Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Adref at Mam

Oddi ar Wicidestun
Mae cariad yn ddall Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Y corwynt

ADREF AT MAM

PAN b'wyf oddicartref, 'rwy'n teimlo
Fy hunan yn blino'n y byd,
Pan fydd fy ngelynion yn beio,
Ac ereill yn gwawdio'r un pryd;
'Rwy'n teimlo fel plentyn chwe troedfedd
Pan byddwyf yn cael unrhyw gam,
A byddaf yn dwedyd yn fynych,—
Mae arnaf eisieu mynd adref at mam.

Os byddaf yn gweled rhyw lencyn
Yn tyfu'n gicaion o hyd,
Yn lluchio ei arian fel cregyn,
A lluchio'i gymeriad 'run pryd,
'Rwy'n teimlo cryn awydd ar brydiau
Rhoi cyngor i'r cyfryw rhag cam,—
"Rhag iti ymhollti gan falchder,
Dos adref yn ol at dy fam."

Bum unwaith yn caru genethig
A'm calon yn gwlwm dan glo,
Yng nghariad fy meddwl brwdfrydig,
Mi deimlwn mor wirion a llo;
Gofynnais i'r ferch am briodi,
A'm dilyn trwy lwyddiant a cham,
Ond dyma'r atebiad roes imi,—
"Mae arnaf eisieu mynd adref at mam."

Mi lwyddais cyn hir i'w pherswadio
I gymryd fy nghalon a'm llaw,
I mewn i hen eglwys Llandrillo
Yr aethom ein dau yn ddi-fraw;
"A gymrwch chwi John," ebe'r person,
"Yn ŵr rhag pob gofid a cham?
Yn lle dwedyd "ymraf," mi waeddodd,—
Mae arnaf eisieu mynd adref at mam.

—————————————

BRON Y GAN

"Mewn adfyd a hawddfyd, mewn gaeaf a haf,
Mae nghalon yng Nghymru ple bynnag yr af."

—————————————

Os gwelwch chwi eneth ben-chwiban
Yn chwilio am gariad a gŵr,
Heb fedru rhoi nodwydd mewn hosan,
Na gwybod am sebon a dŵr,
Rhown gyngor i'r llanciau twymgalon,
Heb ddwedyd y rheswm paham,
Dywedwch wrth bob hogen wirion,—
"Dos adref yn ol at dy fam."

Peth anhawdd yw goddef yr hogyn,
Cyn tyfu yn bedair ar ddeg,
Yn ordro ei gwpan neu nogyn
A phibell wên hir yn ei gêg;
Cymerwch dosturi o'r bychan,
Rhag iddo gael gofid neu gam,
A rhowch iddo farblen neu degan,
A gyrrwch e'n ol at ei fam.
 Ebrill 12, 74.