Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Lawr â Dic Sion Dafydd

Oddi ar Wicidestun
Eisteddfod Madog Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Y Llwynog a'r Fran

LAWR A DIC SION DAFYDD

WEL, iechyd byth i'r Cymro mâd,
Sy'n caru'i iaith a charu'i wlad,
A phell y bo y llipryn llaith
Sy'n gwadu'i wlad a gwadu'i iaith,
A hyn fo'n gân trwy Gymru i gyd,—
Lawr â Dic Sion Dafydd,
Lawr â Dic Sion Dafydd
Ar ei hyd.

Aeth llawer llanc am fis o'i fro,
Gan ddychwel adre 'mhell o'i go',
A chwyddai i fyny gyda brol,
Heb iaith na synwyr yn ei siol,
A hyn fo'r gân trwy Gymru i gyd,—
Lawr â Dic Sion Dafydd,
Lawr â Dic Sion Dafydd
Ar ei hyd.

Mae'n rhaid fod dyn â synwyr cam,
Cyn cefnu byth ar iaith ei fam ;
A rhaid ei fod yn llo dichwaeth,
Cyn gwadu'r wlad rodd iddo faeth,
A hyn fo'r gân trwy Gymru i gyd,—
Lawr â Dic Sion Dafydd,
Lawr â Dic Sion Dafydd
Ar ei hyd.

Boed llwydd a chlôd yn dod i'r dyn
Sy'n anrhydeddu'i wlad ei hun,
A lawr yr elo'r llelo llaith
Sy'n dewis gwadu'i wlad a'i iaith ;
A hyn fo'r gân trwy Gymru i gyd,—
Lawr â Dic Sion Dafydd,
Lawr â Dic Sion Dafydd
Ar ei hyd.
Mai 22, '73.