Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Eisteddfod Y Wyddgrug

Oddi ar Wicidestun
Gŵr a Gwraig Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Mae Eisieu Rhywbeth O Hyd

EISTEDDFOD Y WYDDGRUG

PETH digrif gweled Andreas Môn
A mantell at ei sodlau,
A chap 'r un fath a chrempog sgwâr
Yn union ar ei aeliau;
Peth od gweld Osborne Morgan hardd
A Gladstone yn cusanu,
A'r corau'n ffraeo fel y cŵn,
Ac Estyn wedi crygu.