Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Dyna Mae Pobl yn Ddweyd

Oddi ar Wicidestun
Rwy'n Gymro Pur Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Deigryn Ar Fedd

DYNA MAE POBL YN DDWEYD

OS gwelwch chwi rywrai o'r naill dŷ i'r llall
Yn taenu chwedleuon di-ri,
Mae rheiny bob amser yn feibion y fall,
Neu yn waeth os oes le, am wn i;
Hwy ddwedant mor dduwiol wrth dywallt eu tê, —
"Mae pwy'ma mron iawn cael ei wneud;
Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion, yntê,
Ond dyna mae pobl yn ddweyd."

"Mae Dafydd yn meddwi yn chwil bob dydd Iau,
A Morus am adael ei wraig,
A Robert yn myned nos Sadwrn fel tae
I ddanfon Sian Jones Tan y Graig;
Mae merch Sion yr Efel ers tro mewn gown gwyn,
Ond thalodd hi byth am ei wneud;
'Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion fel hyn,
Ond dyna mae pobl yn ddweyd."

"Aeth Mrs. Meredydd i geisio ddydd Llun
Am wenwyn gan ddruggist o'r dre',
Er mwyn cael gwneud diwedd am dani ei hun,
Ond yfodd y brandi'n ei le;
A rhoddodd y gwenwyn bob dropyn i'r gath,——
Rhag c'wilydd i'w gwyneb am wneud;
'Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion fel hyn,
Ond dyna mae pobl yn ddweyd."


"Mae Miss Mary Bethma bron llwgu'n y lle,
Er mwyn cael gown newydd bob lloer,
A Sion Harri Sion yn rhoi rum yn ei dê
I gadw ei hunan yn oer;
Mae gwallt wedi'i brynnu ar goryn Miss Price,
Mae deirawr bob bore'n ei wneud;
'Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion mor neis,
Ond dyna mae'r bobl yn ddweyd."
Mai 13, 1875.