Neidio i'r cynnwys

Gwaith Joshua Thomas/CYFNOD YR ERLEDIGAETH

Oddi ar Wicidestun
CYFNOD Y DIWYGIAD PURITANAIDD Gwaith Joshua Thomas

gan Joshua Thomas


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
CYFNOD GODDEFIAD

VI. CYFNOD YR ERLEDIGAETH,
1660-1700.

Yr Erledigaeth.

P. Beth oedd hynny?

T. Yr oedd erledigaeth wedi bod, yn fwy neu lai, ar yr Ymneillduwyr, y Bedyddwyr ac eraill, o'r dechreu, neu'n fuan ar ol y Diwygiad. Yn 1641 torrodd rhyfel rhwng y brenin Charles a'r Parliament. Gorchfygwyd y brenin, yn 1648. Bu farw Cromwel yn 1658. Ymhen ychydig wedyn daeth mab y brenin yn ol. Yr oedd ef wedi gorfod ffoi dros y mor wedi marw ei dad. Y 29 o Fai 1660 dychwelodd mab y brenin, sef Charles yr Ail, i dir Lloegr. Gelwir y dydd hwnnw yr Adferiad,[1] am adferu'r brenin i'w deyrnas. Yr oeddid wedi rhoi heibio drefn addoliad Eglwys Loegr ar ol 1648 gan mwyaf; ac nid oeddid dim yn arfer Llyfr y Weddi Gyffredin yn yr addoliad ond gan rai. Eithr yr oedd y pregethwyr yn yr eglwysi, a'r bobl hefyd, yn addoli yn lled debyg i'r modd y maent yn awr yn y tai cyrddau. Pan ddychwelodd y brenin, adnewyddwyd yr erledigaeth, canys trowyd y gweinidogion o'r llannoedd, a dychwelwyd i'w lle y ficeriaid a droasid allan yn 1649, &c., sef y rhai oedd yn fyw o honynt. A daeth erlid mawr ar bawb na chydffurfient ag Eglwys Loegr mewn addoliad.

Tystiolaeth Vavasour Powel.

P. A ellwch roi hanes byr pa fodd y bu yn yr amser hyn? T. Yr oedd Mr. V. Powel yn fyw, yn dioddef, ac yn adnabod Cymru yn dda yr amser hynny; ac efe a ysgrifennodd yr hanes canlynol yn 1661, gan hynny nid wyf fi yn ameu ei gwirionedd. Mae fe'n nodi wneyd cam ag amryw ugeiniau yng Nghymru ym mis Mai a Mehefin, 1660. Yr oedd hyn yn union ar ol dyfod y brenin i dîr. A'r cam oedd, eu rhoi i garchar a'u cadw yno yn ddiachos, ond yn unig dangos y gallai yr erlidwyr wneyd yr hyn a fynnent.

Wedi hyn, ebe Mr. Powel, bu gorthrymder tra blin, yn enwedig yn rhai siroedd, lle y llysgwyd rhai dynion gwirionaid a heddychol allan o'u gwelyau, heh berchi na rhyw nag oed, ond eu gyrru, rai o honynt, ar eu traed ugain o filltiroedd i'r carchar; ac yn gorfod arnynt, yngwres yr hâf, gyd redeg A meirch y milwyr,[2] nes pothellu eu tracd, a hwythau yn barod i gwympo; eto eu ffonnodio a'u curo yn y blaen yr oeddid. Eraill yn sir Feirionydd, megis pe buasent anifeiliaid, a yrrwyd i ffaldau neu bitffalau'r plwyfau, lle cedwid hwy amryw oriau, a'u gelynion yn y cyfamser yn yfed cwrw yn y tafarn; ac yn peri i'r bobl ddiniwaid dalu drostynt hwy, heb gael dim i'w yfed eu hunain. Wedi hynny eu dwyn i lan y môr, a'u gadael hwy yno yn y nos, mewn enbeidrwydd i gael eu llyncu fyny gan y môr, ac yn dywedyd yn gableddus, mai ci ag oedd gyda hwy oedd yr ysbryd a'u harweiniodd hwy y ffordd honno. Eraill a roddwyd i garchar, fel y gwelai'r erlidwyr yn dda, ac a gadwyd yno amryw fisoedd ; ac er hynny cymerwyd a gwerthwyd eu da a'u defaid, uwchlaw chwech cant o rif. Eraill. pan y gelwyd hwy ir Eisteddleoedd Cwarterol,[3] yn gorfod cerdded mewn cadwyni (heirn ond odid) yn erbyn y gyfraith. Eraill wedi cyfarfod yn Ilonydd, fel y gwnaethent dros amryw flynyddoedd i addoli Duw, ac adeiladu eu gilydd, a fwriwyd i garchar. heb gymmaint a'u holi, na dangos achos pa ham, yn groes i gyfreithiau y wlad hon a gwledydd eraill. Yr oedd llid had y sarph gymaint yn erbyn had y wraig, er i'r brenin weled yn dda ganiatau rhydd-did Crisnogol dros ryw amser, trwy ei gyhoeddiad ei hun;[4] eto y sabboth cyntaf wedi derbyn cyhoeddiad y brenin, darfu i swyddogion un dref lusgo a thynnu i'r dafarn ar eu hol wragedd tlodion, y rhai oeddent yn gwrando gair Duw, a chadwasant hwy yno hyd wedi nos, a hyd nes gorfu arnynt dalu am eu cwrw hwy.[5]

Tachwedd 5ed, 1688.

Yna cawsant fyned ymaith, mae'n debyg.

Dyma ran o'r hanes galarus y mae fe'n ei roddi o dan ei law ei hun. Eto, nid oedd hyn oll ond dechreuad gofidiau ar y Bedyddwyr yn neillduol, a llawer eraill hefyd, trwy Gymru. Os gwnaed hyn oll, a llawer ychwaneg, mewn un flwyddyn, ac ychydig yn rhagor, pa faint a fu eu dioddefiadau dros chwe mlynedd ar hugain yn ol hynny? sef hyd oni ddaeth y rhyddid dymunol trwy ddyfod y brenin William i mewn, yr hwn a ddaeth i dir Lloegr y pumed o Dachwedd, 1688, dydd o ymddangosiad daioni Duw, yr hwn a ddylai gael ei gofio, gyda diolchgarwch o'r galon, gan bob dyn duwiol trwy'r deyrnas. Rhoddais yma yr hanes byr hwn o ddioddefiadau y dyddiau hynny, am ei bod yn hanes gwirioneddol, wedi ei argraffu yn y dyddiau hynny, gan wr geirwir, yr hwn oedd yn adnabod cyflwr Cymru, mae'n bosibl gymaint, os nid yn well, na neb y pryd hwnnw; er ei fod ef ei hun yn gyfrannog o'r dioddefiadau. Felly yr wyf yn edrych ar ei dystiolaeth ef fel hyn, yn well na llawer o'r hyn ydym yn glywed trwy draddodiad ys pump neu chwe' ugain mlynedd.

Cân y Bedyddiwr.

Digwyddodd i mi yn ddiweddar gael cân, yr hon a wnaeth un o'r Bedyddwyr (fel y dywedwyd wrthyf fi) cyn dyfod y brenin William i'r deyrnas.

Gan fod hon yn rhoi hanes cynnwys cyffredin trwy amser yr erledigaeth honno, yr wyf yn ei weled yn drueni ei cholli, ac yr wyf yn barnu y fan hon mor berthynol iddi ag unlle. Y mae fel y canlyn:

Brotestaniaid mwyn diniwaid,
Gwyr cywirgred iach eu ffydd;
Dewch yn ddifri' a'ch holl egni
I glodfori Duw bob dydd.
Haleliwia y Goruwcha
Lywodraetha dda'r a nef;
Byth mae'n rasol wrth ei bobl,
Mawl tragwyddol iddo ef.

Duw'r diddanwch, rhoddwr heddwch,
Pob dedwyddwch dawn a gras,
Doeth anfeidrol, anfesurol,
Pwy all chwilio'i waith i maes?
Mewn cyfyngder rhydd ehangder,
Cymru a Lloegr wyddant hyn.
Pwy ys dyddiau a debyg'sai
Y gwared'sai fe ni'n llyn?

Cydystyriwch a chanfyddwch
Y llonyddwch weithian sydd
Yn y gwledydd, a'r llawenydd,
Boed ar gynydd fwy-fwy fydd;
Pob rhyw ddoniau a rhinweddau
Fo'n blaguro yn ein plith;
Brydain lydan, o hyn allan
Dyfo i'r lan dan nefol wlith.

Y Duw tirion eto a ddichon
O'r tywyllwch sy'n y tir.
Ddwyn goleuni llawn i'n llonni,
Wedi'n profi noswaith hir.
Y cymylau oedd ys dyddiau
Uwch ein pennau'n peri braw,
Ffwrdd a yrrir o'n teg wybr
Gan ei hollalluog law,

Brenin Iago. Duw a'i cadwo,
Fydd offeryn dan Dduw nef,
Yn rhoi rhydd-did hoffaidd hyfryd
Trwy gyhoeddiad gadarn gref

I'w ei ddeiliad sydd wirioniaid
Heb feddyliau drwg o'u bodd,
I neb dynion fach neu fawrion,
Ond eu llwyddiant ymhob modd.

Eto, creulon ddig swyddogion,
Ddalient ddynion mawr cu bri,
I'w carcharu'n ddi-dosturi,
Mynych gwnnu dwbl ffi,
Fe gai fyrddwr, lleidr, bradwr,
Fwy o ffafwr yn eu gwydd
Na rhyw Gristion diddrwg, ffyddlon;
Mor anghyfiawn oedd eu swydd!

Rhai ni feiddient fynd i'r farchnad,
Er mawr alwad iddynt fyn'd,
Na ba'i ceispwl[6] wrth eu sowdl
I roi trwbl yn ddiffrynd.
Rhaid gwobrwyo'r gwyr a'u boddio
Cyn cael myn'd o'u dwylo'n rhydd;
Gwancus, chwannog, llym i'r geiniog;
Gwilio'r sglyfaith nos a dydd.

Rhoi ein henwau i mewn ar lyfrau,
Yn eu cwrtiau'n llawer man;
Llys cabidwl[7] waeth na'r cwbl,
Yn cyhoeddi'n llwyr i'r llan
Esgymundod fawr ddisberod,
Lawer pryd heb wybod
P'am, Eisieu'u porthi a'u digoni
Byth ag arian; dyna gam.

Wedi yno esgymuno,
Delai rhuo writ i maes,
I law'r sirif arfog heinif,
Hwnnw'n herlid nid yn llaes,
Y gwirioniaid yn dra diraid
Os eu dala, mynd i'r jail
Creulon ddiodde' hir amserau;
Dim na thalai gynnig bail

Afresymmol oedd y bobl
Gyffredinol, fel o'u pwyll,
Yn cyhuddo pawb, heb geisio,
Hawdd gweld yno lid a thwyll,

Malais dirgel lechai'n ddiogel
Dan fradychus gesail rhai;
Hwy ddymunen' o genfigen
Bigo'n coden heb ddim llai.

Hwbwb! hobob! llys yr Esgob
A fu dop-dop â ni'n hir;
Mae'n hwy'r wan yn lled egwan,
Cerddent allan oll o'r tir.
Ymaith fradwyr a goganwyr,
Ffyrnig dreiswyr chwerwon chwyrn;
Does mo'ch ofn arnaf weithian,
Torrwyd llawer ar eich cyrn.

Dyna'n union fel y buon
Ddyddiau lawer dan eu gwg.
Braidd'r edryched arnom hefyd,
Ond fel rhyw weithredwyr drwg;
Er na allen' mewn iaith gymmen,
Er cenfigen, malais, llid,
Ro'i drwg destyn yn ein herbyn,
Mewn un modd o flaen y byd.

Fe gai feddwon, ofer ddynion.
Dorri'r Sabboth yn ddiwardd,
Tyngu, rhegu, campio meddwi;
A oedd hynny'n weithred hardd
Os b'ai rhyw ddyn, gwir gredadyn
Yn ymofyn â gair Duw.
Oni ddeuai i'r llan y Suliau
Cospid hwnnw hyd y byw.

Pob Dissenter, mewn addfwynder,
A chyfiawnder, ofnwch Dduw;
Cydwybodol a sancteiddiol
Gwir grefyddol byddwch fyw;
Yn eich proffes, byddwch gynnes,
Nid yn ddiwres ar y daith,
'Mrowch i weithio'r dydd heb flino,
Cewch eich gwobrwyo'n ol eich gwaith.

Gwiliwch beunydd, herddwch grefydd,
Cedwch at orseddfainc gras;
Taer ymbiliwch ar Dduw'r heddwch
I'ch bendithio o hyn i maes,

A rhoi rhydd-did helaeth hyfryd
I'r efengyl trwy'r holl fyd;
Deu'd Iddewon yn Grisnogion,
A'r paganiaid bawb i gyd.

Ceisiwn undeb a ffyddlondeb
Ymhlith pobl Dduw o hyd
Cyffrowch beunydd bawb'ch gilydd
Mewn gwir grefydd o un fryd;
Lle bo sobrwydd ac onestrwydd,
Gostyngeiddrwydd cariad rhad,
A chywirdeb heb ddau wyneb,
Mae Duwioldeb yn ddifrad.

Pob cenhedlaeth a chymdogaeth
Sydd yn ofni Duw yn wir,
Ac sy'n gwneuthur yn ddirwystr
Bob cyfiawnder yn y tir;
Dyna'r bobl sy dderbyniol
Yn dragwyddol gyda'r Ion,
Ffydd heb weithred wna ond niwed
Ni thal byth am dani son.

Synnwch farnu nebo ddeutu,
Am nad ynt o'ch meddwl chwi;
Barnu'n chud sydd beth enbyd,
A ffol hefyd, coaliwch fi.
Y Duw cyfion farna'r galon,
Ac a adwaen eiddo ei hun;
Fe a'u geilw wrth eu henw,
Ac a'u cadw bob yr un.

Weinidogion, ddysgedigion
Eglwys Loegr, byddwch fwyn;
Na wasgerwch y praidd gwirion
Byddwch dirion wrth yr wyn.
O dilynwch dduwiol heddwch,
Na ddigaswch wrthym ni;
Mae'ch cyflyrau'n ddigon difai,
Mae'ch degymmau gennych chwi.

Chwithau'n ddiflin y cyffredin,
Sy'n ein herbyn, ac o'u plaid,
Byddwch araf, mi ddymunaf,
Peidiwch ddigio, beth fydd raid

Gwell fod pobl gydwybodol,
O bob enw trwy y wlad.
A ddymunant i chwi lwyddiant,
Yn cael rhydd-did cyflawn rhâd.

Duw r'o ffyniant a gogoniant
Byth i'n brenin Iago'r Ail,
Caiff Neillduwyr trwyddo heddwch
A diogelwch rhag y Jail.
Tra llwyddiannus a diddanus
Fo'i deyrnasiad ef o hyd:
Pob daioni fo'n coroni
Brydain fawr hyd ddiwedd byd."


Clod Iago'r Ail.

Enw awdwr y gân hon oedd Richard Pugh; wrth ei gelfyddyd yr oedd yn saer ac yn felinydd, yn aelod yn y cymundeb cymysg yn Nhredwstan. Yr oedd yn byw y rhan olaf o'i amser ger llaw Castell Madog. Bydd rhai, o bosibl, yn rhyfeddu ei fod yn sôn fel y mae am Iago'r Ail. Yr achos oedd hyn. Yn 1687 darfu i'r brenin hwnnw gyhoeddi rhydd-did cydwybod mewn crefydd i'w holl ddeiliaid trwy'r deyrnas. Ei amcan ef trwy hynny oedd rhoi rhydd-did i'r Papistiaid; ond nid oedd dim o bawb trwy'r wlad yn gwybod hynny. Os ystyriwn i mor flin eu cyflwr yr oedd llawer iawn o'r blaen, nid yw ryfedd fod rhydd-did yn felus, a'u bod yn ddiolchgar am dano. Darfu i amryw, sef Ymneillduwyr ac eraill, trwy'r deyrnas, anfon eu diolch yn ysgrifenedig i'r brenin am eu rhydddid a'u llonyddwch.[8] Yr amser hynny y gwnaed y gân hon. A'r flwyddyn ar ôl hynny y daeth y brenin William i dir Lloegr, yr hwn a barodd roddi rhydd-did i'r Ymneillduwyr trwy gyfraith y tir. Nid oedd dim o'r rhyddhad y flwyddyn o'r blaen trwy'r gyfraith, ond yn unig trwy ewyllys y brenin. Wedi hyn cafwyd tangnefedd trwy'r deyrnas.

Yn ol i ddyddiau'r erledigaeth.

P. Pa fodd y bu yn amser Charles yr Ail, wedi'r dechreu a soniwyd?

T. Parhau yn erlid ac yn carcharu yr oeddid. Ond am fod llawer eto yn y llannoedd o weinidogion nad oeddent, mewn cydwybod, yn gallu cytuno â defodau Eglwys Loegr mewn addoliad, gwnaed cyfraith i rwymo pob gweinidog i gydffurfio â'r Eglwys honno, yn ei holl addoliad, neu i droi allan o'r weinidogaeth yno. Yr oedd y gyfraith i ddechreu bod mewn grym y 24ain o Awst, 1662.

Troir Ddwy Fil allan.

P. Beth fu y canlyniad o hyn?

T. Trowyd allan o'r llannodd o gylch dwy fil, trwy Loegr a Chymru, am na chydffurfient; ac yr oedd llawer o honynt yn wyr enwog iawn o ran dysg a duwioldeb. Parodd hyn ofid nid bychan i'r gweinidogion a'u pobl, a mawr oedd y galar.

Beth a ddaeth o'r gweinidogion hynny?

T. Pregethodd y rhan fwyaf o honynt ar hyd tai lle gallent, ond byddid yn eu herlid ac yn eu carcharu, yn codi eu meddiannau ac yn eu mawr flino.

P A 'sgrifenwyd dim hanes o'r gweinidogion hyn?

T. Darfu i Dr. Calamy gasglu llawer iawn o'u hanes, mewn pedwar llyfr lled fawr, ac yn 1775 argraffwyd y cyfan yn ddau lyfr, ac yn fwy trefnus, gan Mr. Samuel Palmer, ger llaw Llundain.

Bywyd Vavasour Powel.

P. Ond beth a ddaeth o Mr. Vavasour Powel?

T. Fel yr wyf yn barnu iddo ef ymdrechu tu hwnt i bawb dros eneidiau Cymry, felly yr wyf yn meddwl iddo gael ei garcharu gan y Cymry yn fwy na neb arall. Mae'n dywedyd ei hun ei fod mewn 13 o garcharau. Efe a garcharwyd ar fyrr wedi'r brenin ddychwelyd yn 1660, a bu'n yn garcharor hyd oni ryddhawyd ef trwy angeu y 27ain o Hydref, 1670, yr hyn oedd yr unfed-flwyddyn-ar-ddeg o'i garchariad diweddaf. Buasai yn y carchar ar brydiau o gylch deng mlynedd-ar-hugain. Y pryd cyntaf y carchar wyd ef oedd yn sir Frecheiniog, lle y daliwyd et a 50 neu 60 o'i wrandawyr, o gylch deg o'r gloch o'r nos, ynghylch 1640. Felly yng Nghymru y carcharwyd ef gyntaf, ac yn sir Forganwg y carcharwyd ef ddiweddaf, er iddo, trwy'r gyf raith, gael ei symud yn garcharor oddi yno i Lundain, lle y gorffennodd ei holl filwriaeth.[9] Efe a garcharwyd hefyd yn sir Faesyfed ac yn sir Drefaldwyn, a lleoedd eraill trwy Gymru a Lloegr.

Llythyr olaf Vavasour Powel.

Yn ei glefyd diweddaf efe a 'sgrifennodd o Lundain at un o'i anwyl gyfeillion yng Nghymru, ac a ddywedodd wrtho ei fod yn bosibl mai hwnnw oedd y llythyr diweddaf a gelai oddiwrtho ef. Ac felly bu. Yn ei glefyd diweddaf mynych weddiai dros bobl Duw, ac yn neillduol dros y Cymry.[10] Bu'n glaf o gylch mis, ac yn fawr ei orfoledd, yn golygu gogoniant tragwyddol ger llaw. Mawr yr annogai y duwiolion at gariad ac undeb. Ar ol ei farwolaeth gwnaed llawer o ganiadau galarnad ar ei ol. Mae deuddeg o honynt yn niwedd llyfr ei fywyd, yno gelwir ef yn broffwyd ac apostol y Cymry. Yn yr ysgrifen ar garreg ei fedd dywedir ei fod yn ddysgawdwr llwyddiannus i'r oes a aeth heibio; yn dyst ffyddlon yn yr oes bresennol, ac yn batrwm dewisol i'r oesoedd i ddyfod. Gan fod hanes ei fywyd yn Gymraeg, nid oes achos helaethu yma. Mae'r pethau hyn oll yno, a llawer yn ychwaneg.

Cân Benjamin Francis.

Pan ddarllennodd Mr. B. Francis lyfr hanes bywyd Mr. Vavasour Powel, yn 1754, gwnaeth iddo y gân ganlynol:

Wrth ddarllen hynod hanes
Gwr hoff a harddai 'i gyffes
Mor fuddiol, mi ryfeddais;
Daeth gwres i'm mynwes oer.
Cyhoeddafi chwi'n uchel,
Ei enw pêr oedd Powel:
Boed côf o'r enwog angel
Tra paro'r haul a'r lloer.

Gweinidog gwerthfawr ydoedd,
Yn fore fe lefarodd;
A pheraidd iawn y parodd,
Disgleiriodd hyd y bedd.

Mawr ddoniau a dderbyniodd;
Cyfiawnder Crist a'i llanwodd,
Anwylaf ddelw'r nefoedd
Lewyrchodd ar ei wedd.

Fe ddarfu'r ganwyll gynnar
Ni chynwyd eto'i chymar;
O gwelir achos galar
Trwy rannau'r ddaear hon.
Ond cyn ei llwyr ddiffoddi,
Daeth gwrychion byw oddiwrthi;
Parhau hyd hyn mae'r rheini
Yn llawn o oleuni llon.

Yn hyfryd ddeutu Hafren,
Mewn amryw fannau ym Mrudain, T
rwy bell ardaloedd llydain
Fe seiniai'r 'Fengyl gu.
Ca's amryw o blaenhigion,
Teg, hoff, blodeuog, ffrwythlon,
Eu plannu ym mryn Seion,
Trwy ei ymdrechion hy'.

Dioddefodd hir flynyddau,
Mewn amryw oer garcharau
Dros ei Dduw, a'i wirioneddau,
Yn ddiau merthyr oedd.
Ond gwelwn Joseph gwiwlan,
Yn awr mewn gwisgoedd sidan,
Yn arglwydd talaeth lydan,
A'i enw glân ar g'oedd.

Gwyn fyd ei enaid hwylus,
Fe aeth o'r byd helbulus
At Dduw i foli'n felus,
I'r llys tu fewn i'r llen;
A chreithiau'r holl archollion
A ga's o law 'i elynion,
Yn awr fel perlau gloewon.
Trwy'r goron fu ar ei ben.

Mae'r seren fu trwy'r siroedd
Yn llon oleuo lluoedd,
Yn awr fel haul y nefoedd;
Gadawodd gylchau'n byd.

Ond er i'r hynod huno,
Mae'i waith e' eto'n ddeffro,
Canlynwn e'n glau yno,
Gan rodio'n hardd o hyd.

Mae'n awr yn seraff sanctaidd
Ymhlith y llu nefolaidd,
Gan foli, mewn gorfoledd,
O flaen yr orsedd wen.
Yn gwisgo'r eurin goron,
Ynghyd a'i gyd-ferthyron,
A'i holl gu hoff gyfeillion,
Yn llon o fewn i'r llen.

Mae'i gorff e' nawr yn gorwedd
Ys pedair ugain mlynedd,
A thair,[11] mewn priddlyd annedd
Fel enaint peraidd maith;
Ond gyd â'r wawr cyfodir
E' i eistedd, mewn rhyw ystyr,
I farnu ei euog farnwyr,
Yn gywir 'nôl eu gwaith.

Elias, gwelai'th gerbyd
Yn dod i'th godi i'r gwynfyd;
Deu'd arna'i ddau parth d'sbryd
Troi yn yr adfyd du.
Rhaid i mi ymadael,
Nes bloeddio'r nerthol angel;
Hapusrwydd i ti, Powel;
O fewn i'r demyl fry.


Yr Independiaid a'r Presbyteriaid.

P. Pa fodd y bu ar Gymru wedi marw y gwr rhagorol hwn?

T. Yr oedd ef wedi marw, mewn rhyw ystyr i Gymru, dros ddeng mlynedd cyn ymadael â'r byd; canys yr oedd ef yn y carchar, fel y nodwyd. Yr oedd amryw gydag ef, o Fedyddwyr ac Independiaid, wedi bod yn dra defnyddiol i wlad eu genedigaeth, ond efe oedd yn blaenori tra cafodd ei rydd-did. Er ei fod wedi ei wneyd mor ddefnyddiol i laweroedd, eto yr oedd iddo wrthwynebwyr gelynol lawer. Wedi ei farw ef, ac i Mr. John Miles fyned i America, daeth tro yr Independiaid a'r Presbyteriaid i flaenori, er gwneyd daioni mawr i Gymru yn achos eu heneidiau anfarwol.

Y Presbyteriaid.

P. Mae'n debyg mai'r Bedyddwyr a'r Independiaid a ddechreuodd, yng Nghymru, neillduo oddiwrth Eglwys Loegr.

T. Ie, yn ddiameu, yn ol dim a ddeallais i. Ond yn raddol daeth yr Ymneillduwyr nad oedd dros fedydd y crediniol i gael eu galw yn Bresbyteriaid fwyaf oll, ac yn gyffredin; er fod rhai Independiaid yn y wlad fynychaf.

Y rhai mwyaf hynod.

P. Beth oedd enwau y rhai fu fwyaf hynod o'r gwyr da hyn yr amser hwnnw?

T. Nodwyd yn barod am Mr. Wroth a Mr. Cradock, gwyr enwog ac egniol y fuant hwy dros eu gwlad, ond mae'n debyg eu bod wedi marw cyn yr erledigaeth a ddechreuodd yn 1660. Y rhai mwyaf enwog trwy'r erledigaeth oedd Mr. S. Hughes, yr hwn a drowyd allan o eglwys Meidryn, yn sir Gaerfyrddin; Mr. Samuel Jones o Frynllywarch, yn sir Forganwg; Mr Rees Prydderch, ger llaw Llanddyfri, awdwr y llyfr a elwir "Gemau Doethineb"; a Mr. Marmaduke Matthews o Abertawe oedd wr enwog. Gwr o waedoliaeth y Cymry oedd Mr. Philip Henry. E daid, neu ei dad y cu, oedd Mr. Henry Williams yn byw mewn lle a elwir Briton Ferry, rhwng Abertawe a Chastellnedd, felly galwyd y mab John Henry, yn ôl arfer y Cymry. Ei fab yntef oedd Mr. Philip Henry, yr hwn a anwyd yn Llundain, ond trefnodd rhagluniaeth iddo ef fod yn y weinidogaeth mewn cwr o sir Fflint.[12] Bu ef a'i fab, Mr. Matthew Henry, yn ddefnyddiol iawn, ac yn wyr enwog yn sir y Mwythig, sir Gaerlleon, sir Fflint, sir Dinbych, &c. Ond yr wyf yn meddwl nad oedd un o'r ddau hyn yn deall Cymraeg. Mr. Hugh Owen a fu wr rhagorol yn sir Feirionydd a sir Drefaldwyn, &c. Gwr o waedoliaeth y Cymry hefyd oedd Dr. John Owen, yr hwn a fu mor rhagorol yn ei amser. Dywedir ei fod ef o deulu Llywelyn. ap Gwrgan, tywysog Morganwg. ond yng Ngwynedd yr oedd teulu'r Doctor yn byw. Ei dad, Mr. Henry Owen, ydoedd weinidog o Eglwys Loegr, ac a symudodd i fyw i sir Rhydychen.[13] Felly nid oedd Dr. Owen ddim yn deall Cymraeg, mae'n debyg. Ond y mae ysgrifeniadau neu lyfrau Dr. Owen a Mr. Matthew Henry wedi bod yn ddefnyddiol iawn trwy'r deyrnas a gwledydd ereill. Yr oedd amryw heblaw y rhai hyn o wyr duwiol yng Nghymru yn pregethu, ac yn dioddef yn yr erledigaeth, ond fy amcan i yn bennaf yw son ychydig am Mr. Stephen Hughes, yr hwn a enwyd gyntaf.

Beiblau.

P. Pa fodd yr oedd y Cymry am Feiblau yr amser blin hyn?

T. Llwm iawn oedd arnynt, fel y gwelwn yn llythyr Mr. S. Hughes yn nechreu llyfr y Ficar, yr hwn a argraffodd ef yn 1672. Trwy'r llythyr y mae fe'n cyflwyno'r llyfr i'r parchedig Ddr. William Thomas, Deon Caerwrangon, Mr. Hugh Edwards o Langadog, yn sir Gaerfyrddin, Mr. David Thomas o Fargam, Mr. Samuel Jones, o Langynwyd (sef Mr Samuel Jones o Frynllywa ch a enwyd uchod), a Mr. W. Lloyd[14] o St Petrox, sir Benfro, oll yn weinidogion. Yno y maen nodi fod y gwyr da hyn wedi bod yn gymwyna sgar iawn i'r Cymry yn achos eu heneidiau, a bod y wlad yu rhwymedig iddynt hwy, a boneddigion a gweinidogion ereill, am y cymhorth a roddasant iddo ef i argraffu y Testament Newydd y flwyddyn honno, a llyfrau Cymraeg ereill. Mae fe yno yn dangos ymhellach fod awydd yn llaweroedd o'r Cymry i brynnu Beiblau, ond nad oeddent i'w cael am arian. Mae fe'n dywedyd fod o gylch 50 o Feiblau Cymraeg yn Llundain y pryd hynny, (ac yn 1674, o gylch ugain[15] ) o herwydd paham y mae Mr. Hughes yn taer ddymuno ar y gwyr a enwyd i wneyd eu goreu i gael y Beibl wedi ei argraffu drachefn i'r Cymry. Mae fe yno yn prudd achwyn am y mawr wallau a fuasai wrth argraffu amryw lyfrau Cymraeg, o eisieu gofal a ffyddlondeb, ac heblaw hynny, beiau anafus ym Meiblau'r Llannoedd a'r Beiblau bychain, a'r Testament a argraffwyd yn 1647. Mae fe'n dangos amryw leoedd lle y gadawyd allan eiriau cyfain, ac amryw eiriau mewn rhai lleoedd. Amserwyd y llythyr hwn y 20 O Fawrth, 1671. Yn ei Ragymadrodd i'r llyfr hwnnw, mae Mr. Hughes yn nodi yr argreffid ar fyr, "Yr ymarfer o Dduwioldeb"; "Y Llwybr hyffordd i'r nefoedd"; "Agoriad byr ar weddi yr Arglwydd," &c.

Beibl 1678

P. A argraffwyd y Beibl yn ol ei ddymuniad ef?

T. Do, ac fe ddaeth allan yn 1678. Yr oedd Mr. S. Hughes yn un, os nid yn bennaf, yn gofalu am yr argraffwasg, a dywedir fod yr argraffiad hwnnw yn well nag un o'r blaen[16]

Thomas Gouge.

P. Pwy oedd yn cynorthwy i ddwyn y draul y tro hyn?

T. Yr oedd gwr da yn Llundain, yr hwn y fu garedig iawn i'r Cymry yr amser hynny, sef Mr. Thomas Gouge. Byddai yn dyfod yn fynych i Gymru ei hun. Yr oedd ei haelioni yn anghyffredin; cynorthwyai'r gweinidogion dan eu herledigaethau. Dywedir iddo osod tri neu bedwar cant o ysgolion fyny yn y wlad, a gofalu ei hun am dalu am ddysg cantoedd. Fe ofalodd yn bennaf, mae'n debyg, ond trwy gymorth erail hefyd, i ddwyn traul argraffiad y Beibl y tro hwnnw. Argraffwyd wyth mil o Feiblau, a rhoddwyd mil o hynny yn rhad i'r tlodion, a threfnwyd i'r lleill gael eu gwerthu am 4s. y llyfr. Mae hanes wedi ei gadw gan Dr. Calamy, o gyfrif haelioni Mr. Gouge i'r Cymry mewn un flwyddyn, neu yn hytrach naw mis, sef o 24 o Fehefin, 1674, i'r 25 o Fawrth, 1675, fel y canlyn:

1. Gosodwyd 812 o blant tlodion yn yr ysgol i ddysgu darllen Saesneg, mewn un ar ddeg a deugain o drefi pennaf Cymru, heb law ychwaneg na 500 a osodwyd mewn ysgol y flwyddyn ddiweddaf, trwy haelioni eraill.

2. Prynnwyd a chyfrannwyd 32 o Feiblau Cymraeg, yr hyn oedd y cwbl ag ellid gael yng Nghymru ac yn Llundain.

3. Rhoddwyd 240 o Destamentau Cymraeg i'r tlodion ag allent eu darllen.

4. Rhoddwyd 500 yn yr un modd o'r llyfr a elwir, "Holl Ddyledswydd Dyn."

Nodir yno i'r pethau hyn gynhyrfu eraill o'r Cymry, i osod y tlodion yn yr ysgol. Heblaw ei haelioni ei hun, yr oedd Mr. Gouge yn cymell llawer eraill i gynorthwyo'r Cymry.

P. Gwr rhagorol iawn oedd hwn i'r Cymry.

T. Ie, rhoddir ychwaneg o'i hanes a'i glod yn y llyfrau isod.[17]

P. Onid oedd pawb trwy Gymru yn parchu y gwr hwn, gan nad oedd yn terfynu ei haelioni i rai o'i farn ei hun, ond yn gwneyd daioni i bawb hyd y gallai?

T. Yr oedd Mr. Gouge am wneyd y daioni allai i eneidiau dynion, ac ni chlywais i lai nad oedd y Cymry, o bob barn, yn cael eu rhan o'i haelioni ef. Eto ynghylch ugain mlynedd wedi marw Mr. Gouge, mae gwr yn dangos ei anfoddlonrwydd i Dr. Tillotson am ganmol cymaint ar Mr. Gouge yn y bregeth a nodwyd, gan roi ar ddeall mai ffrwyth pennaf llafur y gwr da yng Nghymru oedd amlhau'r Presbyteriaid, y rhai nid oedd ond ychydig o honynt yn y wlad o'r blaen.[18] Mae hyn yn gymwys, fel yr oedd Dr. Calamy, am amser Mr. Vavasour Powel, mai troi'r dynion yn Ailfedyddwyr oedd yr amcan.[19] Nid da yw beio dynion defnyddiol fel hyn. Naturiol ddigon a rhesymol yw i ddynion y rhai a fyddo Duw yn eu mawr arddel, gael llawer o ganlynwyr; ac ond odid y maent hefyd yn cael llawer o elynion.

Stephen Hughes.

P. Mae'n debyg fod Mr. Hughes a Mr. Gouge yn ddefnyddiol iawn i ddwyn y Cymry i ddarllen, ac i gael llyfrau iddynt.

T. Dywedir i Mr. Hughes argraffu gerllaw ugain o lyfrau Cymraeg, a'r rhan fwyaf o honynt wedi eu cyfieithu o'r Saesneg.[20]. Yr oedd y ddau wr hyn yn dra haelionus eu hunain ac yn annog llawer ar ereill. Dywedir i Mr. Gouge farw yn 1681; ond i Mr. Hughes fyw i weled eisiau Beiblau drachefn, ac iddo barotoi tuag at gael argraffiad arall, ond iddo farw o gylch 1687, cyn gorffen y gwaith hwnnw.[21]

Nodiadau

[golygu]
  1. "Restoration."
  2. Troopers.
  3. Quarter Sessions.
  4. Proclamation.
  5. Brief Narrative.
  6. Catchpole.
  7. Consistory, sef cynghordy a chynghoriaid llys yr Esgob
  8. Crosby, vol. iii., P. 197. &c. B. Bennet's "Memorial of the Reformation," P. 327, &c.
  9. "His Life," pp. 188, 182, 126, 133, 189, 208.
  10. Yn y llythyr sydd o flaen y llyfr a elwir "Bird in the Cage," hawdd yw deall fod serch a chariad Mr. Vavasour Powel yn fawr iawn at y Cymry. Os caniata amser a lle, mae'n bosibl y cyfieithiaf y rhan fwyaf o'r llythyr hwnnw er mwyn ei argraffu tua diwedd y llyfr hwn.
  11. Yr oedd awdwr y gân yn barnu i Mr. Powel farw yn 1671. Mae'n debyg iddo, yn rhyw fodd, gamsyniad blwyddyn yma.
  12. "Mr. Phillip Henry's Life." P'. 3.
  13. "Dr. Owen's Life." printed in 1758.
  14. Bu gwr o'r enw hwn yn enwog iawn yn yr amser hynny. ac yn dra llafurus dros y Cymry mewn rhyw bethau, tua diwedd yr oes ddiweddaf. Dywedir ei eni ef ymhlith y Saeson. Mab ydoedd i weinidog o Eglwys Loegr. Odid nad Cymro oedd ei dad. Dewiswyd y mab yn bregethwr i'r brenin yn 1666. Efe a gymerodd y gradd o Athraw, neu Ddoctor Difinyddiaeth yn 1667; gwnaed ef yn Ddeon Bangor yn 1672: ac yn Esgob Llanelwy yn 1680. Yr oedd ef yn un o'r Esgobion a fu yn Nhwr Llundain yn garcharorion am aros i fyny dros rydd-did y wlad yn erbyn Pabyddiaeth yn 1687. Mae Mr. Thomas Jones yn dywedyd i ynghylch 3.000 o eiriau gael eu casglu trwy orchymyn yr esgob hwn, gan rai o weinidogion ei esgobaeth ef, mewn bwriad i'w gosod yn y Geirlyfr Cymraeg a Saesneg a ddaeth allan yn 1688. Ond daethant yn rhy ddiweddar i fod yn y llyfr hwnnw, fel y nodir yn y ddalen ddiweddaf o hono. Bu Dr. William Lloyd hefyd yn dra chynnorthwyol i ddwyn Beibl mawr y Llannoedd trwy'r argraff-wasg yn 1690, yn llyfr trefnus a hardd, o herwydd hynny gelwir ef weithiau Beibl yr Esgob Lloyd." Dywedir mai hwn yw'r argraffiad diweddaf o'r Beibl mawr Cymraeg, a bod Mynegai'r Beibl ynddo, ac amryw Ysgrythyrau ar ymyl y ddalen o gasgliad y gwr hwn. Yn Saisneg y casglodd ef Fynegai'r Beibl, cyfieithwyd hwy i'r Gymraeg, Yr oedd ef yn wr deallus yn hanesion y Brutaniaid, fel y dengys ei waith. Yn 1692 symudwyd ef i esgobaeth Litchfield a Coventry; ac oddiyno í Gaer-wrangon, lle bu ef farw yn 1717, yn 90 oed. Noorthouck's Historical and Classical Dictionary," on L, Dr. Llewelyn's "Historical Account,' pp. 35, 52.
  15. Historical Account, P. 42.
  16. Dr. Calamy on "The Ejected Ministers," P. 718.
  17. Ibid, P. 8, &c. "A Sermon on the death of Mr. T. Gouge, by Dr. Tillotson, afterward Archbishop of Canterbury. Dr. Llewelyn's Historical Account," P. 43, &c.
  18. History of Wales," by Wynne, P. 328.
  19. "On the Ejected Ministers," vol. 1, P. 68.
  20. "Ejected Ministers,"P. 718, &c
  21. "Historical Account," P, 47.