Neidio i'r cynnwys

Gwaith Joshua Thomas/CYFNOD Y SAESON

Oddi ar Wicidestun
CYFNOD Y RHUFEINIAID Gwaith Joshua Thomas

gan Joshua Thomas


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
CYFNOD Y DIWYGIAD PROTESTANAIDD

III. CYFNOD Y SAESON
450—1520

Saeson, clefydau, &c.

P. Pa fodd y bu ar y Cymry wedi hyn?

T. Er fod gweinidogion enwog yn eu plith yn yr amseroedd hyn, sef o'r flwyddyn 400 hyd 600, eto dirywio mewn crefydd yr oedd llawer o honynt, ac amryw fath o farnedigaethau oedd yn dyfod arnynt. Daeth y Saeson i'r wlad, bu clefydau yn eu plith, ac amryw bethau.

Gildas

P. Beth oedd enwau gweinidogion mwyaf hynod y Cymry yn yr amseroedd hynny?

T. Yr oedd Gildas yn enwog iawn, ac yn fawr ei sel yn erbyn llygredigaeth yr oes. Mae rhan o'i lyfrau ef eto ar glawr yn Lladin. Dywedir mai dyna'r llyfrau hynaf o waith Cymro ag sydd yn y byd 'nawr. Ysgrifennodd ef ychydig wedi'r flwyddyn 500.

P. Pa weinidogion hefyd oedd yn yr amser hynny? Dyfrig, Dewi, Dunawd, &c.

T. Gwr enwog iawn oedd Dyfrig, yr hwn a elwir Daubricius ymhlith y Rhufeiniaid ac eraill. Dewi hefyd, a Dynawt, Teilo Fawr, Padarn, Pawlin, Daniel a llawer eraill. Yn yr amser hyn yr oedd Taliesyn ben beirdd hefyd yn byw.

Awstyn Fynach

P. Pa fodd yr oedd y Cymry ynghylch bedydd yn yr amser hyn?

T. Yr oedd bedydd plant wedi dyfod i'r eglwys yn hir cyn hyn, ond dywedir fod y Brutaniaid yn dal yr athrawiaeth a dderbyniasant oddiwrth yr Apostolion. Yr oedd Pabyddiaeth wedi tyfu yn Rhufain. Pan y daeth Awstyn Fynach i droi y Saeson o fod yn baganiaid i fod yn Bapistiaid, mynnai ef i'r Cymry droi yn Bapistiaid hefyd. Ond hen Grisnogion deallus dewrion oeddent hwy, ac nid paganiaid anwybodus. Eto, er mwyn gwneyd cytundeb mewn crefydd rhwng y Cymry a'r Saeson, cynhaliwyd cymanfa fawr i'r diben hwnnw, tua chydiad sir Henffordd a sir Gaerwrangon, yn y maes, dan dderwen fawr gaeadfrig, yr hon a elwid wedi hynny Derwen awstyn; ond tebygol ei bod wedi ei thorri lawr cyn ein hainser ni. Yina'r oedd nifer fawr o weinidogion a bonedd Cymru. Er mwyn tynnu dibên byr ar yr yinddadleu, gosododd Awstyn dri phwnc a flaen y Cymry, gan addo y byddai pob peth yn heddychol os cytunent ar hynny. Un o'r tri peth oedd iddynt fedyddio eu plant.

Bedydd yn Eglwys y Cymry ac yn Eglwys Rufain.

P. P'un oedd Awstyn ai ewyllysio i'r Cymry fedyddio eu plant, neu ynteu eu bedyddio yn ôl trefn eglwys Rhufain, yr hon oedd mor llygredig?

T. Mae y sawl sydd dros fedydd plant yn dywedyd mai ceisio yr oedd ef gan ein tadau i fedyddio yn ôl trefn Rhufain.

P. Beth oedd trefn Rhufain yr amser hynny?

T. Tebygol mai trochiad oedd yr arfier, canys dywedir fod miloedd o'r Saeson yn cael eu bedyddio yn yr afonydd Gwâl, Swini, &c. Ond y mae Fuller a Fabian yn dywedyd y mynnai Awstyn i'r Cymry fedyddio eu plant. Y neb a fo am weled ychwaneg o r pethau hyn, darllened y llyfrau isod,[1] dangosir yno am lawer o awdwyr eraill ar y pethau hyn. Ond tybygol trwy'r cyfan i'n hynafiaid ddal yr ordinhad hon yn ol Gair Duw dros chwech neu saith gant o flynyddoedd. Canys dywedir mai eu hateb i Awstyn oedd y cadwent yr ordinhad hon a phethau eraill, fel ac y derbyniasent hwy er yr oes apostolaidd. Nid fy amcan i yw ymddadlu. Barna di ac eraill yn ol cydwybod.

Dial Awstyn.

P. Pa fodd y bu ar y Cymry wedi pallu cytuno ag Awstin?

T. Blin iawn a fu arnynt, druain, a gofidus. Cynhyrfodd Awstyn y Saeson i ddyfod yn erbyn y Cymry a dial arnynt, a dywedir iddynt ladd o gylch deuddeg cant o weinidogion a gwyr duwiol ar un waith, heb law llawer eraill. Gwelir hyn yn y llyfrau a nodwyd olaf. Mae Dr. Godwin, gynt esgob Llandaf, yn dywedyd am y pethau hyn hefyd.[2] "Llyncu'r llyffant yn lan."

P. Beth a wnaethant yn achos crefydd wedi y gofidiau blin hyn?

T. Dywed " Drych y Piif Oesoedd,' [3] i'r Brutaniaid sefyll o leiaf gant a hanner o flynyddoedd ar ol hyn oll yn wrolwych dros y wir ffydd, heb ymlygru â sored Pabyddiaeth; ond iddynt o'r diwedd, trwy gael eu perswadio yn raddol, lyncu'r llyffant yn lan, sef derbyn Pabyddiaeth yn hollol, yn y flwyddyn 763. Wrth hyn yr ymddengys i'r hen Gymry ddal yr efengyl dros saith can mlynedd, heb gael eu llwyr orchfygu gan goel grefydd Rhufain. Yr oedd ardaloedd mawrion a gwledydd ehang wedi mawr lygru ymhell cyn hynny.

Hywel Dda, Gerald Gymro, llyfrau diweddar.

P. Pa fodd y bu ar y Cymry wedi derbyn Pabyddiaeth?

T. Blin iawn o ran eu sefyllfa wledig, rhyfel a'r Saeson, a rhyfel yn eu plith eu hunain. Ond am grefydd, yr oeddent mewn ystyr yn agos i adael hynny heibio; oddieithr ychydig o Babyddiaeth. Eto byddai ambell wr rhagorol yn eu plith ar brydiau. Gwr enwog iawn oedd Howel Dda, yr hwn a fu dra defnyddiol yn y wlad o gylch y flwyddyn 940.[4] Gwr o Sir Benfro o enedigaeth oedd Giraldus. Yr ydoedd ef yn ddysgedig, wedi gweled a chlywed llawer, fel y dywed Dr. Godwin,[5] ac y dengys ei lyfrau. Bu ef farw, medd Dr. Godwin, yn y flwyddyn 1198. Am grefydd y Brutaniaid wedi derbyn Pabyddiaeth. gweler hanes byr yn y llyfrau Cymraeg canlynol, "Drych y Prif Oesoedd," tu dal. 272, &c, "Hanes y Byd a'r Amseroedd," o waith Mr.Simon Thomas, a enwyd yn barod, yr ail argraffiad, tu dal. 149, &c. " Hanes y Ffydd hefyd, heb law hanesion eraill.

Dianwadalwch y Cymry.

Nid pobl benysgafn, droedig, hawdd eu cylch arwain at bob awel dysgeidiaeth yw'r Cymry: eithr yn gyffredin, dynion dyfnion gafaelus ydynt, anhawdd ganddynt adael yn ebrwydd yr hyn a dderbyniont yn gyffredin i'w plith, pa un ai cain neu gymwys a fyddo. Felly megis y cadwasant athrawiaeth yr efengyl mor lew cyhyd, wedi llygru lleoedd eraill: o'r tu arall, wedi derbyn Pabyddiaeth, anhawdd iawn oedd ganddynt ymadael â hi.

Pobl heb Ysgrythyr.

P. A oedd yr Ysgrythyr ganddynt pryd hynny?

T. Och ! och ! nag oedd. Un o gaeth gyfreithiau'r Papistiaid oedd, na byddai'r Ysgrythyr gan neb ond yn y iaith Ladin. Felly'r oedd lluoedd o'r Cymry, druain heb wybod gair ar lyfr, nag un Beibl Cymraeg yn y byd, mae'n debyg. Yroedd ambell un duwiol a dysgedig yn eu plith yn galaru gweled eu cyflwr, ond heb allu ei wella.

Seren foreu'r Diwygiad.

P. Beth a ddaeth o'r wlad yn ol hyn?

T. Amcanodd ambell wr hynod mewn duwioldeb ddiwygio o Babyddiaeth mewn un wlad a'r llall. Bu amcan glew tuag at hyn gan Mr. John Wicliff o Lutterworth yn Lloegr, o gylch 1371. Er ei fod ef o ddefnydd mawr ymhlith y Saeson a thu hwnt i'r mor, eto nid wyf fi yn deall i'w athrawiaeth gael dim effaith ar y Cymry. Eithr o gylch 1517 safodd Luther, tu draw i'r mor, i fyny yn erbyn Pabyddiaeth yn wrol; a bendithiodd Duw ei waith. O'r amser hynny allan y cadarnhawyd yr hyn a elwir y Diwygiad

Nodiadau

[golygu]
  1. "Acts and Mon." p. 149. &c. Preface to Crosby, 2 vol.
  2. Catalogue, p. 43, &c. ,Tu. dal. 267.
  3. "Drych." &c., tu dal. 249, &c.
  4. Darfu i Howel Dda ysgrifennu cyfreithiau i'w ddeiliaid, canys Tywysog mawr yng Nghymru ydoedd. Mae llawer o sôn am gyfreithiau Howel Dda ymhlith y dysgedigion hyd heddyw. Y maent eto i'w gweled, yn Gymraeg ac yn Lladin. Ynghylch 1717 darfu i Sais. enwog o ran dysg a deall, ddysgu yr iaith Gymraeg mor berffaith fel y darfu iddo gyfieithu Cyfraith Howel Dda o'r iaith wreiddiol. sef y Cymraeg, i'r Lladin.
    *Y gwr hwnnw oedd Dr. W. Wotton. yr hwn a fu farw cyn argraffu ei waith ei hun; ond wedi hynny daeth y llyfr allan yn drwsiadus a hardd. Tybygol fod y cyfreithiau hyn wedi eu troi i'r Lladin o'r blaen; ond yr oedd y gwr anghyffredin hwn am ddeall y gyfraith ei hun yn dda yn y iaith wreiddiol, er mwyn cael cyfieithiad cywir. Mae rhan fechan o'r cyfreithiau hyn yn "Nrych y Prif Oesoedd," yr ail argraffiad, dal. 136. &c. Mae Mr. Moses Williams yn rhoi gair rhyfedd i Dr Wotton, o ran ei ddeall yn y iaith Gymraeg.
    *Yn llythyr cyflwyniad ei Gofrestr, yn 1717.
    *History of Wales,"p. 42. &c. Dr. Llewelyn's " Historical Account of the British Versions and Editions of the Bible, p. 42. Mr. F. Walters's Dissertations on the Welsh Language." p. 56. 70.
  5. Catalogue, p. 512.