Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Eisteddfod Ffestiniog, Sulgwyn, 1875

Oddi ar Wicidestun
Roedd Mam Yn Siglo Baban Llon Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Arhoswch Dipyn Bach

EISTEDDFOD FFESTINIOG
SULGWYN, 1875.

MAE eisieu 'Steddfod ambell dro
I wŷr y fro gael treio,
Mae eisieu 'Steddfod ym mhob plwy,
Gael gwybod pwy sy'n gweithio;
Mae eisieu 'Steddfod ddoniol, ddel,
I bob rhyw chwarel enwog,
Ac eisieu 'Steddfod ar ben blwydd
I brofi llwydd Ffestiniog.

Boed llwyddiant i lenorion doeth
A chanwyr coeth Ffestiniog,
"I fyny" fyddo'u hunol lef,
Hyd at y nef serenog;
Boed mil o feirdd mewn tlysau aur
O amgylch godre'r Moelwyn,
A bendith nef ddisgynno i lawr
Ar 'Steddfod fawr y Sulgwyn.
Mai 11, 1875.