Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Rwy'n Gymro Pur

Oddi ar Wicidestun
Eisteddfod Porthmadog Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Dyna Mae Pobl yn Ddweyd

'RWY'N GYMRO PUR.

RYWY'N Gymro pur o fy mhen i ’nhraed,
Rwy'n Gymro o galon, 'rwy'n Gymro o waed,
A thra y cura y galon hon,
Mi garaf finnau hen Gymru lon;
Os gelwir y Cymro yn afr gan rại,
'Dyw hynny yn gwneud mo'r Cymro yn llai,
Mae'n well gen i fod yn afr mewn bro,
Na bod yn ful, na bod yn llo.
'Does wlad mor ddi-sen
Dan gwmpas y nen
Na hanner mor dda a Gwalia Wen.

Yr Wyddfa fawr yw ei choron hi,
Y Gader, a'r Aran, a'r bryniau di-ri;
Mae bythol swyn yn ei dolydd gwyrdd,
Ac ar ei llechweddau mae ceinion fyrdd,
Mae murmur gwyllt y rhaeadr gwyn
Yn rhuo'i mawredd ym mhob glyn,
A'r hen Gymraeg a'i seiniau cain
Sy'n seinio'n uwch na'r oll o'r rhai'n.
'Does wlad mor ddi-sen
Dan gwmpas y nen,
Na hanner mor dda a Gwalia Wen.