hynny nid oes achos dy weyd llawer yma am dano. Trwy fawr ymdrech y ddau wr ragorol hyn a Mr. Erbury yr aeth pregethiad yr efengyl trwy Gymru yn gyffredin. Er fod gwyr enwog o Eglwys Loegr wedi bod mor egniol i gael Gair Duw i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain, fel y dangoswyd, eto'r oedd yr ambell bregethwr duwiol oedd yn eu plith yn y llan yn gorfod cadw yn ei eglwys ei hun: ac eto nid oedd ond ychydig grefydd ymhlith y bobl. Eithr pan ddechreuodd Mr. Wroth a Mr. Erbury fod yn fwy gwresog na chyffredin yn eu gweinidogaeth, cawsant eu herlid yn fuan, a'u troi allan o'r llannoedd, fel y nodwyd; ond pregethu ar hyd y wlad yr oeddent hwy er hyn oll. Pan gafodd Mr. Cradock a Mr. Powel eu galw i'r gwaith, aethant hwy yn fwy hyf dros y wlad, gan bregethu lle gallent, yn y llannoedd, yn y tai, yn y marchnadoedd, yn y coedydd, ar y mynyddoedd, &c.
P. Dywedasoch fod y ddau wr cyntaf, un dros fedydd plant a'r llall dros fedydd y crediniol; beth oedd y ddau olaf, a fu mor enwog?
T. Yr oedd y rhain yr un modd, Mr. Cradock yn Independiad a Mr. Powel dros fedydd y crediniol. Yr oedd y ddau hyn yn pregethu ar hyd y wlad ryw amser cyn 1640.
Diffyg crefydd.
P. Mae'n debyg, wrth yr hyn a nodasoch, nad oedd fawr grefydd ymlith y Cymry eto mewn gwirionedd.
T. Nag oedd; canys dywed Mr. Powel i erfyniad gael ei anfon at y brenin o gylch 1641, yn gosod allan yn ostyngedig ac yn wirioneddol o flaen y brenin a'r parliament, gan lawer o wyr cyfrifol, mai, ar fanwl chwilio, prin yr oedd. cynnifer o bregethwyr cydwybodol arhosol yng Nghymru ag oedd o siroedd ynddi. A'r ychydig oedd, naill ai wedi cael eu distewi, neu eu mawr erlid; a bod proffeswyr crefydd hefyd yn anaml iawn, oddieithr mewn rhai conglau o ddwy neu dair sir. Ond torrodd allan y rhyfel (rhwng y Brenin a'r Parliament) fel na chafodd Cymru ddim cynnorthwy; eithr yn y gwrthwyneb gorfu ar y pregethwyr a'r proffeswyr, er anamled oedd- ynt, adael y wlad trwy greulondeb yr erledig- aeth. Codwyd eu da a'u dodrefn gan y gwrth wynebwyr, a bu gyfyng iawn ar eu gwragedd a'u plant.[18]
Y Rhyfel Mawr, 1642-1648.
P. Pa hyd y parhaodd yr amser gofidus hynny?
T. Pahaodd y rhyfel nes oedd tua 1648. A bu yn ofidus iawn yn y wlad.
P. A oedd dim pregethu ar hyd y wlad yn amser y rhyfel hynny?
T. Oedd ar brydiau gan y gwyr a enwyd, ond yr oeddynt yn gorfod bod yn fwy dirgel, ac yn ddioddef llawer er hynny.[19]
P. A oedd dim pregethwyr eraill wedi codi?
T. Oedd, Mr. W. Thomas, yn Llanfeches, am yr hwn y sonir yn Llantrisaint; Mr. Jenkin Jones, am yr hwn a sonir yn Olchon, ac Abertawe; Mr. Hugh Evans. am yr hwn y sonir yn y Dolau; a Mr. Morgan Lloyd, am yr hwn y sonir yn Wrex- ham. Yr oedd y tri blaenaf yn Fedyddwyr, nid wyf ddim yn sicr pa un ai bod yr olaf neu beidio, yr wyf fi yn meddwl nad oedd.
Ansicrwydd hanes yr eglwysi. P. Pa bryd y corffolwyd ychwaneg o eglwysi cynulleidfaol?
T. Nid wyf fi ddim yn sicr pa bryd y corffolwyd y rhai nesaf.
P. Yr oedd y pregethwyr, rhai yn Independiaid a rhai yn Fedyddwyr, pa fodd yr oedd yr eglwysi neu'r cynulleidfaoedd?
T. Yr oedd Llanfeches yn gymysg, ac yr oedd y gweinidogion a enwyd oll, hyd ac yr wyf fi'n deall, dros gymundeb cymysg, oddieithr Mr. Hugh Evans. Nid wyf fi'n deall fod na'i bobl ef nag Olchon erioed yn gymysg, ond yn Fedyddwyr oll.
Y Bedyddwyr a'r Ymneillduwyr.
P. Pa hyd y parhaodd eraill yn gymysg?
T. Bu rhai yn gymysg yn hir iawn. Mae chydig o gymysg yn Wrexham, y Drefnewydd, Llanbryn-mair, a'r Fenni, hyd heddyw. Ond yr oedd gwr enwog o'r Bedyddwyr gerllaw Abertawe, sef Mr. John Miles, yr hwn oedd yn gweled anghysondeb y fath gymundeb, felly neillduodd eraill ar fyrr.
Cymru wedi'r rhyfel.
P. Pa fodd y bu ar Gymru wedi 1648?
T. Mae Mr. Vavasour Powel yn dywedyd, wedi i'r wlad lonyddu rhyw faint yn ol y rhyfel, i'r ychydig lafurwyr a droasid allan o'r winllan gael eu hannog i ddychwelyd, ac i Dduw fendithio eu llafur er troedigaeth llawer o eneidiau: a rhoi lle i obeithio fod mwy o'r defaid cyfrgolledig ar fynyddau Cymru i gael eu dwyn adref i gorlan Crist. Eto yr oedd mawr wrthwynebiad, trwy'r bugeiliaid segur (sef y ficeriaid a'r cyfryw), y rhai oedd am eu porthi eu hunain, hyd oni wnaed gweithred senedd (Act of Parliament) o'r enw isod,[20] er tanu'r efengyl trwy Gymru, ym mis Chwefror, 1649. Trwy'r gyfraith hon trowyd allan o'r llannoedd lawer o weinidogion Eglwys Loegr, o herwydd anwybodaeth, drwg fuchedd, &c.[21]
T Troir offeiriaid allan.
P. Oni wnaeth bwrw'r offeiriaid fel hyn o'u lleoedd lawer o gynnwrf yn y wlad?
T. Do, lawer iawn. Dywedwyd i weinidogion Eglwys Loegr gael eu troi allan oll trwy Gymru, a gadael y wlad heb weinidogion.
P. Beth oedd y gwirionedd yn hyn?
T. Mae Mr. Powel yn dywedyd fod 11 neu 12 heb eu troi allan yn y sir yr oedd ef yn byw ynddi, sef sir Drefaldwyn, ac felly ymhob sir, fwy neu lai ac na wyddai ef am neb a drowyd allan, od oedd ynddynt gymwysiadau gwîr weinidogion neu eu bod yn debyg i wneyd daioni, ac iddynt gael ymddwyn tuag atynt mor dyner a hynny.[21]
Y Bedyddwyr yn llywodraethu.
P. Pwy oedd yn llywodraethu yr amser hyn, Bedyddwyr neu eraill?
T. Presbyteriaid, ac Independiaid rai. Bedyddwyr plant, gan mwyaf, oedd yn gwneyd cyfreithiau yn Llundain, ond Mr. Powel a Bedyddwyr eraill oedd fwyaf egniol ym mhlith y Cymry.
P. Pa fodd y gwyddoch chwi hynny?
T. Ysgrifennodd rhai o Eglwys Loegr lyfrau yn ei erbyn, un o honynt a elwid "Llef wbwb y wlad,"[22] ac achwynwyd arno yn dra chreulon fel un yn yspeilio'r wlad, &c.
Examen Vavasoris.
P. A wnaeth Mr. Powel ddim ateb i'r pethau hyn, er mwyn crefydd?
T. Do, efe argraffodd lyfr, i amddiftyn ei hun, ac i brofi mor ddieuog ydoedd o'r holl anwiredd a godwyd arno. Enw y llyfr a welir isod,[23] daeth allan yn 1653-
Llaw haearn Harrison, Major General Cromwell yng Nghymru.
P. A oedd neb ond Eglwys Loegr yn achwyn arno?
T. Darfu i Dr. Calamy ddywedyd am yr amser hynny, o waith Mr. Baxter, i Harrison, trwy awdurdod, ar unwaith roi lawr (sef, rhoi allan o'r llannoedd) holl weinidogion y plwyfau trwy Gymru, am fod y rhan fwyaf o honynt yn anwybodus, ac o ddrwg fuchedd; a gosod fyny ychydig o bregethwyr teithiol yn eu lle. Yna ebe 'fe,—
Dyma'r cyflwr y dygodd yr Ailfedyddwyr a rhwygwyr eraill, yr holl dir iddo. A'r diben o hyn oll, oedd rhag i'r bobl gael eu temtio i feddwl fod eglwys y plwyf yn wir eglwys; a bedydd plant yn wir fedydd, neu eu bod eu hunain yn wir gris'nogion. Ond rhaid oedd eu hargyhoeddi, fod yn gofyn eu gwneyd yn gris'nogion ac yn eglwysi yn ffordd yr Ailfedyddwyr a rhwygwyr eraill.[24]
Mae Dr. Walker yn ei nodiadau ar Dr. Calamy yn dal sylw hefyd i'r Ailfedyddwyr roi lawr holl weinidogion y plwyfau trwy Gymru.[25]
Calamy a Walker.
P. A wnaeth Dr. Calamy un ateb i Dr. Walker?
T. Do, ac y mae yno yn adrodd amddiffyniad Mr. Powel; ond nid yw ef ddim yno yn cyfaddef iddo ef ei hun wneyd cam â'r Bedyddwyr yn yr hyn a 'sgrifenasai ef o'r blaen; eto y mae'n achwyn ar Dr. Walker am ddwyn llawer o wag chwedlau, o'r llyfr "Llef wbwb,'"ar Mr. Powel; heb ddal sylw yn y mesur lleiaf fod atebion wedi cael eu gwneyd i'r chwedlau hynny;[26] er hynny yr oedd Dr. Calamy yn euog o'r un bai, canys yr oedd Mr. Powel wedi ateb ymhell cyn iddo yntef 'sgrifennu.
P. A ddiwygiodd Mr. Palmer ddim ar hyn?
T. Mae'n debyg na ddigwyddodd dim iddo ganfod, na meddwl am hyn, canys yn ei argraffiad cyntaf o waith Dr. Calamy, mae'n dywedyd, yr ôl ei awdwr, i weinidogion y plwyfau gael eu rhoi lawr oll. Ond fe adawodd yn ol yr hyn a ddywedir uchod am yr Ailfedyddwyr[27]Mae fe'n rhoi gair da iawn i Mr. V. Powel, o waith Mr. Neal.[28]
Y Troi Allan.
P. Beth mae Mr. Powel ei hun yn dywedyd am y pethau hyn?
T. O ran y gweinidogion, nodwyd mewn rhan yn barod; ond heb law y rhai a adawyd yn eu lle heb eu troi allan, y mae'n dywedyd, i'r rhai a drowyd allan, gael pregethu ar brydiau; ac iddynt arfer pob moddion cyfreithlon i gael pregethwyr duwiol i Gymru; iddynt anfon amryw weithiau i Rydychen, Caergrawnt,[29] Llundain, a'r lleoedd yr oeddent fwyaf tebyg i gael cynorthwy; a thrwy hynny iddynt gael llawer, ond nid cynnifer ag ewyllysient, gan na allent bregethu yn Gymraeg. [30]
Pregethwyr 1648-1660.
P. Pa sawl allai fod o weinidogion yng Nghymru yr amser hyn?
T. Mae Dr. Calamy ei hun yn dywedyd fel hyn, Er yr holl achwyn am drefniad pethau yng Nghymru o 1648 hyd 1660, eto mae Whitlock enwog yn dywedyd (Memoirs, P. 518) fod yn y tair sir ar ddêg o Gymru 150 o bregethwyr da, fis Medi 1652, a'r rhan fwyaf o honynt yn pregethu 4 neu 5 waith yn yr wythnos."[31] Yr oedd cyflwr Cymru y pryd hyn lawer yn well nag o gylch 1641, pan mai prin yr oedd cynifer o bregethwyr ag oedd o siroedd yng Nghymru.
Addysg Pregethwyr.
P. A oedd pregethwyr yr amser hyn wedi bod oll yn rhyw brif ysgol?
T. Yr oedd llawer o honynt wedi bod; ond gan na ellid cael digon o rai duwiol dysgedig, trefnwyd i chwilio allan am wyr duwiol, y rhai yr oedd ganddynt ddawn i'r weinidogaeth, er na byddent yn dra dysgedig. Trefnwyd rhai trwy'r deyrnas, i wrando dynion ieuainc yn pregethu, galwyd y rhai'n Triers, sef Profwyr. Yr oedd dynion eraill ar hyd y wlad a elwid Commissioners. Wedi cytunai'r Profwyr fod gwr yn gymwys i'r weinidogaeth, rhoddent orchymyn i'r Commissioners roddi awdurdod i'r cyfryw i fyned allan i'r weinidogaeth, a chael cynhaliaeth yn y gwaith. Er mwyn i'r oes hon, a'r rhai a ddel, weled trefn yr amser hynny, gosodaf yma yr awdurdod gwladaidd a roddid i weinidog. Gweler hi isod." [32]
Y Profwyr.
Yr oedd pum gweinidog i farnu dawn y gwr, ac os byddai gymeradwy, rhoddid gorchymyn ysgrif- enedig i'r Commissioners ei awdurdodi i waith y weinidogaeth. Gwyr cyfrifol o'r wlad oedd y Commissioners, byddai pump o honynt yn rhoi eu dwylaw wrth yr awdurdod, ac yn gorchymyn i Drysorwr y Sir dalu y gweinidog y swm a enwent hwy. Dywed Dr. Walker, fod Mr. Powel, wrth ei enw, yn yr Act honno, yn un o'r Commissioners, ac yn bregethwr teithiol trwy Gymru; a bod Mr. Jenkin Jones, wrth ei enw, yn un o'r Profwyr yn yr Act. [33]
Act Vavasour Powel.
P.
Pa fodd y gallwyd cael y fath Act er mwyn y Cymry yn unig?
T. Mae Dr. Walker yn dywedyd mai trwy Mr. V. Powel yn bennaf y cafwyd hi.[34]
Prynnu Beiblau wedi troi'r ficeriaid allan.
P. Pa fodd yr oeddent yn gwneyd am Feiblau yr amser hyn?
T. Pan y trowyd cynnifer o'r ficeriaid allan o'r Llannoedd, yr oedd achwyn mawr gan lawer fod y bobl yn cael eu gadael i droi yn Ailfedyddwyr, yn Babtistiaid, yn ddigred, &c. Ac y mae Dr. Calamy yn cadw'r achwyn yn y blaen hir flynyddau wedi hynny, lle mae'n dywedyd i'r holl ficeriaid gael eu troi allan trwy Gymru.
Ond y mae hyd yn oed Dr. Walker, yr hwn oedd wr o Eglwys Loegr, yn cyfaddef fod 127 o'r hen weinidogion wedi eu gadael yn eu lleoedd yn Neheubarth Cymru yn unig.[35] Ond mewn ateb i'r achwyniadau uchod, heb law'r hyn a nodwyd o'r blaen, mae Mr. Powel yn dywedyd, er profi pa fath ddiwygiad oedd yn y wlad, fod rhan fawr o'r argraffiad gynt o'r Beibl Cymraeg wedi ei brynnu, ac yn ol hynny, dau argraffiad yn ychwaneg, sef un o'r Testament Newydd, a'r llall o'r holl Feibl, ac o'r rhai'n ei fod yn credu fod o leiaf bump neu chwech mil wedi eu gwerthu. Wrth hyn, ebe fe, y gwelir fod crefydd yn cynyddu. Ac er fod y bobl mor ddigrefydd trwy Gymru yn 1641, mae'n nodi fod yno o gylch 1660, uwch law ugain o gynulleidfaoedd wedi eu casglu, a bod yn rhai o honynt 200 o aelodau, eraill 300, ac yn rhai 4 neu 500 o aelodau.[36]
Culni Charles Edwards.
P. Pwy gynorthwyodd i argraffu y Beibl bryd hynny?
T. Mae Dr. Llewelyn yn nodi i'r argraffiad hwn ddyfod allan yn 1654, a bod Mr. Charles Edwards, yn "Hanes y Ffydd," yn dywedyd mai chwe' mil oedd o rifedi yn yr argraffiad, ond nad yw Mr. Edwards yn son un gair, trwy bwy y daeth hwn allan.[37] Nid oedd Mr. Edwards ddim am roi gair da i Mr. V. Powel ac eraill o'r amser hyn, ond nid wyf fi yn ameu nad Mr. Powel a fu flaenaf yn y gwaith hwnnw, fel pethau eraill, dros y Cymry yn y blynyddau hynny. Yr wyf yn credu fod Mr. Cradock ac eraill yn cynorthwyo. Eto yr oedd yr argrafflad hwn yn wallus ac yn feius iawn, fel y nodir yn y blaen.
Clod Vavasour Powel.
P. Mae'n debyg fod Mr. Powel yn ddefnyddiol iawn i Gymru.
T. Yr wyf fi yn meddwl na bu un dyn erioed yn fwy defnyddiol i'r Cymry yn achos eu heneidiau, er fod llawer eraill wedi bod yn dra defnyddiol. [38]
P. Mae'n debyg nad oedd fawr o duedd i brynnu'r Beibl a ddaeth allan yn 1630, nes daeth Mr. Powel ac eraill o'i frodyr i bregethu ar hyd y wlad.
T. Mae hynny yn eglur, ac yn dangos hefyd mor anuwiol ac anwybodus oedd y wlad, pan yr oedd mor ddifeiblau o'r blaen, ac nad oedd ei bris yn awr ond coron arian, fel y noda'r Ficar.
Bedyddwyr ac Independiaid.
P. A oedd llawer o Fedyddwyr yng Nghymru. yr amser hyn?
T. Oedd llawer iawn, ond yr oedd yr Independiaid a'r Bedyddwyr yn gymysg mewn cymundeb mewn llawer lle.
Tro ar yr olwyn.
P. Pa hyd y parhaodd pethau fel hyn?
T. Nid hir, canys yn 1660 ymddangosodd troell arall yn nhrefn rhagluniaeth.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Mae Mr. E. Lloyd yn son am y ddau wr hyn, Twrog a Thysilio, ychydig yn wahanol oddi wrth Ddrych y Prif Oes— oedd." Mae fe hefyd yn sôn am Gofrestr o hen ysgrifenwyr Cymraeg, o waith Ilaw Mr. H. Salesbury. Mi a dybygwn i Mr. Edward Lloyd weled y Gofrestr honno ei hun. Odid na bu honno yn gynnorthwy iddo ef. Arch. Brit. P. 225.
- ↑ "Archæologia Britannica."
- ↑ Hanes y Ffydd," tu dal. 234. "Athen. Oxon." Voli. Fasti Col. 39. "A view of some parts of such public wants and disorders as are in the service of Gon, within her Majesty's country of Wales.—With an humble petition to the high court of Parliament for their speedy redress. Exhortation unto the governors and people of Wales, to labor earnestly to have the preaching of the Gospel planted among them.
- ↑ Mr Anthony Wood
- ↑ Y geiriau ydynt. A most notorious Anabaptist (of which party he was in his time, the Corypheus.")
- ↑ 35 Elizabeth c. 1. Neale's "History of the Puritans" vol. i. Bennett's 'Memorial of the Reformation," P. 75. Rapin, vol. i. P. 141. "Athen. Oxon." vol. i. Col. 258, &c.
- ↑ Violin.
- ↑ Mr. Neal's History of the Puritans," vol. ii. pp. 253, 275.
- ↑ "Plain Scripture Proof for Infant Baptism," P. 147.
- ↑ Sufferings of the Clergy," part i. p. 159
- ↑ Answ. to Walker on Baptism," pp. 184, 187
- ↑ History of the English Baptists," vol. i. pp. 147, &c.
- ↑ Treatise of Cold Bathing," 4th Edit. pp. 14, 61, 87.
- ↑ Mr Jessey's Life, p. 7, 10.
- ↑ Jessey's Life." Crosby, vol. i. p 307. Dr. Calamy's Continuation, p. 45, &c. "The Nonconformist's Memorial," vol. 1. p. 108.
- ↑ Brief Narrative of Wales's Condition," prefixt to "The Bird in the Cage. 1 Walter Cradock.
- ↑ Mr. Vavasour Powel's Life," pp. 3. 106.
- ↑ Brief Narrative.
- ↑ Bu Mr. Moses Williams, Ficar y Ddyfynnog, yn ymdrechiadol iawn yn ei amser dros Gymru, fel y nodir yn fwy neillduol yn y blaen. Darfu iddo gasglu, hyd y gallai, enwau yr holl lyfrau a argraffesid yn Gymraeg, neu'n perthyn i'r Gymraeg, o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1717. Ac yn y flwyddyn honno efe argraffodd Gofrestr o'r llyfrau oll, mor gywir ag y gallodd; yr amser, a'r lle yr argraffwyd. a phwy a 'sgrifenodd neu a gyfieithodd y rhan fwyaf o honynt, &c. Mae un copi o'r Gofrestr hon yn cael ei chadw yn ofalus gan y Cymro dwys a diledryw Richard Morris, Esq., yn Llundain. Mae fe wedi casglu a chwanegu amryw at y Gofrestr, ac yn son, wedi ei diwygio, am ei hargraffu o'r newydd. Mae holl Gymru yn rhwym i'r gwr bonheddig hwn, amryw ffyrdd, ys lawer o flynyddau. Felly'r wyf fi a'r darllenydd yn rhwym iddo am bob hanes ag sydd genym o'r Gofrestr. Canys trwy gyfryngdod mwyn ein cydwladwr, Dr. Llewelyn, caniataodd Mr. Morris i mi gael benthyg ei lyfr ef hyd y byddai achos.Yn ôl y Gofrestr ni argraffwyd ond ychydig o lyfrau yn Gymraeg dros 50 mlynedd nesaf ar ol 1600. Yn y flwyddyn honno [1600] daeth allan lyfr o'r enw hyn, Darmerth, neu arlwy i weddi a ddychymygwyd er mawr dderchafiad Duwioldeb, ac i chwanegu gwybodaeth ac awydd yr annysgedig ewyllysiwr i iawn wasanaethu'r gwir Dduw." Gelwir yr awdwr Robert Helland, gweinidog gair Duw, a Pherson Llan Ddeforawr, yn sir Gaerfyrddin. Dywedir yno i'r gwr hwn hefyd gyfieithu Agoriad byr ar weddi yr Arglwydd," o waith Mr. Perkins. Mi a debygwn mai gwr duwiol oedd Mr. Holland, pan yr oedd Cymru yn dywyll iawn. Yn 1603 argraffwyd y Salmau cân, o waith Mr. W. Midleton a Thomas Salesbury. Yn 1606 daeth allan y Llyfr Homiliau. Yn 1609 daeth allan Esboniad ar y Gredo, y Pader, y Deg Gorchymyn, &c., o gyfieithad Dr. Roger Smyth o dref Llan- elwy, ac yn 1615 daeth allan lyfr a elwid " Gorsedd y Byd," o gyfieithiad yr un gwr. Yn ôl y Gofrestr, neu'r diwygiad o honi, yn 1620 daeth allan yr Ymarfer o Dduwioldeb, ac yn 1631, lyfr a elwid Carwr y Cymry." Daeth hefyd allan Lyfr y Resolution" o gyfieithad Dr. John Davies, a'i Ramadeg a'i Airlyfr ef hefyd, yn Gymraeg a Lladin. Felly yn y 50 mlynedd hyn yr oedd y Beibl wedi ei argraffu o'r newydd i'r eglwysi yn 1620, a'r Beibl wedi dyfod allan i bobl y wlad yn 1630, ac o gylch deg neu ddeuddeg o lyfrau o bob math i'r Cymry a enwyd o'r blaen. Argraffwyd Llyfr y Ficar yn 1646, y Testament Newydd yn 1647, a'r Salmau cân yn 1648. Mae'n debyg mai hyn oedd y llyfrau Cymraeg a gafodd ein cydwladwyr gan mwyaf, yr hanner cyntaf i'r oes ddiweddaf. Mae Mr. E Lloyd yn dywedyd mai Mr. T. Williams oedd awdwr y Geirlyfr a osodwyd allan gan Dr. J. Davies. Edrych Arch. Brit. P. 225. Mae Drych y Prif Oesoedd," tu dal. 217, yn ei alw, Dr. Thomas Williams, ac yn nodi mai meddyg tra dysgedig ydoedd. Felly, tybygol, ei fod ef a Dr. John David Rees yn feddygon enwog, yn byw yr un amser. ac i'r naill ysgrifennu Gairlyfr Cymraeg a Lladin, a'r llall ei Ramadeg
- ↑ "An Act for the better Propagation of the Gospel in Wales."
- ↑ 21.0 21.1 Brief Narrative.
- ↑ "Hue and Cry."
- ↑ "Examen & Purgamen Vavasoris."
- ↑ "Baxter's Life abridg'd", pp. 67. (8.
- ↑ "Sufferings of the Clergy, part. i. p. 152."
- ↑ Continu. 2 vol. "Church and Dissenters compared," pp. 46, 47. in a Note.
- ↑ Continuation, vol. 1. P. 17.
- ↑ Vol. ii. P. 639.
- ↑ Cambridge.
- ↑ "Brief Narrative."
- ↑ Continuation, vol. ii. p. 849.
- ↑ By the Commission of the Propagation of the Gospel in Wales. Whereas five of the Ministers, in the Act of Parliament named, bearing date the 25th of February, 1649, and entitled. An act for the better Propagation of the Gospel in Wales" have, according to the tenors of the said act, ap- proved of Mr. Thomas Evans the younger, to be a person qualified for the work of the Ministry; and recommended him with their advice to us, that he be encouraged in the work of the Ministry: we do, according to an order to us directed by the Committee of five at Neath, therefore order, that Mr. John Pryce, Treasurer, shall forthwith pay unto the said Mr. Thomas Evans, the sum of £30 which we have thought fit to allow him toward his salary and encouragement in the work of the Ministry. And this our order, together with his aquittance, shall be a sufficient discharge for the said Treasurer. Dated under our hands the 16th of May, in the year of our Lord. 1653. John Williams, &c
- ↑ "Sufferings of the Clergy," part 1, P. 149.
- ↑ Page 148.
- ↑ Page 165.
- ↑ Brief Narrative.
- ↑ "Historical Account," P. 40. &c.
- ↑ Yng Nghofrestr Mr. Moses Williams nodir fod llyfr bychan Cymraeg o waith Mr. V. Powel wedi ei argraffu yn 1653. a'i argraffu drachefn yn 1677. Enw'r llyfr oedd Canwyll Crist."