Neidio i'r cynnwys

Gwaith Joshua Thomas/CYFNOD Y RHUFEINIAID

Oddi ar Wicidestun
DIBEN HANES Gwaith Joshua Thomas

gan Joshua Thomas


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
CYFNOD Y SAESON

II. CYFNOD Y RHUFEINIAID.
1—450.

P. A oes son am y Cymry yn yr Ysgrythyr?

T. Mae'r dysgedigion yn barnu fod y Cymry wedi cael eu henw felly oddiwrth fab hynaf Japheth, yr hwn oedd fab hynaf Noë.

P. Atolwg, beth oedd enw y mab hwnnw?

T. Gomer, fel y gweli yn Gen. x. 2.

Pwy sy'n dweyd Gomer.

P. Pwy ydyw rhai o'r dysgedigion sydd yn barnu felly?

T. Mi a enwaf dri o lawer, sef Dr. Gill, Mr Arthur Bedford, a Mr. Theophilus Evans. Y maent hwy, yn eu llyfrau isod,[1] yn enwi amryw yn ychwaneg. Mae'r awdwyr hyn yn dangos pa fodd y daethant o wlad i'r llall ac o enw i gilydd, nes dyfod o dŵr Babel i'r ynys hon, ac yma cadw enw Gomer yn fwy naturiol y dydd heddyw nag un rhan arall o'i hiliogaeth dan haul.

Un or "ynysoedd pell."

P. A oes son yn y Gair am ynys Brydain?

T. Mae yno sôn yn fynych am yr ynysoedd, megis yn Psal. lxxii. 10 a'r xcvii. 1. Ac wrth ystyried cynnifer o dduwiolion a fu yma, ni welaf fì achos i ameu nad oedd yr ynys hon ymhlith y rhai mae'r addewidion yn perthyn iddynt yn Esa. xlii. 4. a'r li. 5. Ac yr wyf yn neillduol hyderus, mai Cymraeg yw un o'r iaithoedd a ddeuent i weled gogoniant yr Arglwydd; mai Cymry yw un o'r holl genedloedd a gesglid at Iesu Grist trwy'r efengyl; ac mai Prydain yw un o'r ynysoedd pell, yn ol yr addewid yn Esa lxvi. 18, 19.

A. A oedd y Beibl a gwir grefydd yma ymhlith ein cenedl ni yn yr hen amser gynt?

T. I genedl Israel y rhoddes Duw ei air i'w gadw hyd ddyfodiad Crist, fel y gwelir yn Rhuf. iii. 2 a'r ix. 4. Yr oedd ein cenedl ni, fel yr holl genhedloedd eraill, heb air Duw yr amser hynny.mlynedd ar hugain wedi croesholiad Crist, ac o [2]

Pryd y daeth yr Efengyl?

P. A wyr neb pa hyd y bu cyn i'r efengyl ddyfod i n gwlad ni, ar ôl amser ein Harglwydd Iesu?

T. Wrth fyned i ogoniant, un o'r geiriau diweddaf a ddywedodd ein Harglwydd bendigedig wrth ei apostolion oedd gorchymyn iddynt fyned i'r holl fyd, pregethu'r efengyl i bob creadur, a dysgu'r holl genhedloedd,[3] gan ddywedyd,—"Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig; eithr y neb ni chredo a gondemnir." Ar hyn aeth y gyfraith allan o Sion, a gair yr Arglwydd o Jerusalem, yn ol y proffwydi,[4] canys ar fyrr, aeth cenhadon yr Arglwydd yn rhwydd trwy'r gwledydd, ac nid hir y bu'r efengyl dlws nes cyrhaeddyd ein hynafiaid ni, yn ynys Brydain, yn ol yr addewidion a'r proffwydoliaethau y grybwyllwyd yn barod. Rhai a ddywedant bregethu'r efengyl yma cyn pen ugain mlynedd wedi dydd y pentecost yn Act. ii. 1, &c. Ond y mae haneswyr yn gyffredin yn cytuno fod yr efengyl yma yn y fìwyddyn 63. Yr oedd hynny lai na deng gylch yr un nifer o flynyddoedd cyn cael o Ioan y weledigaeth hynod honno yn Dad. i. 9, &c. Yr ydys yn barnu mai o gylch y flwyddyn 63 y daeth Paul yn garcharor i Rufain.[5]

Joseph o Arimathea.

P. A oes gwybodaeth pwy a bregethodd yr efengyl yma gyntaf?

T, Nid yw haneswyr yn cytuno yn hyn. Rhai a ddywedant fod Paul yma yn pregethu, rhai a ddywedant fod Petr, ac eraill o'r apostolion; eithr y farn fwyaf cyffredin y w mai Joseph o Arimathea, sef y gwr urddasol a gladdodd ein Harglwydd Iesu, oedd yr hwn a seiniodd udgorn mawr yr efengyl yma gyntaf oll. Nid oes achos i ni ymbalfalu llawer am hyn. Digon yw i'r newyddion da o lawenydd mawr mor gynnar gyrhaeddyd ein gwlad ni, yr hon oedd eithaf byd i'r oes honno, er fod gwledydd ehang heb glywed yr efengyl eto.

Ymweliad Julius Cesar.

P. Pa ffordd adrefnodd rhagluniaeth i'r Gair ddyfod yma mor gynted, pan yr oedd y wlad mor bell, ac yn cael ei hamgylchu gan y môr?

T. Mae amcanion drwg dynion yn cael eu troi i ganlyniadau da yn fynych, megis gwerthu Joseph i'r Aifft. Felly o gylch hanner can' mlynedd cyn geni Crist daeth Julius Cesar, ymerawdwr Rhufain. i ran fechan o'r ynys hon. sef Cent, ar lan môr Ffrainc. Er fod rhyfel gwaedlyd rhyngddo a'r hen Gymry, eto ymhen amser daethant yn fwy heddychol, ac agorodd hynny ffordd i amryw o'r Cymry fyned i Rufain ar amserau. Yr oedd y Rhufeiniaid yr un pryd yn llywodraethu gwlad Judea. Felly trefnodd hyn ffordd i bobl Israel a'r hen Frutaniaid ddyfod yn gydnabyddus â'u gilydd.

Cymry'r Ysgrythyr,

P. A oes enwau neb o'r Cymry yn yr Ysgrythyr?

T. Pan elai'r Cymry i blith y Rhufeiniaid yr oeddid yn newid eu henwau, am na allai ddieithriaid iawn ddywedyd eu henwau priodol, gan hynny anhawdd yw gwybod yn sicr pa un ai bod enwau rhai o'r wlad hon yn epistolau Paul ai peidio; oddieithr un wraig urddasol o'n gwlad ni. Mae'r dysgedig yn barnu mai Cymraes oedd hi.

P. Beth oedd enw honno? Mi a fernais nad oedd enw neb o'r Cymry yno.

T. Ei henw yn epistol Paul yw Claudia, yn ol Arfer y Rhufeiniaid.[6] Ei hcnw hi yma, meddant, oedd Gwladus Rufydd, ond yn Rhufain Claudia Ruffina. Dywedir mai ei gwr hi oedd Pudens, a enwir yn yr un lle, ac mai gwr mawr iawn ydoedd ef, ac un o'r saint o deulu Cesar.[7] Mae rhai yn dywedyd mai mab Pudens a Chlaudia oedd Linus; os felly hawdd yw barnu i'r Crisnogion enwog hyn wneyd eu rhan ar i'r Cymry gael yr efengyl.

Haneswyr y Cymy.

P. A oes llyfrau yn rhoi hanes am y pethau hyn oll?

T. Oes llawer, yn enwedig y rhai isod,[8] ac y mae'r awdwyr hynny yn sôn am hanes o hyn a roddir gan Clement, Origen, Theodoret, Tertulian, Eusebius, Jerom, Gildas, Nicephorus, Bede, Usher, Stillinfleet, Fuller, Rapin, Danvers, Calamy, Sir John Floyer, ac amryw eraill.

Ai Bedyddwyr?

P. Ai Bedyddwyr oedd y Crisnogion cyntaf o'r Cymry?

T. Diau mai'r un peth oeddent hwy a'r eglwys Gris'nogol ymhob man yn yr oes honno. Nid fy amcan yw dadlu yngylch Bedydd yn awr; ond gwyddis yn gyffredin fy mod i yn barnu mai Bedyddwyr oedd y Crisnogion oll yramser hynny, ac felly'r Cymry ymhlith y lleill.

Lles ab Cocl, Elwy a Mowddwy, Dyfan.

P. A barhaodd yr efengyl yn ein gwlad ni wedyn?

T. Parhaodd gannoedd o flynyddoedd. O gylch y flwyddyn 180, medd rhai, y bedyddiwyd y brenin Lles ab Coel yn y wlad hon; a dywedir mai efe oedd y brenin cyntaf a fedyddiwyd yn y byd. Geilw'r Rhufeiniaid y gwr hwn Lucius, a'r Cymry a'i galwant, am ei ddaioni, Y Lles a'r Lleufer mawr," sef "Lles a goleuni mawr." Danfonwyd dau wr i Rufain yn yr amser hynny i ymofyn am wyr i gynorthwyo yma i bregethu. Y ddau a ddanfonwyd yno a elwid yma Elwy a Mowddwy, ond gelwid hwy yn Rhufain Elvanus a Medwinus. Danfonwyd dau wr oddi yno i gynnorthwyo yma; gelwid y ddau wr hynny yno Faganus a Damianus, neu ryw beth fel hynny, ond galwa'r Cymry hwy Dyfan a Phagan. [9] Y Ddegfed Erledigaeth.

P. A fn dim erledigaeth am grefydd yma yr amseroedd hynny?

T. Bu deg o erledigaethau creulon ar y Crisnogion tra fu yr ymerawdwyr paganaidd yn llywodraethu yn Rhufain; ond trwy ddaioni Duw i'n tadau ni, a bod y wlad hon mor bell, ni ddaeth yma ond y ddegfed erledigaeth yn amser Diociesian, yr ymerawdwr, ychydig cyn y flwyddyn 300. Dywedir fod yr erledigaeth honno yn waedlyd iawn yma, ac mai Alban oedd y merthyr cyntaf ar dir Brydain Fawr. Ar ei ol ef Aaron a Julius, gwyr enwog o Gaerlleon ar Wysg. Bu yma ddifa ofnadwy ar Grisnogion a'u llyfrau yr amser hynny. Gorchymyn caeth Diolcesian oedd llwyr ddifetha a llosgi tai addoliad a llyfrau y Crisnogion, heb adael papuryn heb ei losgi ag oedd yn cynnwys athrawiaeth Crist ac yn rhoddi hanes o fywyd y prif Grisnogion. Ni adawyd fawr o ysgrifeniadau'r Cymry yr amser hynny. Rhai yn dywedyd ddifa'r cwbl, eraill yn meddwl i rai gael eu cadw yn rhyw leoedd.[10]

Cystenyn Fawr.

P. A ddifethwyd crefydd yn hollol o blith y Cymry yr amser hyn?

T. Na ddo; fe dosturiodd Duw wrth y Brutaniaid er hyn oll, ac o'u plith y cyfodwyd amddiffynwr hynod o wir grefydd, sef Cystenyn Fawr, yr hwn a elwid yn Rhufain Constantinus. Mab ydoedd ef i Elen, ferch Coel Godebog, Iarll Caerloew. Gwr o Rufain oedd ei dad; eithr dywedir eni y mab yn y wlad hon, lle bu ei dad a'i fam yn byw ennyd o amser. Dywedir ei fedyddio yntef ar broffes o'i ffydd.[11] Fel mai brenin o Gymru oedd y cyntaf o'r byd a fedyddiwyd, megis y tystia llawer; felly gwr o Gymru oedd yr ymerawdwr Crisnogol cyntaf yn y byd, a gwr enwog iawn oedd ef. Daeth tawelwch mawr oddiwrth erledigaeth trwy'r gwr hwnnw, yn holl rannau'r byd Crisnogol.

Pelagius.

P. Mawr oedd daioni Duw i'n tadau ni. A gawsant ddim gofid oddiwrth gyfeiliornadau mewn crefydd, fel rhannau eraill o'r byd?

T. Yr oeddent hwy yn cadw'r gwirionedd yn lew iawn tu hwnt i'r rhan fwyaf o broffeswyr. Ond cyfododd gwr yn eu plith yr hwn a fu niweidiol iawn, ei enw yma oedd Morgan, ond mewn gwledydd eraill Pelagius. Gwr o Wynedd ydoedd. Darfu i Mr. Simon Thomas, gwr o enedigaeth gerllaw'r Cilgwm yn Sir Aberteifi, argraffu hanes Pelagius, a'i farn, yn 1735. Mae "Drych y prif Oesoedd," a Saeson, Lladinwyr, a Groegiaid yn sôn am y gwr hwn, canys yr oedd yn adnabyddus trwy'r byd Crisnogol. Ei athrawiaeth oedd yr hyn a elwir, yn yr amser hyn, Arminiaeth, neu gyffelyb i hynny.

P. Pwy amser oedd hyn?

Garmon a Lupus.

T. Ychydig cyn y flwyddyn 400. Yr oedd y Crisnogion o'r blaen yn ddiweddar wedi cael blinder mawr oddiwrth un Arius, gwr o'r Aifft, yr hwn oedd yn gwadu duwdod Crist; ond ni wnaeth hwnnw ddim llawer o niwed yn y wlad hon. Eithr cawsant yma ofid a blinder trwy gyfeiliornadau Morgan. Gan hynny danfonwyd Garmon a Lupus, o Ffrainc, i gynorthwyo y Brutaniaid, a'u cadarnhau yn y wir ffydd.

Nodiadau

[golygu]
  1. Dr. Gill on Gen. x. 2, &c. Bedford's " Scripture Chronloogy," p. 194, &c. Drych y Prif Oesoedd." tu. dal. 7.
  2. Psal cxlvii. 19. 20. Eph. 11, 12.
  3. Mat. xxviii 19. Marc xvi. 15.
  4. Esa. ii. 3. Mic. iv. 2.
  5. Actau xxviii. 14, &c.
  6. 2 Tim. iv. 21
  7. Phil iv. 22.
  8. "Drych y Prif Oosoedd. " tu dal. 179. &c. Crosby's 'Hist. o'f the English Baptists," vol. 2 Prefacc. Fox's " Acts and Monmnents." p. 137. &c. Dr. Gill and Mr. Henry on 2 Tim. iv. 21. Godwin's Catalogue. &c. p. 1. &c.
  9. "Acts and Monumcnts, " p. 96. Crosby, vol. 2 Preface. Godwin p. 36. " Drych," &c., tu dal. 1S8, &'c.
  10. "Drych," &c., tu dal. 196, &c. "Prcface to the history of Wales, in 1702."
  11. Drych." &c., tu dal. 64, 203, &c. Ocs Lyfr o waith Mr. Thomas Williams "Acts and Mon." p. 140. Danrers on baptism, pp. 60, 61..