Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Gwen O Goed Y Ddôl

Oddi ar Wicidestun
Y Ffasiwn Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Y Moch yn yr Haidd

GWEN O GOED Y DDOL.

O Gaf fi 'nghalon yn ei hol?
Neu os na chaf hon gan ti,
Cymer finnau gyda hi;
Wêl di 'nawr y deigryn mawr
Yn dod, yn dod o'm mynwes?
Wêl di 'nawr y deigryn mawr
Yn dod o wraidd fy mynwes?

Tra bo euraidd wawr y nen
Yn adliwio eurwallt Gwen,
Dwg y ser ar gôf i mi
Oleu byw dy lygad di,
Ac yn dyst o'm serch yn awr,
Treiglo i lawr mae'r deigryn mawr.
Ffarwel mwy, fy anwyl Gwen,
Bendith nef fo ar dy ben,
Cei fy nghalon ffyddlon, ffôl,
Gyda thi yng Nghoed y Ddol.