Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Gŵr a Gwraig

Oddi ar Wicidestun
Cofiwch Beidio Dweyd Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Eisteddfod Y Wyddgrug

GWR A GWRAIG

WELE bin ac wele bapur,
Wele awydd plethu cân,
Ond mae eisieu snyfî a phupur
I gynhyrfu'r awen lân,
Ac mae eisieu testun canu,—
Cân heb destun swynol sy
Fel y dyn yn adeiladu
Heb un sylfaen dan ei dŷ.

Dyma destun iawn i ddechreu,—
Hanes bywyd gŵr a gwraig,
Hanes treigliad y serchiadau
Sydd yn dal yn gryf fel craig;
Dyna'n gyntaf un peth rhyfedd,
Ni fydd 'run o'r ddau yn iach, !
Os na chânt bob 'nail a charu,
Weithiau ffraeo tipyn bach.

"William anwyl," ebe Elen
Wrth ei gŵr brynhawn ddydd Llun,
"Dyma'ch slippers, dyma'ch cetyn,
Smociwch gatied 'neno dyn;
William, cym'rwch fwy o siwgwr,
Ydyw'r tê yn ddigon cry?—
Gaf fi bumpunt, William anwyl,
I gael gown o sidan du?"

"Wel, f'anwylyd," ebe William,
"Chwi yw geneth oreu'r byd,
O! mae'n dda gan i am danoch,
Elen anwyl, dlws i gyd;

Gaf fi ofyn un gymwynas,
Elen anwyl—dim ond gair,—
Rhowch im' sofren bore fory,
'N arian poced yn y ffair."

"Wel, f'anwylyd," ebe Elen,
Ryw fis Ebrill ar brynhawn,
"Dowch, gorfîwyswch, William anwyl,
'Roedd hi heddyw'n gynnes iawn;
Peidiwch oeri ar ol chwysu,
Dyna fachgen doniol, da,—
William, dwedwch gaf fi brynnu
Bonet newydd cyn yr ha?”
Ion 27 '75