Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Eisteddfod Madog

Oddi ar Wicidestun
Mae Eisieu Rhywbeth O Hyd Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Lawr â Dic Sion Dafydd

EISTEDDFOD MADOG

CAWN glywed llais Miss Edith Wynne
Yn canu fel yr eos,
Ac Eos Morlais gyda hyn,
A rhuad Lewis Tomos;
Chwareua'r Pencerdd fiwsig gwiw
Ar hyd ei dannau arian,
A neidia d'reidi'n wreichion byw
O lygaid Tanymarian;
Daw T. O. Hughes i'r 'Steddfod,
A Mrs. Hughes i'r 'Steddfod,
A mil o'n beirdd yn moli'n bêr
Am hwyl i gadw 'Steddfod.