Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Mae cariad yn ddall
← Felly'n Wir | Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 Caniadau gan Richard Davies (Mynyddog) Caniadau |
Adref at Mam → |
MAE CARIAD YN DDALL
Fe ddwedir gan hen awenyddion
Fod cariad mor gryfed a'r graig,
Ac nad oes dim nerth ymysg dynion
Fel cariad cyd-rhwng gŵr a gwraig;
Gwna hwnnw'r cysylltiad yn deilchion
Rhwng plant a rhieni tra mwyn,
A llusga'r ferch gerfydd ei chalon,
A'r llencyn yng ngherfydd ei drwyn;
Ond mae cariad yn ddall, mae cariad yn ddall,
Mewn meibion a merched, y naill fel y llall.
Fe ddwedir fod clustiau gan gariad
Yn clywed un ochr i gyd,
Fe glywa bob da gaiff ei siarad,
Ond chlyw o'r un drwg yn y byd;
Ond rhowch iddo spectol o arian
Neu aur fydd yn bunnoedd o gôst,
Mae cariad drwy'r spectol a'r cyfan
Bob amser mor ddalled a'r pôst;
Mae cariad yn ddall, mae cariad yn ddall,
Mewn meibion a merched, y naill fel y llall.
'Rwy'n nabod llanc ieuanc anghennog,
Sy'n meddwi bob bore a nawn,
Ei logell sy'n wâg fel ei benglog,
Er mwyn cael ei wydryn yn llawn;
Pe byddai gwobrwyo am regu,
Rwy'n siwr yr ai'r wobr iddo ef,
Er hynny mae Jane yn ei garu
Fel pe byddai'n angel o'r nef;
Mae cariad yn ddall, mae cariad yn ddall,
Mewn meibion a merched, y naill fel y llall.
Mi welais ferch ieuanc dro arall
Yn hoeden ddilewyrch, ddi-les,
Heb ganddi na glendid na deall,
A'i gwyneb yn cario'r holl bres;
Ni welwyd erioed ddiwrnod golchi
Yn almanac bywyd y fûn,
Er hynny, 'roedd John yn ei charu
Yn fwy na ei enaid ei hun ;
Mae cariad yn ddall, mae cariad yn ddall,
Mewn meibion a merched, y naill fel y llall.
Ar ol i ti briodi cei physig
A ddaw a dy lygad i drefn,
Fe weli bob peth yn ddau-ddyblyg
Pan ddaw yr hen fyd ar dy geîn ;
'Rol daw rhyw ddwy fil o ofalon
A'u bysedd i'th lygaid bob dydd,
Bydd rhy hwyr it rwbio'th olygon,
Ac edrych o'th gwmpas beth sydd ;
Mae cariad yn ddall, mae cariad yn ddall,
Mewn meibion a merched, y naill fel y llall.
Ion. 26, '75.