Neidio i'r cynnwys

Gwaith Joshua Thomas/CYFNOD Y DIWYGIAD PROTESTANAIDD

Oddi ar Wicidestun
CYFNOD Y SAESON Gwaith Joshua Thomas

gan Joshua Thomas


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
CYFNOD Y DIWYGIAD PURITANAIDD

IV. CYFNOD Y DIWYGIAD PROTESTANAIDD.

1520-1620.

Y Diwygiad.

P. Beth a feddylir wrth y Diwygiad?

T. Y Diwygiad a wnaed mewn crefydd oddi wrth lygredigaeth Pabyddiaeth, trwy weinidogaeth Luther a llawer eraill.

Dechreu cyfieithu'r Beibl.

P. Pa fodd yr oedd hi ar y Cymry yn yr amser hyn?

T. Yn fuan wedi dechreu'r son am lwyddiant Luther, darfu i ryw un, neu ychwaneg, ddechreu cyfieithu gair Duw i'r Gymraeg, a myned mor belled a diwedd Deuteronomi. Ond mae'n debyg na feiddiwyd myned â'r gwaith ymhellach, ac i hynny gael ei ddifetha.

P. Pwy amser oedd hynny?

T. Mae Dr. Richard Davies, esgob Tŷ Ddewi, mewn llythyr o flaen y Testament Cymraeg yn 1567, yn dywedyd ei fod ef yn cofio iddo weled pum' llythyr Moses yn Gymraeg, pan oedd ef yn llanc, yn nhŷ gwr bonheddig o garwr iddo ef. Wrth yr hyn a ddywed Dr. Llewelyn, tybygid fod y cyfieithiad hwn o gylch 1520, neu ymhen ychydig amser wedi hynny.

William Tyndal.

P. Pwy a allai amcanu cymwynas mor fawr i'r Cymry mor fore?

T. Mae Dr. Llewelyn[1] yn enwi Mr. William Tyndal, ac yn nodi ei eni ar gyffiniau Cymru, ond ni wyr ef ddim pa un ai efe neu arall a wnaeth y gwaith uchod. Hyn sydd sicr, mae Mr. Fox yn dyweyd am Tyndal ei fod o gyffiniau Cymru, ond iddo fyw ennyd o'i amser yn sir Gaerloew. Sicr yw mai Tyndal a drodd y Beibl i'r Saesneg, a gorfod arno fyned dros y môr o achos hynny, ac o'r diwedd cael ei losgi gan y Papistiaid am ei waith yn 1536. Mae'n bosibl y gallai efe fod a llaw yn y gwaith i ddechreu troi gair Duw i iaith ei gydwladwyr a'i genedl ei hun.

Y Protestaniaid.

P. A wyddoch beth oedd dechreu ac ystyr y gair Protestaniaid?

T. Wrth weled llwyddiant Luther, yr oedd y Pab a'i weision yn fawr am ei ddifetha ef: ond gan fod cynnifer wedi profi budd trwy ei athrawiaeth, darfu i o gylch deuddeg o dywysogion yr Ellmyn, neu Germani, gytuno â'u gilydd i sefyll o ran Luther, ac yn erbyn Pabyddiaeth; ac ysgrifennu'r cytundeb a'i alw protest, sef cyd-dystiolaeth yn erbyn Pabyddiaeth. O hynny allan galwyd y rhai a ymadawsant âg Eglwys Rufain, er mwyn cydwybod, yn "Brotestaniaid ac yn ddiwygwyr." Bu hyn o gylch 1530.

Eglwys Loegr.

P. Mae rhai yn meddwl mai aelodau o Eglwys Loegr yn unig a elwir Protestaniaid.

T. Nid yw'r cyfryw ddim yn ystyried mor ieuanc yw Eglwys Loegr.

P. Tybygid fod rhai yn meddwl fod yr eglwys honno yn agos er amser y diluw.

T. Mae llawer o ddynion yn ddigon anwybodus. Ond o gylch y flwyddyn 1534 y cyfarfu'r Parliament yn yr hwn y gwnaed ac y sefydlwyd Eglwys Loegr wrth gyfraith y tir. Felly darfu iddynt gytuno â'r Protestaniaid dros y môr, ac o hynny allan galwyd trigolion y deyrnas hon yn ddiwygwyr, yn Brotestaniaid, ac yn Eglwys Loegr. Felly gallwn ddywedyd fod Eglwys Loegr y flwyddyn hon, sef 1777, yn 243 oed.

P. Beth oedd wedi dyfod o'r Cymry erbyn hyn?

T. Ychydig cyn hyn yr oedd yr hir ryfel rhyngddynt a'r Saeson wedi darfod, ac yr oeddent oll dan yr un gyfraith, megis y maent yn awr. Felly yn ol y gyfraith uchod yr oeddent oll yn cael eu cyfrif yn Eglwys Loegr.

Cyfieithu rhan o'r Beibl i'r Gymraeg yn 1551.

P. Pa bryd y cafodd ein gwlad ni Air Duw yn ei hiaith eu hunain ?

T. Buont yn hir hebddo, er yr amcan da a grybwyllwyd. Yr oedd ein tadau erbyn hyn wedi hir ymgynefino a Phabyddiaeth a grefydd fel nad oedd ynddynt fawr duedd i'w gadael. A'r rhan fwyaf o honynt heb fedru darllen. Cyfieithwyd ac argraffwyd rhyw rannau o Air Duw i'w ddarllen yn Gymraeg yn amser gwasanaeth Eglwys Loegr yn 1551.[2] Ond daeth erlid blin trwy'r deyrnas gan y Papistiaid ar Eglwys Loegr ar fyrr wedi hyn, a charcharwyd a llosgwyd amryw o'i blaenoriaid a'r bobl cyffredin; sef yn amser Mary waedlyd.

Y Merthyron Farrar a White.

P. A ddioddefodd y Cymry yn yr amser hynny ?

T. Nid llawer, canys Papistiaid oeddent hwy gan mwyaf yn eu calonnau, ac nid oeddent hwy ddim am wrthwynebu yn eu bywyd.[3] Nid wyf fi yn cofio fod Mr. Fox yn sôn ond am ddau a ddioddefodd yng Nghymru yn yr amser hynny. Un oedd Dr. Robert Farrar, esgob Tŷ Ddewi, yr hwn a losgwyd yn nhref Caerfyrddin; a'r llall oedd Rawlins White, fel y mae ef yn ei alw, o sir Forganwg, gerllaw Caerdydd. Am dano ef— dywedir na fedrai ef ddarllen, ond iddo roi ei fab yn yr ysgol i ddysgu yn bwrpasol, fel y gallai ddarllen y Gair iddo ef, ac felly y bu. Cymerwyd yr hen wr i fyny, er nad oedd ond pysgotwr, fel y disgyblion gynt; efe a ddioddefodd yn wrol dros ei Arglwydd, ac a gafodd ei losgi yn achos crefydd. Mae Mr. Fox yn rhoi hanes da rhagorol am y gwr hwn.

Gorchymyn cyfieithu'r Beibl, 1563.

Pa bryd y cafodd y Cymry ychwaneg o'r Gair yn eu hiaith eu hunain?

T. Bu farw y frenhines Mary yn 1558, yna darfu'r erledigaeth gydâ hi; a daeth ei chwaer Elizabeth i'r goron. Yr oedd hi yn erbyn Pabyddiaeth gymaint ag yr oedd y llall dros hynny. Yn 1563 gwnaed Act o Barliament i gyfieithu'r holl Ysgrythyr i'r Gymraeg, a holl wasanaeth Eglwys Lloegr, ac i esgobion Llanelwy, Bangor, Tŷ Ddewi, Llandaf, a Henffordd olygu'r gwaith, a'r cyfan i fod yn barod yn y llannoedd ddechreu Mawrth, 1566, a bod un Beibl ymhob eglwys, plwyf, a chapel trwy Gymru i'w darllen yn amser gwasanaeth. A hyd nes deuai hyn i ben, mae'r Act yn trefnu i weinidogion Eglwys Loegr ddarllen yn y llannoedd ryw rannau o'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r bobl yn Gymraeg, yn ol cyfarwyddyd yr esgobion a nodwyd. Rhaid fod y wlad yn anwybodus iawn dan y fath amgylchiadau a hyn.

Oedi.

P. A ddaeth y Beibl Cymraeg allan yn ol yr Act?


T. Na ddo. Ac nid rhyfedd; nid yw'r Act yn nodi pwy oedd i wneyd y gwaith, na phwy oedd i ddwyn y draul. Erbyn hynny nid oedd argoel yr elai gwaith mcr fawr yn y blaen mewn mor lleied o amser, heb neb yn cael eu trefnu i'w wneyd, na neb yn addo dwyn y draul.

Y Testament Cymraeg, 1567.

P. Beth fu'r canlyniad?

T. Yn 1567 daeth allan y Testament Newydd yn Gymraeg, yn llyfr trefnus, pedwar plyg, yn cynnwys 399 o ddalennau, a llythrennau duon, wedi ei rannu yn llyfrau a phenodau fel yn awr, ond nid yn adnodau, oddieithr ychydig tua'r diwedd. Mae ynddo ystyr pob pennod, ac agoriad ar eiriau dyfnion yn ymyl y ddalen.

Y Cyfieithwyr.—William Salesbury, Richard Davies, Thomas Huet.

P. Pwy ai cyfieithiodd ef?

T. Gwnaed y rhan fwyaf o'r gwaith da hwnnw gan Mr. William Salesbury, gwr rhagorol yn ei ddydd, ac a fu ymdrechiadol iawn dros y Cymry. Efe oedd wedi cyfieithu yr hyn a argraffwyd yn 1551. Gwr dysgedig a duwiol ydoedd, [4] ond nid gweinidog. Cyfieithwyd yr ail epistol at Timotheus a'r un at yr Hebreaid, ac epistolau lago a Phedr, gan Dr. Richard Davies, esgob Tŷ Ddewi, yr hwn a enwyd yn barod. Cyfieithwyd y Dadguddiad gan T. H. C. M. Yr ydys yn meddwl mai Mr. Thomas Huet oedd y gwr da hwnnw. Argraffwyd hwn yn Llundain gan Henry Denham, ar draul Humphrey Toy. Mae calendar o'i flaen ef, a llythyr Saesneg o gyflwyniad gan Mr. William Salesbury at y frenhines Elizabeth. Yno mae'r gwr da yn dangos mor llawn o anwybodaeth oedd ei gyd-wladwyr, ac o eilunaddoliaeth; yn lle addoli'r Duw byw, yn addoli delwau o goed a maen, clychau ac esgyrn, &c., yr amser a aethai heibio, ac mor dda oedd y frenhines am adael iddynt gael Gair Duw i'w plith: ac y mae'n nodi mor ddymunol a fyddai cael y rhan arall o hono, sef yr Hen Destament, ac y gellid wedyn ddywedyd am y Cymry,—"Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddant ym mhro a chysgod angeu y cyfododd goleuni. Gwyn fyd y bobl y mae felly iddynt ; ïe, gwyn fyd y bobl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddynt." Llythyr serchog ystyriol ydyw. Mae yno lythyr arall yn Gymraeg gan yr esgob at ei gydwladwyr.

William Morgan a Beibl 1588.

P. Pa fodd y gwnaed am gael y rhan arall o'r Gair i'r Cymry?

T. Y Cymro enwog nesaf a fu mor ymdrechiadol i gael Gair Duw i blith ei genedl oedd William Morgan, ficer Llanrhaiadr-ym-Mochnant, yn sir Dinbych, yr hwn a wnaed yn esgob Llandaf yn 1595, a symudwyd i Lanelwy yn 1601, ac i le gwell yn 1604. Dyma'r gwr a fu a'r llaw bennaf i ddwyn allan yr holl Ysgrythyr yn Gymraeg, a'r Apocrypha hefyd. Diwygiodd ef y cyfieithiad a'r argraffiad o'r blaen o'r Testament Newydd, ac argraffwyd y cyfan yn un llyfr yn 1588. Llyfr dau blyg ydoedd, neu'ni hytrach un plyg, a llythyrennau duon, ac ystyr y bennod, wedi ei rannu yn adnodau trwyddo, ac ambell Ysgrythyr ar ymyl y ddalen. Mae o'i flaen lythyr Lladin oddiwrth y Dr. Morgan at y frenhines Elizabeth.

Gwaith da.

P. Pa fodd yr aeth y Dr. Morgan ynghyd âr gwaith da?

T. Mae Dr. Llewelyn yn nodi, oddiar lythyr Dr. Morgan at y frenhines, fod yn dra thebygol i'r gwr mwyn gymeryd y gwaith yn llaw o ewyllys da, ac o'i wir fodd ei hun; felly o gariad at Dduw ac eneidiau dynion. Rhyfedd mor dda oedd ei waith!

Y Cynorthwywyr —Yr Archesgob Whitgift, &c.

P. Pwy fu yn ei gynorthwyo yn y gwaith hwn?

T. Yn ei lythyr at y frenhines y mae'n cydnabod cymwynasgarwch Dr. Whitgift, archesgob Caergaint, esgobion Bangor a Llanelwy (Dr Hughes a Dr. Ballot, fel tybir), Dr. Gab. Goodman,[5] Dr. David Powell, Mr Edmund Prys, archddiacon Meirionydd, yr hwn a drodd y Salmau ar gân, y rhai sydd yn niwedd y Beibl Cymraeg hyd heddyw. Hefyd, bu Mr. Robert Vaughan a Dr. John Davies yn cynorthwyo. Tybygol fod y tri chyfieithwr a enwyd uchod wedi marw pan ysgrifenodd Dr. Morgan y llythyr, gan nad yw ef yn eu henwi hwy; ond odid na buont hwy yn gynorthwy cyn eu marw.

Beibl y llannau'n unig.

P. Trugaredd fawr oedd cael y Gair. Ond a argraffwyd digon i'r wlad?

T. Na ddo, na'r ugeinfed ran. Nid oeddent ond Beiblau mawrion i'r llannoedd a'r lleoedd addoliad cyhoeddus. Yr ydys yn barnu fod yn agos mil o'r cyfryw leoedd addoliad yng Nghymru, yn ôl trefn Eglwys Lloegr. iddynt argraffu mil o Feiblau yr amser hynny.

Gramadeg Cymraeg ac Egluryn Ffraethineb.

P. Beth oedd y wlad yn wneyd am Air Duw i'w ddarllen?

T. Yr oedd yr holl wlad yn anwybodus iawn, a chorff cyffredin y bobl heb fedru darllen. yr oedd rhai yn myfyrio pa fodd i ddwyn y bobl i ddarllen yn ddeallus eu iaith eu hunain. diben hynny argraffwyd Gramadeg Cymraeg gan Dr. Griffith Roberts, a Retoreg Gymraeg gan Mr. Harry Perry, yr hwn a eilw ef "Eglyrun Ffraethineb." Yn nechen y llyfr hwn y mae deuddeg, neu 'chwaneg, o wyr enwog yn gosod allan ei glod mewn ffordd o ganmoliaeth; rhai o honynt yn sgrifennu yn Lladin, rhai yn Saesneg, a rhai yn Gymraeg. Ond y mae'n debyg fod yr esgob cymwynasgar, sef Dr. Morgan, yn meddwl argraffu y Testament Newydd i'r bobl gyffredin, canys efe a'i diwygiodd yn y cyfeithiad drachefn, ac yr oedd yn barod i'w argraffu yn 1604, pan y bu'r gwr da farw.

P. A argraffwyd hwnnw i'r bobl?

T Ni ellais i gael dim gwybodaeth am hynny. [6] Dr Richard Parry

P. Beth a wnaed yn ôl hynny?

T. Bu dau wr hynod, deallus a dysgedig, yn ofalus iawn yn diwygio ac yn gwella'r cyfieithiad oll, set Dr. Richard Parry[7] a Dr. John Davies. Ar ol ei fanol ddiwygio gan y gwyr enwog hyn, argraffwyd y Beibl drachefn, fel o'r blaen, yn llyfr mawr trefnus, a llythrennau duon, fel y llall, a mwy o Ysgrythyrau yn ymyl y ddalen na'r un o'r blaen. Mae llythyr Lladin o flaen hwn "at y Drindod sanctaidd ac at y brenin James gan yr esgob Parry yn 1620."

P. Pwy oedd wedi gosod y gwyr hyn ar waith?

T. Tybygol eu bod wedi ei wneyd o'u gwir ewyllys da, canys y mae llythyr yr esgob yn nodi fod yr argraffiad cyntaf wedi treulio, fel yr oedd y rhan fwyaf o'r eglwysi naill ai heb un Beibl neu rai wedi mawr dreulio, heb neb, ar wyddai'r esgob, gymaint ag yn meddwl am ail- argraffiad.

Dr. John Davies.

P. Pwy oedd Dr. John Davies a enwasoch?

T. Cymro rhagorol a llafurus iawn ydoedd ef. Efe a argraffodd Ramadeg Lladin a Chymraeg yn 1621. Yn ei ragymadrodd mae'n dywedyd iddo, dros 30 o flynyddau, dreulio llawer o'i amser i fyfyrio ar iaith ei wlad ei hun, a'i fod yn cynorthwyo yn y ddau argraffiad Cymraeg o'r Beibl. Gwr cyfarwydd iawn ydoedd yn hanesion, arferion, a diarhebion ei wlad, a hyddysg iawn yn y Groeg a'r Hebraeg.

P. Mae'n debyg fod y wlad, fel o'r blaen, heb y Beibl, ond yn yr eglwysi.

T. Oeddent. Er mwyn yr eglwysi yr oedd yr argraffiad hwn fel y llall.

P. Beth a wnaed yn ôl hynny?

Gogoniant y Beibl Cymraeg.

T. O ran y cyfieithiad ni wnaed dim llawer o gyfnewidiad wedi'r argraffiad yn 1620. Am y cyfieithiad neu'r diwygiad hwnnw, yr hwn sydd gennym hyd heddyw, un da rhagorol ydyw. Yr oedd y gwr hynod a enwyd mor ddysgedig yn yr Hebraeg a'r Groeg fel, o bosibl, nad oes un cyfieithiad o'r Ysgrythyr yn y byd yn well na'r un Cymraeg, ond y mae llawer yn waeth nag ef; er ei fod yn hir cyn dyfod, eto efe a wnaed yn dda o'r diwedd.[8] Dylai'r gwyr ardderchog a lafuriasant gymaint wrtho, ar eu traul eu hunnan, oddieithr rhyw ychydig o wyr da oedd gyda hwy yn cynorthwyo, fod mewn coffadwriaeth dra- gwyddol ymhlith y Cymry.[9].

Beibl 1630.

P. Pa bryd y daeth y Beibl allan i'r bobl gyffredin?

T. Yn y flwyddyn 1630; ychydig wedi can' mlynedd ar ôl dechreu'r Diwygiad; can' mlynedd ar ôl dechreu'r gair Protestaniaid, ac yn agos can' mlynedd wedi dechreu Eglwys Loegr.

Rowland Heylin a Syr Thomas Middleton.

P. Ar draul pwy y daeth hwnnw allan?

T. Ar draul dau wr enwog o hiliogaeth y Cymry, y rhai oeddent y pryd hynny yn henuriaid. yn ninas Llundain; sef Mr. Rowland Heylin a Syr Thomas Middleton, o enedigaeth o Gastell y Wayn, yn sir Dinbych, rhwng Croesoswallt a Wrexham, a rhyw rai eraill yn eu cynorthwyo. Am yr olaf y mae Mr. Stephen Hughes yn dywedyd yn ei lythyr o flaen "Llyfr y Ficar," a argraffwyd yn 1672, mai Sir T. Middleton "yn anad neb arall, a ddangosodd y drugaredd hyn gyntaf i'n gwlad ni, sef i fod mewn traul i argraffu'r Beibl yn llyfr bychan er cyffredin bobl, er ei fod ef o'r blaen yn llyfr mawr yn yr eglwysydd." Ebe efe ymhellach yno—

Yr wyf fi'n dymuno o'm calon ar Dduw am i bob bendith ysbrydol a chorfforol ddesgyn o'r Nef ar bob un o eppil Sir Thomas Middleton, yng Ngwynedd, neu yn un lle arall. Rhodded Duw iddynt fendithion aneirif; fel tywod y môr, fel glaswellt y ddaiar, ac fel sêr y nefoedd: a dyweded pob un yng Nghymru ag sydd yn caru Duw ac yn hiraethu am iechydwriaeth eneidiau pobl yno, Amen, ac Amen; poed felly b'o, Arglwydd grasol, bendithia eppil Sir Thomas Middleton, a bydded ei enw ef dros byth yn anrhydeddus. Mae teulu anrhydeddus y gŵr haelionus yn byw hyd yn hyn yng Nghastell y Wayn.

P. Pa le y cawsoch chwi y rhan arall o'r hanesion hyn?

T. Y rhan fwyaf o'r hanes am gyfieithad ac argraffiad y Beiblau a gefais o lyfr Seisnaeg ein cydwladwr cymwynasgar Dr. Thomas Llewelyn, yr hwn a enwyd o'r blaen. Mae yn y llyfr hwnnw ychwaneg o hanes, nid yw hyn ond casgliad byrr o'r hyn sydd yno.

Nodiadau

[golygu]
  1. "Historical Account," P. 2.
  2. Yn 1546 argraffwyd llyfr o'r cynhwysiad hyn,—"Yn y llyvyr hwnn y traethir Gwyddor Kymraeg. Kalandyr. Y gredo, neu bynkey y ffydd gatholig. Y pader neu weddi yr Arglwydd. Y deng air deddyf. Saith Rinwedd yr egglwys. Y Kampey averadwy, a'r Gwydieu gochladwy ae keingeu." Dyma'r modd y rhoddir cynhwysiad y llyfr hwn gan Mr. Moses Willams yn ei Gofrestr yn 1717. Yr wyf fi yn hollol farnu mai hwn oedd y llyfr Cymraeg cyntaf ag argraffwyd erioed: ys dau can' mlynedd ac un ar ddeg ar hugain i'r flwyddyn hon, 1777
    Ni ellais wybod pwy oedd awdwr y llyfr cyntaf hwn, ond y flwyddyn nesaf, sef 1547, argraffwyd Geir-lyfr Mr William Salesbury, fel y nodir yn y blaen. Pedair blynedd ar ol hynny, sef yn 1551, argraffwyd llyfr arall yn Gymraeg o'r cynhwysiad hyn, yn ol cofrestr Mr. Moses Williams, Kynniver Ilith a ban or ysgrythur ac a ddarlleir yr Eccleis pryd Commun, Sulieu, a'r Gwyliau trwy'r vlwyddyn: o Gambereiciat William Salesbury."
    Wrth hyn yr ymddengys nad oedd Mr. S. Thomas wedi cael cywir hanes pan y dywedodd i'r Beibl gael ei droi i'r Gymraeg yn amser Harry'r 8fed, yr hwn a fu farw yn 1547— Mae Mr. Peter Williams yn dywedyd, yn ei lythyr o flaen Beibl Caerfyrddin, i'r Salmau gael eu cyfieithu yn amser y brenin hwnnw. Os cyfieithwyd hwy mor gynnar, ni welaf fi argoel iddynt gael eu hargraffu cyn 1551. Mae'n debyg mai hyn oedd y llyfrau Cymraeg oll cyn yr erledigaeth a ddechreuodd yn 1553.
  3. Hanes y Byd a'r Amseroedd, tu dal. 219.
  4. Mae Cofrestr Mr. Moses Williams yn dywedyd am Mr. William Salesbury mai gwr bonheddig ydoedd yn byw yn y Cae-du, yn Llansannan, yn sir Dinbych. Rhyfedd yr ymdrechodd y gwr da hwn dros y Cymry, er mwyn torri gwawr yr efengyl yn eu plith. Efe oedd awdwr y llyfrau canlynol: "A Dictionary in Englyshe and Welshe moche necessary to all suche Welshmen as wil Spedly learne the Englyshe tongue, thought unto the Kynges majestie very mete to be sette forthe to the use of his Graces Subjectes in Wales: Whereunto is prefixed a little treatyse of the Englyshe pronnunciation of the Letters." Argraffwyd hwn yn 1547. a'r ail lyfr ydoedd a ddaeth allan er mwyn y Cymry, yn ol y Gofrestr. Gweler hefyd Ragymadrodd Geir-lyfr Mr. T. Jones yn 1688.
    Wrth yr hyn sydd yma, a'r hyn a nodwyd o'r blaen, gwelir fod llawer o wahaniaeth rhwng y Gymraeg a'r Saesnaeg yr amser hynny a'r amser hyn. Mi a gymerais y geiriau mor gywir ag a gellais o'r Gofrestr, er mwyn dangos i'r darllenydd y gwahaniaeth hynny. Bu Mr. William Salesbury yn llafurus dros ei gydwladwyr yn amser Harri yr Wythfed, ac yn amser Edward y chweched, ac efe a lechodd, er hynny, yn rhyw fodd tra y parhaodd yr erledigaeth gwaedlyd a thanllyd yn amser Mary. Ond wedi ei marw hi, a dyfod Elizabeth i'r deyrngadair, cymerodd y gwr rhagorol ei waith da yn llaw drachefn. Trefnodd yr esgobion ef i edrych at argraffiad y Testament Newydd, fel y bu ef mor ofalus i gyfieithu y rhan fwyaf o hono.
  5. Dywedir i Dr. Gab. Goodman gael ei eni yn nhref Ruthyn yn sir Dinbych, ac i'r Beibl gael ei gyfieithu ar ei draul ef. Mae'n debyg iddo ddwyn rhan ganmoladwy o'r draul. Noorthouck's Historical and Classical Dictionary."
  6. Yn ôl Cofrestr Mr. Moses Williams ni argraffwyd dim llyfrau Cymraeg ond y rhai canlynol cyn y flwyddyn 1600:- sef y tri yn 1546, 1547. a 1551, cynhwysiad pa rai a roddwyd yn barod. Y ddau olaf, os nid y tri hyn, gan Mr. William Salesbury. Yn y chwanegiad at y Gofrestr nodir i un gwr, sef William Salesbury, argraffu llyfr Saesneg yn 1550 er mwyn y Cymry o'r enw A brief and plain Introduction, teaching how to pronounce the Letters in the British Tongue." Argraffwyd tri llyfr yn ychwaneg yn 1567, sef y Testament Newydd, fel y nodwyd, y llyfr Gweddi Gyffredin, o gyfieithiad William Salesbury, a Gramadeg Dr. Griffith Roberts, a enwyd yn barod. Erbyn hyn yr oedd y Testament gan ein hynafiaid; ond nid oedd ganddynt eto un lyfr o eglurhad arno, yr ychydig lyfrau eraill oeddent tag at addoliad Eglwys Loegr, ac i ddysgu darllen. Ymhen deunaw mlynedd ar ôl hyn, sef yn 1585. daeth allan lyfr hyfforddus mewn crefydd, fel y tybid wrth yr enw, sef Y Drych Cristionogawl, yn yr hwn dichon pob Cristiawn ganfod gwreiddin a dechreuad pob daioni sprydawl, sef gwybod modd i wasanaethu Duw, drwy ei garu ai ofni yn fwy na dim, &c." Yn 1592, medd y Gofrestr, y daeth allan Lythyreg, neu Ramadeg y Meddyg enwog hwnnw, Dr. John David Rees. Llyfr i'r dysgedig oedd hwnnw, yn Gymraeg a Lladin. Daeth hwn allan, ebe Mr. John Rhydderch yn Rhagymadrodd ei Ramadeg Cymraeg," yn 1590. Yn 1593 daeth allan Ramadeg Cymraeg tra chiwrain tuag at Brydyddiaeth neu Farddoniaeth, o waith y Cadpen William Middleton. A'r un flwyddyn y daeth allan Retoreg Mr. H. Perry, a enwyd eisioes. Yn 1594 argraffwyd Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr," o gyfieithiad Mr. Cyffin. Mae'r gwr hwn yn ei lythyr at y darllennydd yn dangos paham nad oeddid wedi argraffu mwy o Gymraeg yn gynt; sef pan yr oeddid yn sôn, mewn eisteddfod, am breintio Cymraeg, i wr eglwysig o Gymru ddywedyd yn erbyn argraffu un math o lyfrau Cymraeg er mwyn i'r Cymry oll ddysgu Saesneg, a cholli'r yr hen iaith yn hollol. Ond, ebe Mr. Kyffin, A allai y diawl ei hun ddywedyd yn amgenach, neu yn waeth? Nid digon oedd ganddo ysbeilio'r cyffredin o'u da daearol, ond efe a fynnai gwbl anrheithio eu heneidiau hefyd. Ond gan fod llyfr gair Duw wedi ei Gymreigu a'i breintio, nid gwiw i neb o blant v diawl bellach geisio tywyllu goleuni Cymru, gwnelent eu gwaethaf."(Llythyr Mr. S. Hughes o flaen llyfr y Ficar yn 1672) Gwelwn mor fawr oedd sel y gwr cwmynasgar hwn dros y Cymry druain. Yr oeddid wedi argraffu'r Ysgrythyr chwech mlynedd o'r blaen, fel y nodwyd. Dyma gyfoeth y Cymro o ran llyfrau yr amser hynny, sef yn 1600. Anwybodus iawn oedd y bobl eto, er fod hyn yn ddechreu gobeithiol tuag at oleuo cenedl a fuasai cyhyd mewn dudew dywyllwch. Mae Mr William Salesbury, yn ei lythyr o flaen y Testament at y frenhines, yn dyweyd an y Cymry fod yn anhawdd iawn ganddynt gynt dderbyn y grefydd Babaidd; ond yn awr, ebe fe, wedi ymarfer cyhyd â hi, anhawdd eto ganddynt ei gadael, a derbyn efengyl Crist.
  7. Wedi marw Dr. Morgan yn 1604, gosodwyd Dr. Parry yn esgob yn Llanelwy yn ei le ef
  8. "Historical Account," P. 27.
  9. Ysgolhaig a phrydydd anghyffredin oedd Mr. Edmund Prys, yr hwn a drodd y Salmau ar gân, y rhai sydd er ys hir amser yn cael eu cyd-rwymo â'r Beibl. Dywed Mr. John Rhydderch y medrai y gwr hwnnw eiliaw a gwau prydyddiaeth mewn wyth iaith, eto ei fod yn cyfaddef fel hyn am iaith ei wlad ei hun:—
    "Ni phrofais dan ffurfafen
    Gwe mor gaeth a'r Gymraeg wen." (Rhagymadrodd ei Ramadeg Gymraeg)